Treftadaeth Adeiledig

Ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog mae gennym gyfoeth o dreftadaeth adeiledig. Ceir ystod eang o bensaernïaeth bwysig yn cynnwys cestyll Normanaidd a ffermdai canoloesol, crynhoad o adeiladau o’r 17eg a’r 18fed ganrif yn y prif aneddiadau, ac adeiladau gwledig cain ar wasgar, sy’n aml yn dal i gynnwys nodweddion gwreiddiol. Ym Mannau Brycheiniog, mae bron i 2000 o Adeiladau Rhestredig, adeiladau o bwys rhyngwladol, 4 Ardal Gadwraeth, ardaloedd o ddiddordeb hanesyddol a phensaernïol arbennig sydd o bwys cenedlaethol, yn ogystal â miloedd o adeiladau a nifer o aneddiadau sydd o bwysigrwydd rhanbarthol neu leol.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn chwarae rhan hollbwysig yng nghadwraeth ein hadeiladau hanesyddol, ein trefluniau a’n haneddiadau, drwy sicrhau bod datblygiadau newydd yn ein hardaloedd hanesyddol neu newidiadau i’n hadeiladau hanesyddol yn gynaliadwy ac yn gweddu iddynt, ac nad oes unrhyw wybodaeth am y gorffennol yn cael ei cholli. Nid er mwyn atal newid mae hyn ond i sicrhau bod nodweddion pwysig ein hadeiladau hanesyddol a chymeriad nodweddiadol ein haneddiadau yn cael ei warchod fel y gall cenedlaethau’r dyfodol eu mwynhau.