Ysgolion Llysgennad y Parc Cenedlaethol

IMG_1925Llongyfarchiadau i Ysgol Gynradd Gymunedol Crughywel , Ysgol Gynradd Gymunedol Talgarth , Ysgol Gymunedol Mount Street Junior , Ysgol Bro Tawe , Ysgol Dyffryn y Glowyr ac Ysgol Golwg y Cwm am fod yn Ysgolion Llysgennad cyntaf y Parc Cenedlaethol.

 

Bro tawe award 2Mae’r ysgolion yma wedi gweithio gyda ni i ddarganfod mwy am y Parc Cenedlaethol a’u hamgylchedd lleol. Maent yn llysgenhadon ar gyfer eu hardaloedd a’r Parc Cenedlaethol.

 

 

NPAS_logo-300x229Lansiwyd ‘Ysgolion Llysgennad Parc Cenedlaethol’ i bob ysgol gynradd yn ardal Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn 2015. Mae’r unedau gwaith hyn wedi’u hysgrifennu gan, ac ar gyfer athrawon ysgolion cynradd. Mae’r unedau yn ymgorffori’r Fframweithiau Llythrennedd a Rhifedd gyda chysylltiadau amlwg i sgiliau penodol ar gyfer pob gwers.

Dyma ffilm fer 5 munud o hyd sy’n cyfleu naws y fenter hon

Crickhowell DYW log circle lunchMae’r profiadau dysgu awyr agored yn uchel eu safon ac yn cysylltu’n agos â gweithgareddau antur corfforol. Mae’n rhoi sylw i’r cwricwlwm llesiant ac yn hybu parch at yr amgylchedd awyr agored.

Mae yna gyfleoedd lu i athrawon fagu hyder wrth ddefnyddio’r ardaloedd awyr agored yn yr ysgol, yn eu cymunedau lleol ac yn fwy eang yn ardal Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:
enquiries@beacons-npa.gov.uk neu 01874 624437.