Cyfleoedd Gwirfoddoli

Mae gwirfoddolwyr yn cyfrannu’n enfawr at Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac yn cael eu gwerthfawrogi’n arw iawn fel rhan o’r tîm. Mae gwirfoddolwyr yn bobl o bob oedran o bob rhan o fywyd, sy’n rhoi yn hael iawn o’u hamser i’n helpu i fonitro, gwella a chadw’r tirwedd arbennig hwn, yn ogystal â gwella profiad trigolion ac ymwelwyr.

Ein cyfleoedd

O waith ymarferol gyda’n tîm gwardeiniaid a’n tîm yr ucheldir, i arolygon treftadaeth, gwaith ecoleg a chefnogi ymwelwyr, mae yna amrywiaeth o ffyrdd o gymryd rhan ac o helpu i ofalu am y Parc Cenedlaethol. Mae’r cyfleoedd yn amrywio yn ystod y flwyddyn, felly, y ffordd orau o ganfod beth yw ein cyfleoedd ar hyn o bryd yw cysylltu â’n Swyddog Datblygu Gwirfoddolwyr.

Grwpiau gwirfoddolwyr corfforaethol

Gallwn weithio gyda chi i drefnu dyddiau gwirfoddoli a hwyluso gweithgareddau adeiladu tim a gwella lles gweithwyr wrth gyflawni amcanion cyfrifoldeb cymdeithasol. Edrychwch ar ein Llyfryn Gwybodaeth Gwirfoddolwyr Corfforaethol  am fwy o fanylion.

Ymrwymiad amser

Mae pobl yn gwirfoddoli ar sail wythnos, pythefnos neu’n fisol, fel y mae’n eu siwtio nhw. Mae  gwahanol swyddi’n gofyn am wahanol ymrwymiad amser wrth wirfoddoli.  Mae rhai swyddi wedi’i dylunio i fod yn hyblyg iawn fel eich bod yn gallu eu gwneud pan fydd yn gyfleus i chi, ond mae mwy o strwythur i rai eraill, ac yn cael eu cynnal ar ddiwrnod penodol pob mis.  Ar gyfer rhai swyddi, rydym yn gofyn i wirfoddolwyr anelu at ddod am hyn a hyn o weithiau neu am hyn a hyn o amser – mae hynny oherwydd bod angen amser staff a hyfforddi ac mae hynny hefyd yn galluogi’r gwirfoddolwyr i gael y mwyaf allan o’r profiad.

Byddwn yn ceisio canfod y swydd wirfoddoli sy’n siwtio’ch diddordebau, pa bryd y byddwch ar gael a’ch amgylchiadau chi orau.

Gofynion Eraill

  • Rhaid i wirfoddolwyr fod yn 18+. Os ydych o dan 18 oed ac os hoffech gael profiad o weithio o fewn Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, edrychwch ar ein Cynllun Profiad Gwaith yma.
  • Mae’n rhaid cael brwdfrydedd, ysgogiad ac ymrwymiad ar gyfer pob un o’n cyfleoedd gwirfoddoli, a hefyd bod yn fodlon dysgu sgiliau newydd a gweithio fel rhan o dîm ehangach Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Ar gyfer y rhan fwyaf o swyddi bydd yn rhaid i chi fod yn barod i weithio yn ein tywydd Cymreig bendigedig – mae llawer o’r gweithgareddau’n golygu bod braidd yn wlyb a mwdlyd!
  • Mae’n rhaid i wirfoddolwyr ddarparu eu dillad ac esgidiau addas eu hunain, yn ogystal â bwyd a diod am y diwrnod. Rydym yn darparu dillad brand ar gyfer gwirfoddolwyr rheolaidd a’r Cyfarpar Amddiffyn Personol a’r offer angenrheidiol ar gyfer pob tasg.
  • Oherwydd natur ymarferol rhai o’n tasgau a’n tirwedd anghysbell ac weithiau, heriol, mae gofyn bod yn eithaf ffit, yn gorfforol, ar gyfer rhai o’r swyddi gwirfoddoli. Mae’n rhaid i chi fod yn hyderus fod eich iechyd a’ch ffitrwydd cyffredinol yn briodol ar gyfer y tasgau a fydd yn cael eu rhoi i chi.
  • Rydym yn gofyn i chi ystyried yr amgylchedd cyn ymgeisio i ddod yn wirfoddolwr gyda ni.Os yw Bannau Brycheiniog dros 50 milltir o’ch cyfeiriad, byddai’n well i chi ystyried gwirfoddoli’n nes at adref.Bydd eich ardal leol yn gwerthfawrogi!

Ad-daliadau

Er bod gwirfoddolwyr yn cyfrannu o’u hamser a’u talentau’n rhad ac am ddim, rydym yn credu na ddylai costau gwirfoddoli rwystro neb rhag cymryd rhan.  Felly, rydym yn cynnig ad-dalu unrhyw gostau teithio rhesymol i wirfoddolwyr.

Beth mae’n gwirfoddolwyr yn ei ddweud?

“Rydym yn grŵp cymdeithasol iawn felly, er ein bod yn gweithio’n galed mae’n teimlo fel diwrnod da allan ar y bryniau gyda ffrindiau ac allwch chi ddim gofyn am fwy na hynny.”  – Gwirfoddolwyr, 2021 

Sut i gymryd rhan

Os ydych â diddordeb mewn ymuno â’n tîm o wirfoddolwyr a chanfod rhagor am ein cyfleoedd presennol, cysylltwch gyda ni yn nodi eich lleoliad, pryd rydych ar gael a pha weithgareddau gwirfoddoli sydd o ddiddordeb i chi:

Amanda Brake
Swyddog Datblygu Gwirfoddolwyr
Ffôn:     07854 997 561
Ebost:  Amanda.Brake@beacons-npa.gov.uk

Cyfeiriad:
Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Plas y Ffynnon
Ffordd Cambrian
Aberhonddu
LD3 7HP