Newid Hinsawdd

Yma ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, bydd angen i ni hefyd addasu i’r newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol agos. Bydd yr ucheldiroedd yn enwedig yn agored i niwed, o ystyried yr hinsawdd eithafol a geir yma. Mae ein hamgylchedd naturiol hefyd yn bwysig iawn i ddyfodol ffermio a thwristiaeth yn y Parc Cenedlaethol. Yn ogystal â hynny, caiff rôl bwysig y Parciau Cenedlaethol i helpu Cymru a’r DU i addasu i newid hinsawdd ei chydnabod yn helaeth, fel cerbydau i hyrwyddo ymateb integredig i newid hinsawdd ac i’w asesu.

Yn ystod 2004, bu Ecolegydd y Parc Cenedlaethol yn archwilio ystod eang o wybodaeth a thystiolaeth am newid hinsawdd. Mae trosolwg manwl o’r wybodaeth hon, yr effaith a welwyd a’r effaith a ragwelir ar fyd natur – sef y fioamrywiaeth – ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, bellach wedi cael ei gyhoeddi mewn adroddiad ar y Newid yn yr Hinsawdd (dogfen PDF: 239k).

Mae’r adroddiad yn egluro beth yw newid hinsawdd, yn edrych ar bolisïau cenedlaethol ac yn rhoi sylwadau ar rai o’r materion a godwyd (nid yw’r sylwadau hyn yn adlewyrchu barn Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog o reidrwydd).

Os nad yw meddalwedd Acrobat Reader wedi ei osod ar eich cyfrifiadur, gallwch ei lawrlwytho am ddim o wefan Adobe.

Beth fydd yn digwydd i’r Parc Cenedlaethol?

Gweler hefyd:

Nodyn Gwybodaeth am Newid Hinsawdd Bannau Brycheiniog

Datganiad Sefyllfa Cymdeithas Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol ar Newid Hinsawdd

Adroddiad byr ar ddyfodol rheoli tir o fewn tirweddau gwarchodedig, dan y teitl Parciau’r Dyfodol yn Hinsawdd y Dyfodol – Datrysiadau Mesuradwy

Gwefan Rhaglen Effeithiau Hinsawdd y DU

Gwefan Ffenoleg y DU – rhoi gwybodaeth am galendr newidiol digwyddiadau naturiol. Gallwch gyfrannu drwy fonitro digwyddiadau lleol er mwyn helpu i greu darlun cenedlaethol i weld a yw newid hinsawdd yn effeithio ar natur!!

Gwefan y Ditectif Natur – gwefan NEWYDD ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 4 a 18, athrawon a rhieni – sy’n darparu gwybodaeth am ffenoleg a phrosiectau. Gallwch gael adnoddau addysgol, gweithgareddau a gemau AM DDIM.

Tudalennau gwe’r BBC ar Newid Hinsawdd – yn cynnwys gwybodaeth hawdd ei deall ar y dystiolaeth, yr effeithiau, y polisïau a bwrdd negeseuon.

Canolfan Rhagfynegi ac Ymchwilio i Hinsawdd Hadley – yn cynnwys llawer o wybodaeth ar newid hinsawdd yn ogystal â dogfennau ymchwil i’w llwytho i lawr.

Nodyn gwybodaeth ar Newid Hinsawdd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Yr Amgylchedd Hanesyddol a Newid Hinsawdd Cynllun Addasu’r Sector