Ffosffad

Ansawdd Dŵr (Ffosffad) mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Afonol a goblygiadau hynny ar gyfer Cynllunio a Datblygu

Ar ôl derbyn tystiolaeth newydd ynghylch effeithiau amgylcheddol ffosffad mewn cyrsiau dŵr, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi mabwysiadu targedau llymach ar gyfer ansawdd y dŵr mewn cyrsiau dŵr ac wedi cynnal asesiadau ar y naw Ardal Arbennig Cadwraeth Afonol sydd yng Nghymru.  Dangosodd yr asesiad hwn fod toriadau yn y safonau ffosfforws yn gyffredin iawn yn afonydd yr Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yng Nghymru, gyda thros 60% o’r afonydd yn methu â chyrraedd y targedau heriol a osodwyd.

Dangosodd yr asesiad fod 88% o’r cyrff dŵr ar Afon Wysg, a 67% o’r cyrff dŵr ar Afon Gwy, wedi methu â chyrraedd y targed gofynnol. O ganlyniad, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyflwyno canllawiau cynllunio manwl i sicrhau nad yw gallu amgylcheddol yr afonydd yn dirywio ymhellach.  Bydd yn rhaid i unrhyw fwriad i ddatblygu o fewn dalgylchoedd yr afonydd a allai gynyddu’r lefelau ffosffadau ddangos yn glir ar y cais cynllunio bod y datblygiad yn dangos niwtraliaeth neu welliant ffosffadau yn ei ddyluniad a / neu yn ei gyfraniad at y corff dŵr.  Yn y rhan fwyaf o achosion ychydig o gyfle fydd yna i gysylltu â’r system garthffosiaeth gyhoeddus a bydd yn rhaid cynnig ateb gwahanol.  Bydd hyn yn effeithio ar bob datblygiad a fydd yn cynyddu maint y dŵr gwastraff neu’r crynodiad o ffosffadau ynddo.

Cynllun yn dangos dalgylchoedd yr afonydd

Dylai cynigion datblygu o fewn y dalgylchoedd hyn roi ystyriaeth fanwl i ffosffadau a, chyn cyflwyno cais i’r Awdurdod Cynllunio Lleol, anogir cwsmeriaid i gysylltu â’n gwasanaeth cyngor cyn cais i drafod a yw’r cynigion yn dderbyniol ai peidio.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi paratoi arweiniad sy’n amlinellu pa fath o ddatblygiadau sy’n annhebygol o effeithio ar lefelau ffosffadau yn y cyrsiau dŵr. Caiff y cyngor hwn ei ddiweddaru o bryd i’w gilydd ac mae’r fersiwn ddiweddaraf o hyn ar gael yma – Cyngor i awdurdodau cynllunio ar gyfer ceisiadau cynllunio sy’n effeithio ar afonydd mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig sy’n sensitif i ffosfforw

  • Bydd y canllawiau yn effeithio cryn dipyn ar gynigion datblygu ac rydyn ni’n gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a phartneriaid eraill i ganfod atebion a fydd yn galluogi cynigion datblygu i symud ymlaen mewn ffordd na fydd yn niweidio gallu amgylcheddol ein cyrsiau dŵr. Fel y byddwch yn gwerthfawrogi, rydyn ni’n ceisio dod i ddeall y goblygiadau ar gyfer ceisiadau cynllunio presennol ac yn y dyfodol yn ogystal ag yn adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol.  Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon gyda gwybodaeth bellach gynted ag y gallwn ni.
  • Rhedeg a chynnal tanc carthion neu uned trin carthion gryno

Yn dilyn sesiynau yn Archwiliad CDLl Wrecsam, yn ddiweddar., mae wedi dod yn amlwg na all ACLl ddibynnu’n unig ar bresenoldeb stripio Ffosffad er mwyn gwarantu niwtralrwydd maethynnau. Cyn hyn, deallwyd fod stripio Ff yn Nhalgarth yn ddigonol er mwyn osgoi effeithiau andwyol ar ACA Afon Wysg. Nid dyma’r achos, bellach.

Felly, rydym yn archwilio, ar y cyd â Chyfoeth Naturiol Cymru y trefniadau caniatâd ar gyfer WwTW Talgarth a byddwn yn darparu diweddariad pan fyddwn yn fodlon fod y stripio Ff yn ddigonol er mwyn cyflawni gofynion Rheoliadau Cynefinoedd.

Bydd y cyngor hwn yn cael ei ddiweddaru wedi i’r mater gael ei ddatrys.