Dysgu

Mae cyfleoedd dysgu ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn galluogi disgyblion ac athrawon i ddefnyddio’r hyn a ddysgant yn
yr ystafell ddosbarth a’i gymhwyso yn yr amgylchedd. Mae ein tîm o Swyddogion Addysg yn helpu ysgolion i archwilio llawer o bynciau mewn mwy o ddyfnder ac yn rhoi profiad ymarferol gwerthfawr i ddisgyblion.

Mae ein holl gyrsiau yn rhoi pwys mawr ar Lythrennedd a Rhifedd a chânt eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Rydym yn darparu cyrsiau ar gyfer grwpiau ysgol ar lefel Sylfaen, Cyfnod Allweddol 1 a 2, TGAU, Safon Uwch a thu hwnt.

Rydym yn fwy na pharod i drafod eu gofynion dysgu gydag ysgolion er mwyn sicrhau eu bod yn manteisio i’r eithaf ar eu hymweliad.