Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored 2024

Yr wythnos (22 – 28 Ebrill 2024) hon rydym yn ffocysu ar y dosbarth gorau- yr awyr agored

Mae pob math o weithgareddau gennym i ddysgwyr,addysgwyr a rhieni. Ymunwch #WOLW24 a chychwyn cynllunio eich dysgu

Syniadau dysgu gweithredol awyr agored byr i helpu i ddysgu am y gylfinir:

Adeiladu nyth!

Bydd angen:

  • Gofod awyr agored gyda deunyddiau naturiol
  • Dail a brigau.

Heriwch eich disgyblion i gasglu deunyddiau naturiol i wneud nyth ar gyfer aderyn sy’n nythu ar y ddaear. Gweithio mewn grwpiau neu un tîm mawr!

Ymestyn: Darparu pegiau, tweezers, parau o chopsticks neu ffyn lolipop i’w defnyddio i ddynwared symudiad pig aderyn.

Tynnwch lun o’ch nythod! Faint o bobl allwch chi ffitio yn eich nyth? 

Pigo am Fwyd!

Mae gylfinir yn defnyddio eu big hir i brocio trwy fwd meddal i ddod o hyd i’w bwyd.

Bydd angen:

  • Trywelion neu rawiau.

Cloddiwch ardal fechan o dir. Faint o fwydod allwch chi ddod o hyd iddynt? Dychmygwch pa mor galed y mae’n rhaid i gylfinirod weithio i gloddio am eu bwyd!

Llun: Kev Joynes

Gêm cuddliw

Mae plu brith y gylfinir yn eu helpu i aros yn ynghudd yn y glaswelltir. Gallwch chwarae gemau i helpu i bwysleisio effeithiolrwydd cuddliw.

Byddwch  angen:

  • Darnau o wlân o liwiau gwahanol yn ‘fwydod’ a’u rhoi o gwmpas eich ardal allanol.
  1. Heriwch eich disgyblion i ddod o hyd i’r ‘mwydod’ gwlân.
  2. Casglwch y mwydod gwlân.
  3. Cyfrifwch faint o bob lliw.

Gofynnwch pa liwiau oedd yn hawsaf/anoddaf i’w gweld?

Celf Creu Gylfinir

Casglwch ddeunyddiau naturiol i greu collage o gylfinir.

Tynnwch lun o’ch gylfinir!

Templed lliwio wyau gylfinir

Gêm Gyfri Gylfinir

#LoveOurRivers

#WOLW24  Rydym yn gofyn ddangos eich teyrngarwch i’n hafonydd- gan addo eu caru a gwneud rhai newidiadau bach bob dydd er mwyn helpu ein cenhadaeth i wella safon y dŵr.

Yr Ymrwymiad #CarwchEinHafonydd

Deall ein Hafonydd

Gem Cadwyn Fwyd Afonydd

Llun: Peter Rhys Willimas