Ardaloedd Cadwraeth

Gweler isod ar ardaloedd cadwraeth sydd wedi’u cymeradwyo a’r gwerthfawrogiadau ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:

Aberhonddu

Y Gelli Gandryll

Talgarth

Cyfarwyddyd Erthygl 4[2] Talgarth.

Yn dilyn ymgynghoriad, cadarnhawyd Cyfarwyddyd Erthygl 4[2] yn Nhalgarth ym mis Rhagfyr 2016. Cliciwch ar y ddolen hon i lawrlwytho copi o’r Hysbysiad Cadarnhau sy’n cynnwys rhestr gyflawn o’r eiddo yr effeithir arnyn nhw ac esboniad o’r dosbarthiadau datblygu y bydd angen i berchnogion eiddo gael caniatâd cynllunio ar eu cyfer.

Crughywel

Beth yw Ardaloedd Cadwraeth?

Ardaloedd neu gymdogaethau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig yw Ardaloedd Cadwraeth, lle dymunir cadw a gwella cymeriad ac edrychiad yr ardal. Mae Ardaloedd Cadwraeth yn asedau treftadaeth, sy’n golygu eu bod yn bwysig yn genedlaethol ac yn lleol, a’u bod yn cael eu gwarchod yn statudol dan Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

Mae ardaloedd cadwraeth yn amrywio’n fawr. Gall Ardal Gadwraeth fod yn ardal benodol o dref lle mae adeiladau’n arddangos nodweddion pensaernïol arbennig, lle mae nifer o Adeiladau Rhestredig yn agos i’w gilydd, neu lle mae cynllun stryd hanesyddol yn parhau i gael ei ddefnyddio.

Mewn Ardal Gadwraeth nodweddion arbennig yr ardal gyfan sy’n cael eu cadw a’r gwella, yn hytrach na nodweddion arbennig adeiladau unigol, sy’n ffurfio’r ardal gadwraeth.

Pwy sy’n penodi Ardaloedd Cadwraeth?

Caiff Ardaloedd Cadwraeth eu penodi gan Awdurdodau Lleol.

Sut mae ardaloedd cadwraeth yn cael eu cadw a’u gwella?

Nid yw cydnabod Ardal Gadwraeth yn ddigon i sicrhau cadwraeth tymor hir. Caiff Gwerthfawrogiad Ardaloedd Cadwraeth, dogfen sy’n cydnabod ac yn diffinio’r nodweddion sy’n gwneud yr ardal yn bwysig yn ffurfiol, ac yn adnabod cyfleoedd i gadw a gwella’r ardal gadwraeth, ei ddarparu gan Awdurdodau Cynllunio Lleol.

Mae Ardaloedd Cadwraeth hefyd yn cael eu hystyried yn sylweddol yn y broses gynllunio i sicrhau bod datblygiadau newydd yn gydnaws â chymeriad arbennig yr ardal.  Nid yw hyn yn atal datblygiadau newydd, ond mae’n golygu nad yw caniatâd cynllunio ond yn cael ei ddyfarnu os dengys na fydd y datblygiad newydd yn niweidio nodweddion arbennig yr Ardal Gadwraeth.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar hyn o bryd yn y broses o gynhyrchu Gwerthfawrogiadau o Ardaloedd Cadwraeth ar gyfer y pedair Ardal Gadwraeth sydd gennym, ac mae’n cynnwys polisïau o’r Cynllun Datblygu Unedol er mwyn sicrhau bod nodweddion arbennig ein Hardaloedd Cadwraeth yn cael eu gwarchod.

Mae hyn yn golygu, os ydych yn byw neu’n gweithio yn un o bedair Ardal Gadwraeth Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, efallai y bydd angen caniatâd i wneud unrhyw newidiadau allanol i’ch adeilad arnoch, er enghraifft, gosod soser lloeren, gosod paneli solar, gosod ffenestri a thaenu caenen. Mae hefyd angen caniatâd i ddymchwel adeilad mewn Ardal Gadwraeth.

Mae’r cyfraniad mae coed yn ei wneud i’r Ardaloedd Cadwraeth hefyd yn cael ei gydnabod, ac mae angen rhoi gwybod i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog am unrhyw waith tocio neu gwympo coed bwriadol a wneir mewn Ardaloedd Cadwraeth, fel bo modd asesu arwyddocâd y goeden i’r Ardal Gadwraeth cyn dechrau ar y gwaith.