Amdanom ni

Pryd cawsom ein dynodi?  Cafodd Bannau Brycheiniog ei ddynodi’n Barc Cenedlaethol ym 1957.

Blaen y Glyn Waterfall

Rhaeadr Blaen y Glyn

Beth ydyn ni’n ei wneud?  Gallwch weld ein cylch gorchwyl yn ein Dibenion Statudol a’n Dyletswydd Statudol.  Dyma grynodeb:

  • diogelu prydferthwch naturiol y Parc;
  • helpu ymwelwyr i’w fwynhau a’i ddeall; a
  • meithrin lles pobl leol.

Sut beth fydd y Parc Cenedlaethol yn y dyfodol?  Mae gennym weledigaeth glir ar gyfer y Parc Cenedlaethol am yr 20 mlynedd nesaf.  Dyma sy’n rhoi’r cyd-destun cyffredinol ar gyfer ein holl ddogfennau strategol.

Pwy sy’n gwneud y gwaith?  Caiff y Parc ei weinyddu gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Mae gan yr Awdurdod 18 aelod, dros 100 o staff a byddin o wirfoddolwyr.

Siâp a Ffurf yr Awdurdod – Mae ein hardal weinyddol yn cynnwys rhannau o 9 Awdurdod Unedol gwahanol.  Ni yw’r awdurdod cynllunio dros yr ardal, tra bod yr Awdurdodau Unedol yn gyfrifol am yr holl wasanaethau llywodraeth leol eraill yn ardal y parc.

Sut ydyn ni’n gweithio? Cynhelir busnes yr Awdurdod yn unol â nifer o  reoliadau a phrotocolau.

Cysylltwch â ni – cyfeiriad ein pencadlys:

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Plas y Ffynnon
Ffordd Cambrian
Aberhonddu
Powys
LD3 7HP
Ffôn: 01874 624437
E-bost.