Ynni Adnewyddadwy

Ynni sy’n dod o ffynonellau naturiol sy’n adnewyddu ei hunan yw ynni adnewyddadwy. Mae’n cynnwys golau’r haul, dŵr, gwynt ac ynni geothermol. Caiff biomas ei ychwanegu at y technolegau hyn gan fod y carbon a losgir i gael yr ynni fwy neu lai yn gyfystyr â faint o garbon deuocsid a gafodd ei amsugno yn ystod bywyd y planhigyn.

I gael cyngor ar ynni adnewyddadwy yn y cartref ac ar effeithlonrwydd ynni, cysylltwch â’r ymddiriedolaeth arbed ynni

Gall busnesau gael cyngor a chefnogaeth gan yr Ymddiriedolaeth Carbon

I gael cyngor cymunedol ar ynni adnewyddadwy yng Nghymru gallwch gysylltu ag Ynni Cymunedol Cymru. Neu, o fewn y Parc, gallwch siarad â Chwmni Buddiant Cymunedol y Cymoedd Gwyrdd

Mae grwpiau lleol eraill sydd â diddordeb brwd mewn egni adnewyddadwy megis Egni Tal-y-bont ar Wysg a Chymoedd Gwyrdd Llangatwg