Treftadaeth ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Mae gan Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog hanes hir a lliwgar, gyda threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog ac amrywiol. Efallai eich bod dan yr argraff bod tirwedd Bannau Brycheiniog yn naturiol a digyffwrdd ond, mewn gwirionedd, mae pobl wedi ffurfio a newid y dirwedd hon dros filoedd o flynyddoedd.

Gallwn weld etifeddiaeth pobl o’r gorffennol ar hyd y Parc Cenedlaethol yn ein treftadaeth archaeolegol gyfoethog a’n haneddiadau a’n hadeiladau hanesyddol.  Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gartref i gyfoeth o archaeoleg; o gylchoedd cerrig a siambrau claddu cynhanesyddol, i gaerau o’r Oes Haearn, gwersylloedd Rhufeinig, cestyll Canoloesol ac olion ein hanes diwydiannol. Mae’r ystod eang o bensaernïaeth drawiadol a phwysig a welwch ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, o’n hadeiladau gwledig hardd i’n trefluniau hanesyddol, hefyd yn dystiolaeth o etifeddiaeth ddiwylliannol bwysig y Parc Cenedlaethol.

Yn yr adran hon o’r wefan, gallwch ddysgu am dreftadaeth Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Ein Hamgylchedd Hanesyddol