Ffurflenni cais

I lwytho ffurflenni cais i lawr, dewiswch o’r canlynol.

I gael help i benderfynu pa ffurflen gais sy’n berthnasol i’ch cais, neu i gael cymorth wrth lenwi’r ffurflen gais, cysylltwch â Desg Gymorth y Gwasanaethau Cynllunio.

Cyn cyflwyno eich cais

Cofiwch bydd angen i chi gyflwyno dogfennau ategol yn ogystal â’r ffurflenni cais. Mae pob cais cynllunio a gyflwynir i’r Awdurdod yn cael ei wirio er mwyn sicrhau bod y wybodaeth ofynnol wedi’i chyflwyno i allu prosesu’r cais. Dilynir y weithdrefn wirio hon yn unol â Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012. Ceir rhagor o arweiniad ar y wefan hon.