Cynllunio

Ceisiadau Cynllunio

Rydym yn dal i drin nifer fawr o geisiadau cynllunio sy’n arwain at gryn bwysau staffio.  Ynghyd â chyfyngiadau mewn perthynas â ffosffad, mae hynny’n arwain at oedi mewn cymryd penderfyniadau ar geisiadau ac ymateb i ymholiadau.  Rydym yn ymddiheuro am hyn ac mae staff yn gweithio’n galed i dalu sylw i’r gwaith sydd wedi cronni.

Gorfodaeth

Mae’r nifer o achosion gorfodaeth yn aros yn uchel. Byddwn yn dal i weithredu gorfodaeth pan fydd er budd y cyhoedd. Byddwn yn cynnal adolygiad cychwynnol o’r holl ymchwiliadau newydd. Bydd amseriad y gweithredu pellach yn dibynnu ar flaenoriaethau cymharol ac mae’n bosibl y bydden nhw’n cymryd yn hirach nag arfer.

Gwasanaeth Cynghori Cyn Cais

Gwasanaeth Cynghori cyn gwneud cais

Mae’n wasanaethau cyn gwneud cais statudol a chyn gwneud cais yn dal ar gael, ond bydd yr ymatebion yn cymryd yn hirach na’r hyn sydd yn yr arweiniad. Gellir gweld y manylion yma 

Ffosffadau

Disgwylir canllawiau diwygiedig ar hyn o bryd oddi wrth Cyfoeth Naturiol Cymru.  Byddwn yn darparu gwybodaeth bellach cynted ag y gallwn.

O ran polisi cynllunio, mae yna oedi gyda Chynllun Datblygu Lleol 2 ar hyn o bryd o ganlyniad i’r cyfyngiad ffosffad. Yn dilyn cadarnhad oddi wrth Llywodraeth Cymru, mae’r Cynllun Datblygu Lleol a fabwysiadwyd (2007 – 2022) yn dal mewn grym ac

Ffosffad

Mae arweiniad presennol Cyfoeth Naturiol Cymru i’w weld yma.

Gweler yn arbennig “Cyngor i awdurdodau cynllunio am geisiadau sy’n effeithio Ardaloedd Gadwraeth Arbennig afonydd ffosffad sensitifEgwyddorion niwtraliaeth maethion mewn perthynas â chynigion trwydded rhyddhau dŵr 

Nodwch fod canllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru yn fyw ac mae’n cael ei ddiweddaru o dro i dro yn berthnasol.

COFIWCH:

Nid yw’r Awdurdod yn derbyn archebion pryniant nac yn cyflwyno anfonebau mewn perthynas â ffioedd ceisiadau cynllunio.  Dylid anfon unrhyw daliadau eraill neu ymholiadau ariannol eraill drwy e-bost at finance@beacons-npa.gov.uk

Nodwch fod ein cymorthfeydd cyngor cynllunio i ddeiliaid wedi’u gohirio ar hyn o bryd.

Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

A ellir cysylltu gyda swyddogion?

Mae’r galw ar swyddogion achos unigol yn uchel ac rydym yn sefydlu system ble gellir cysylltu gyda swyddogion ar adegau penodol pan maent dros drothwy nifer achosion Tu allan i’r oriau hyn bydd swyddogion yn ffocysu ar ysgrifennu am benderfyniadau. Bydd manylion argaeledd y swyddogion hynny sydd dros drothwy ceisiadau ar ein system ymateb e-bost awtomatig gan y swyddogion. Fel arall, gall ein tim Gweinyddu Cynllunio ymateb i ymholiadau ar planning.enquiries@beacons-npa.gov.uk 

Gofynnwn i chi fod yn ymwybodol o bwysau gwaith wrth geisio cysylltu gyda’r tim. Gallwn eich sicrhau y byddwn yn gwneud ein gorau i ymateb i ymholiadau mewn modd amserol.

A fydd fy nghais yn cymryd yn hirach?

Byddwn yn ceisio ymdrin â phob cais gynted â bo modd, ond, am y rhesymau uchod, efallai y bydd yn cymryd yn hwy na’r arfer a byddwn yn dal i ofyn i asiantau ac ymgeiswyr am estyniadau amser.

A yw’r Gymhorthfa Gynllunio’n dal i gael ei rhedeg?

Yn anffodus, rydyn ni wedi penderfynu gohirio’r gymhorthfa gynllunio i ddeiliaid tai am dri mis pellach oherwydd prinder swyddogion.   Rydyn ni’n deall fod y gwasanaeth hwn yn werthfawr iawn ac yn dal i adolygu’r sefyllfa.   Yn hytrach na defnyddio’r Gymhorthfa, gellir cyflwyno cais am Dystysgrif Defnydd Arfaethedig Cyfreithlon i weld os bydd angen caniatâd cynllunio.

A yw’r gwasanaeth cyngor cyn cais ar gael?

Ydi, mae ein gwasanaethau cyn cais a statudol cyn cais ar gael, ond, eto, efallai y bydd yn cymryd yn hwy nag sy’n cael ei ddangos yn ein canllawiau.   Byddwn yn ymateb gynted â bo modd.  Mae’r manylion yma:- www.planningportal.co.uk/wales/applications/consent-types/lawful-development-certificate-ldc