Ein Strategaethau

Adroddiadau Blynyddol a Chynlluniau Gwella

Cynllun Gwella Busnes – ar gael yma.

Adroddiad Blynyddol a’r Cynllun Gwella – yn cynnwys y weledigaeth gorfforaethol, cynlluniau darparu gwasanaethau, a thargedau perfformiad.

Adroddiad Asesiad Corfforaethol – ar gael gan Swyddfa Archwilio Cymru

Bioamrywiaeth

Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol – Cynhyrchwyd gan bartneriaeth o bobl a sefydliadau lleol gyda’r nod o warchod a gwella bioamrywiaeth Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Cyfathrebu

Strategaeth Gyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus – Fframwaith ar gyfer cyfathrebu gwaith yr Awdurdod i’r cyhoedd

Cwynion

Cwynion ac adborth cwsmeriaid 

Complaints and feedback

Cyngor yn Gymraeg a Saesneg ar sut i wneud cwyn neu roi adborth i’r Awdurdod

Anabledd

Asesu Effaith ar Gydraddoldeb i Bobl Anabl – Cynhyrchwyd gan swyddogion yr Awdurdod er mwyn asesu bod yr Awdurdod wedi ystyried anghenion pobl anabl.

Cynlluniau Gweithredu Anabledd – Cynlluniau gweithredu sy’n cael eu cyhoeddi’n flynyddol

Cynllun Cydraddoldeb Anabledd – Caiff y cynllun hwn ei gyhoeddi o dan ddarpariaethau’r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd.  Mae’n cynnwys dadansoddiad o arferion yr Awdurdod o ran mynediad, cyfathrebu, cyflogaeth a darparu gwasanaeth.

Templedi Gwag ar gyfer Datganiadau Mynediad ac Ymwybyddiaeth o Anabledd.

Rhywedd

Cynllun Cydraddoldeb Rhywiol – Caiff y cynllun hwn ei gyhoeddi o dan ddarpariaethau’r Bil Cydraddoldeb.  Mae’n cynnwys dadansoddiad o arferion a pholisïau’r Awdurdod sy’n ymwneud â gweithwyr a darparu gwasanaeth.

Cynllun Gweithredu’r Cynllun Cydraddoldeb Rhywiol – Diweddariad Awst 2008 – Diweddariad ar y camau sydd wedi’u cymryd mewn perthynas â’r Cynllun gweithredu cydraddoldeb rhywiol.

Y Ddraig Werdd

Cynllun Amgylcheddol y Ddraig Werdd – Mae hwn yn gosod y safonau ar gyfer sut mae’r Awdurdod yn rhedeg ei fusnes yn unol ag egwyddorion da o ran rheoli amgylcheddol a chynaliadwyedd.

Polisi Amgylcheddol – Y camau y bydd yr Awdurdod yn eu cymryd i liniaru effeithiau amgylcheddol allweddol.

Dehongli

Strategaeth Ddehongli 2007 – Strategaeth i ddatblygu ac i reoli’r Parc yn gynaliadwy drwy godi ymwybyddiaeth ymwelwyr am bwysigrwydd cadwraeth a thwristiaeth gynaliadwy, a thrwy hynny ddylanwadu ar ymddygiad ymwelwyr.

Adroddiad yr Ombwdsmon

Adroddiad yr Ombwdsmon – Mr O

Dyma adroddiad archwilio am gŵyn a wnaed gan Mr O yn erbyn Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Chyngor Sir Powys.  Roedd yr adroddiad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn rhoi sylw i’r ffordd roedd yr Awdurdod wedi ymdrin â chais cynllunio ar gyfer safle i sipsiwn.

Cynllunio a Hawliau Tramwy

Cynlluniau Datblygu – Polisïau a chynlluniau sy’n arwain y ffordd y caiff tir yn y Parc Cenedlaethol ei ddatblygu.

Cynllun Gwella Hawliau Tramwy (RoWIP) – Adolygiad o gyflwr y rhwydwaith llwybrau cyhoeddus, sut y caiff ei reoli, a sut y gellir ei wella ar gyfer yr holl ddefnyddwyr cyfreithlon. Mae’r cynllun yn nodi’r holl staff a’r adnoddau ariannol angenrheidiol er mwyn cynnal a chadw a gwella’r rhwydwaith hwn.

Cynllun Cyhoeddi

Cynllun Cyhoeddi – Caiff y cynllun hwn ei gyhoeddi o dan ddarpariaethau Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2001. Ceir rhestr o’r dosbarthiadau o wybodaeth a gedwir gan yr Awdurdod, y modd y bydd yn bwriadu cyhoeddi’r wybodaeth honno, ac a fydd yn codi ffi am y wybodaeth.

Twristiaeth

Strategaeth Twristiaeth Gynaliadwy 2007 – Fframwaith i sicrhau bod twristiaeth gynaliadwy yn cael ei datblygu a’i rheoli’n llwyddiannus gan edrych ar brofiad ymwelwyr â’r Parc dros y pum mlynedd nesaf a’r tu hwnt.

Strategaeth Twristiaeth Cerddwyr – Strategaeth yw hon i ddatblygu a rheoli cyfleoedd i ymwelwyr fwynhau cerdded yn ardal Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a’r cyffiniau. Y bwriad yw ceisio codi proffil y Bannau Brycheiniog fel cyrchfan sy’n ddewis cyntaf i gerddwyr.

Cynllun Iaith Gymraeg

Cynllun Iaith Gymraeg Bannau Brycheiniog 2012 – 2013 – Sut bydd yr Awdurdod yn cynnal ei fusnes o safbwynt y Gymraeg a’r Saesneg.

Cyhoeddiadau a dogfennau statudol yn sôn am sut bydd yr Awdurdod yn cynnal ei fusnes.

 yn ôl