Cyhoeddi Rhestr Fer Awdur Preswyl Bannau’r Dyfodol

Rydym yn falch o gyhoeddi’r rhestr fer ar gyfer Awdur Preswyl Bannau’r Dyfodol 2022-2023. Derbyniwyd dros 130 cais ac roedd y beirniaid yn hapus iawn gyda safon yr ymgeiswyr. Mae’r rhaglen awdur preswyl yn cael ei rhedeg mewn partneriaeth gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Coleg y Mynydd Du a Gŵyl y Gelli.

Bydd yr awduron (un cyfrwng Cymraeg, ac un cyfrwng Saesneg) yn derbyn £10,000 yr un ar gyfer project blwyddyn o hyd yn ymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur.

Y rhestr fer yw:

Cymraeg

Daw Gareth Evans-Jones o Draeth Bychan ger Marian-glas, Ynys Môn, ac mae’n ddarlithydd Athroniaeth a Chrefydd ym Mhrifysgol Bangor, lle mae’n dysgu amryw bynciau gan gynnwys crefydd a natur a moeseg amgylcheddol. Mae wedi cyhoeddi nifer o ddarnau o ryddiaith, gan gynnwys nofel o’r enw Eira Llwyd (Gwasg y Bwthyn 2018), a bydd cyfrol o lenyddiaeth a lluniau yn ymateb i lefydd ar hyd arfordir Cymru a Chlawdd Offa o’i eiddo yn ymddangos ym mis Gorffennaf, sef Cylchu Cymru (Y Lolfa 2022). Ynghyd â bod yn awdur, mae Gareth yn ddramodydd, wedi bod yn hynod ffodus i ennill Medal Ddrama’r Eisteddfod Genedlaethol yn 2019 a 2021. Cydweithiodd gyda’r Frân Wen i greu Ynys Alys a deithiodd drwy Gymru yng ngwanwyn 2022. Mae’n teimlo’n angerddol am berthynas llenyddiaeth a’r byd naturiol, ac yn achub ar bob cyfle i’w harchwilio, ac mae bod ar y rhestr fer yn fraint o’r mwyaf iddo. 

Mae Aneirin Karadog yn fardd ac ieithydd sy’n medru siarad pum iaith gan gynnwys Llydaweg.  Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol y Fenni yn 2016 a bu’n Fardd Plant Cymru, 2013-2015.  Mae wedi cyhoeddi a chyfieithu nifer o gyfrolau, gan gynnwys tair cyfrol o farddoniaeth. Mae’n gweithio’n rhan amser fel darlithydd Cymraeg a chydlynydd prosiectau i Brifysgol Cymru’r Drindod Dewi Sant a hefyd fel bardd llawrydd. Mae hefyd yn cyd-gyflwyno a chyd-gynhyrchu podlediad barddol misol gydag Eurig Salisbury, sef ‘Clera’. Cwblhaodd hefyd ddoethuriaeth yn Adran Gymraeg Prifysgol Abertawe ar y berthynas rhwng y bardd, ei gyfrwng a’i gynulleidfa.

Mae Grug Muse yn fardd ac ysgrif wraig o Ddyffryn Nantlle. Mae hi wedi bod yn rhan o wyliau llenyddol yng Ngroeg, Latfia a’r Almaen, ac mae ei gwaith wedi ei gyfieithu i’r Latgaleg, Croateg, Almaeneg ac iaith Roeg. Mae hi wedi ysgrifennu i gyhoeddiadau amrywiol gan gynnwys y Guardian, Planet, O’r Pedwar Gwynt a’r Letters Page. Cyrhaeddodd ei hail gyfrol o farddoniaeth, merch y llyn, restr fer gwobr Llyfr y Flwyddyn eleni. Mae hi’n gyd-olygydd y gyfrol Welsh (Plural), cyfrol o ysgrifau yn ymwneud a Chymru a Chymreictod, a gyhoeddwyd gan Repeater (2022).

Mae Rebecca Thomas yn awdur a hanesydd sy’n byw yng Nghaerdydd. Enillodd ei hysgrif ‘Cribo’r Dragon’s Brack’ gwobr ysgrif O’r Pedwar Gwynt (2021). Cyhoeddir ei nofel gyntaf ar gyfer oedolion ifanc Dan Gysgod y Frenhines gan Wasg Carreg Gwalch yr haf hwn. Astudiodd hanes ym Mhrifysgol Caer-grawnt, cyn mynd ymlaen i ennill doethuriaeth ym maes astudiaethau canoloesol yno. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio fel ymchwilydd ôl-ddoethurol yr Academi Brydeinig yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Cyhoeddwyd ei monograff ar hunaniaeth ganoloesol History and Identity in Early Medieval Wales gan Boydell & Brewer yn 2022 ac mae wedi cyhoeddi’n helaeth ar wahanol agweddau ar y Gymru ganoloesol.

