Profiad Gwaith

Profiad Gwaith

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cynnig rhaglen brofiad gwaith flynyddol, eleni bydd y rhaglen yn rhedeg  ar 15fed – 18fed Gorffennaf 2024.

Mae’r Awdurdod yn cymryd myfyrwyr Blwyddyn 10/11/12 ac y maent yn dilyn rhaglen amrywiol a chael profiad o waith agweddau gwahanol Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

Gall unrhyw fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn y rhaglen lawn ysgrifennu at Weinyddwr Addysg Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Plas-y-Ffynnon, Ffordd Cambrian, Aberhonddu, Powys, LD3 7HP yn dweud wrthym pam y buasech chi’n hoffi ymuno â’r rhaglen brofiad gwaith. Cysylltwch â ni cyn gynted â phosib gan ein bod yn cael nifer fawr o geisiadau i wneud profiad gwaith bob blwyddyn a chaiff y llefydd eu dyfarnu ar sail y cyntaf i’r felin. Rydym yn edrych ymlaen at glywed gennych!

Dyma ddolen i fideo byr sy’n dangos rhywfaint o’r gwaith a wnaed gan fyfyrwyr yn 2012: Disgyblion Profiad Gwaith y Parc Cenedlaethol

‘Dylai unrhyw fyfyrwyr sydd a diddordeb mewn cymryd rhan yn y rhaglen lawn anfon e-bost at Lora Davies lora.davies@beacons-npa.gov.uk  a dweud wrthym pam yr hoffen nhw ymuno a’r rhaglen brofiad gwaith ynghyd â diddordebau neu brofiadau yn amgylchedd awyr agored.