Ffwng Clefyd Coed Ynn

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi cynnig helpu’r Comisiwn Coedwigaeth i gynnal mwy o arolygon o goetiroedd a all fod yn heintiedig ac i barhau gwneud hyn os bydd angen.

Ar gyfer mwy o wybodaeth a chyngor pendant, rydym yn argymell bod aelodau’r cyhoedd yn ymweld â gwefan y Comisiwn Coedwigaeth: http://www.forestry.gov.uk/chalara.

Rydym hefyd yn argymell y wefan ganlynol am ganllaw fideo i adnabod coed ynn heintiedig: http://www.ashtag.org/

Adroddwch unrhyw ddarganfyddiadau amheus i’r Comisiwn Coedwigaeth yn syth, ac nid i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) wedi cyhoeddi datganiad cyhoeddus yn crynhoi amcanion y Llywodraeth ar gyfer rheoli ac atal ymlediad yr haint ffyngaidd hon. Mae’r datganiad yn crynhoi dull pum pwynt i gyflawni’r amcanion hyn, ynghyd â’r blaenoriaethau tymor hir. Bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi cynllun gweithredu ar ddiwedd mis Tachwedd 2012. Yn y cyfamser mae DEFRA hefyd yn argymell gwefan y Comisiwn Coedwigaeth sydd wedi’i rhoi uchod.