Saesneg

Mae Alys Fowler yn arddwraig, cyflwynydd ac awdur. Mae ganddi golofn wythnosol ar arddio yn The Guardian Weekend Magazine. Mae wedi cyfrannu at Gardens Illustrated, The Observer Food Monthly, The National Geographic a Country Living a Time Out. Hyfforddodd  Alys yn Royal Horticultural Society Wisley, The New York Botanical Gardens, a The Royal Botanic Gardens Kew. Mae wedi ysgrifennu sawl llyfr ar arddio a thyfu bwyd, ac roedd ar restr fer gwobr Wainwright am ei chofiant natur, Hidden Nature. Mae newydd gyhoeddi ei gwaith ffuglen gyntaf, The Woman Who Buried Herself gyda Hazel Press. Mae’n angerddol am blanhigion a’r pridd ac yn hoffi ymgolli ym myd natur. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn gwlypdiroedd yn enwedig corsydd mawnog. Mae’n byw gyda’i gwraig, ci bychan a llawer o blanhigion.

Mae Hanan Issa yn fardd, gwneuthurwr ffilmiau ac artist Cymreig-Iracaidd. Mae ei chyhoeddiadau yn cynnwys y casgliad barddoniaeth My Body Can House Two Hearts a Welsh Plural: Essays on the Future of Wales. Perfformiwyd ei monolog buddugol With Her Back Straight yn y Bush Theatre fel rhan o’r Hijabi Monologues. Roedd hefyd yn rhan o’r awduron ar gyfer y gyfres arloesol ar gyfer Channel 4, We Are Lady Parts gan weithio gyda Nida Manzoor. Mae’n gyd sylfaenydd Where I’m Coming From y gyfres mhic agored. Derbyniodd gomisiwn 2020 Ffilm Cymru/ BBC Wales am ei ffilm fer The Golden Apple yn ogystal â derbyn Gwobr Cynrychioli Cymru Llenyddiaeth Cymru yn 2021. 

Mae Owen Thomas yn ddramodydd buddugol, y mae ei waith blaenorol yn cynnwys ‘The Wood’ a ‘Grav’. Mae ‘Grav’, wedi teithio yn eang gyda pherfformiadau yn Llundain, Washington, ac Efrog Newydd. Mae’n dychwelyd I Ŵyl Caeredin ym mis Awst. Cafodd ‘Grav’ ei throi yn ffilm y llynedd gan S4C. Wedi ei chyfarwyddo gan Marc Evans, (Cyfarwyddwr: The Pembrokeshire Murders – ITV1) enwebwyd hi yn Ffilm Orau Gŵyl Gyfryngau Celtaidd. Mae drama ddiweddaraf Owen, ‘Carwyn’, am fywyd Carwyn James, wedi ei chynhyrchu gan yTorch Theatre. Derbyniodd y ddrama gymeradwyaeth sylweddol pan deithiodd Gymru yn y Gwanwyn. Yn 2019, cafodd ei gomisiwn Americanaidd cyntaf ‘West’ gymeradwyaeth arei pherfformiad cyntaf ym Milwaukee. Mae ‘West’  newydd orffen yng Ngŵyl Los Angeles ble enillodd wobrwyon. Yn ddiweddar, ysgrifennodd ‘When the Night Fell’  i nodi ail agor Theatr Brycheiniog yn dilyn y pandemig Covid. Ar hyn o bryd mae’n datblygu projectau ffilm a theatr.

Mae David Urry wedi gweithio fel cyfathrebwr gwyddoniaeth ers dros ddegawd, gan weithio mewn partneriaeth gyda gwyddonwyr amgylcheddol i rannu eu hymchwil a straeon gan ysgrifennu a chynhyrchu adnoddau addysgol, sgyrsiau, erthyglau, fideos, podcasts, that a cherddoriaeth. Yn fwy diweddar, mae wedi codi ei lais fel bardd nodwedd fel rhan o Ŵyl Gelf Chelsea, a chafodd gyfle i berfformio darn llafar yn COP26, fel rhan o’r Bar Natur. Bellach yn byw ar gyrion Bannau Brycheiniog, mae David wedi treulio oriau yn crwydro o amgylch y Parc Cenedlaethol ar ei feic ac ar droed, ac mae’n noddfa, faes chwarae ac ysbrydoliaeth iddo.

Bydd yr awduron preswyl terfynol yn cael eu cyhoeddi ar ddiwedd Gorffenaf.