Rhoddion ac Ewyllysiau

Rydym ni’n gorff sy’n derbyn arian cyhoeddus ond mae gennym bethau yr hoffem eu gwneud bob amser pe bai gennym ragor o arian – mae rhoddion ac ewyllysiau’n ein helpu i warchod y Parc Cenedlaethol a gadael i eraill gynnig eu cefnogaeth.

Rhoddion

Rydym ni’n croesawu rhoddion i’n helpu gyda’n gwaith o warchod hyfrydwch Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Os ydych chi’n dymuno rhoi rhodd fechan, ewch i’n siop ar lein a gallwch glicio’r botwm rhoi £1.00 faint bynnag o weithiau a ddymunwch.

Os hoffech wneud rhoddCYNCP-300x200 mwy o faint, gallwch ein ffonio a gallwn dderbyn rhodd oddi ar gerdyn credyd neu ddebyd yn ein derbynfa – 01874 624437, neu gallwch anfon siec atom i’n cyfeiriad post:

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Plas y Ffynnon

Ffordd Cambrian

Aberhonddu LD3 7HP

Ewyllysiau

Rydym ni’n croesawu rhoddion o ewyllysiau er ein bod ni’n gobeithio eich bod chi’n deall na allwn ni ddarparu meinciau na choed er cof. Ceir rhai safleoedd claddu gwyrdd yn y Parc Cenedlaethol ac yn agos ato.

Pe baech chi’n dymuno gadael arian i ni yn eich ewyllys, a fyddech cystal ag enwi Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog fel derbynnydd yn eich ewyllys.