Sgwter reidiwr

Sgwter reidiwr pob tirwedd yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol 

Gan ddefnyddio’r Reidiwr Pob Tirwedd, gallwch gael mynediad at Fynydd Illtud, un o leoliadau gorau Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, sydd wedi ei leoli gerllaw Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol. 

Mae’r Reidiwr Pob Tirwedd yn sgwter sydd wedi ei gynllunio’n arbennig ar gyfer pobl sydd gydag anawsterau symud. 

Nod Bannau Brycheiniog yw gwneud y Parc Cenedlaethol mor hygyrch â phosibl ac felly, gyda chyllid o gronfa Hanfodion Gwych Llywodraeth Cymru, gallwn gynnig gwasanaeth Reidiwr Pob Tirwedd yn rhad ac am ddim er bod yn gwerthfawrogi cyfraniadau’n fawr. 

  • Rhaid archebu’r Reidiwr Pob Tirwedd o flaen llaw gan ddefnyddio’r ffurflen archebu Eventbrite. Mae nifer cyfyngedig o amser y gellir archebu ond anelwn at geisio eu defnyddio mor aml â phosib. Rydym yn cyfyngu amser i fwyafswm o 2 awr y tro. 
  • Ar ôl cyrraedd, dangosir i chi sut i ddefnyddio’r ‘Reidiwr Pob Tirwedd’ a chewch gyfle i ymgyfarwyddo â’r cerbyd ar dir y Ganolfan Ymwelwyr. Byddwch yn cael map o’r llwybr i’w ddilyn, rhestr o gyfarwyddiadau gweithredu er mwyn cyfeirio atynt a’r ffurflen amodau a thelerau i’w harwyddo. Bydd cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau. 
  • Darllenwch y ffurflenni gwybodaeth ganlynol a gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu cydymffurfio â’i holl ofynion cyn archebu fel arall ni fyddwn yn caniatáu i’r archeb fynd yn ei blaen. 
  • Unrhyw ymholiadau ymlaen llaw, ffoniwch 01874 623366. 
  • Sylwch: dim ond ar Fynydd Illtyd y mae’r Reidiwr Pob Tirwedd i’w ddefnyddio ac ni ellir mynd ag ef i ardaloedd eraill o’r Parc Cenedlaethol.