Cynaliadwyedd

Rydym yn hybu cynaliadwyedd ac egwyddorion datblygu cynaliadwy yn ein gwaith drwyddo draw. Mae grantiau ar gael gan y Gronfa Datblygu Cynaliadwy i helpu gyda Phrosiectau.

Credwn fod cynaliadwyedd yn golygu datblygu sy’n bodloni anghenion y presennol heb fygwth gallu cenedlaethau’r dyfodol i fodloni eu hanghenion eu hunain.

Ein nod yw creu dyfodol cynaliadwy i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog lle bo gweithredu ar gyfer gwella cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yn gweithio gyda’i gilydd i greu newid cadarnhaol.