Cynulliad Dinasyddion

Diolch i bawb a ymatebodd i ffurflen Cynulliad y Dinasyddion, gwerthfawrogir yn fawr.

Mae’r Cynulliad bellach wedi’i ffurfio a gwnaethom gynnal cyfres o weithdai byr ar-lein ym mis Gorffennaf 2021 i rannu mewnwelediadau a phrofiadau am yr hyn sydd bwysicaf i aelodau’r Cynulliad – fel rhywun sy’n byw, yn gweithio neu’n ymweld â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn rheolaidd.

Mae hyn wedi profi i fod yn llwyddiannus iawn, a bydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn parhau gyda Chynulliad y Dinasyddion.

Wedi dweud hynny, os bydd agoriad yng Nghynulliad y Dinasyddion yn y dyfodol ac yr hoffech chi gymryd rhan, anfonwch e-bost atom yn NPMP21@beacons-npa.gov.uk neu ffoniwch a gofynnwch am gael siarad ag unrhyw un yn y Tîm Polisi. i gofrestru’ch diddordeb. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed barn ‘dinasyddion’ rhwng 16 – 24 oed.