Hysbysiad Preifatrwydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau

Cadw eich Gwybodaeth yn Ddiogel

[Diweddarwyd ddiwethaf: 25 Mai 2018]

Sut yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi gwybod i chi sut fydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn edrych ar ôl eich gwybodaeth bersonol.  Mae hyn yn cynnwys:

  • Y wybodaeth y dywedwch wrthym am eich hunan.
  • Gwybodaeth a ddysgwn amdanoch drwy eich cael fel cwsmer neu gyflenwr, cyflogai, gwirfoddolwr, defnyddiwr gwasanaeth, cefnogwr neu wrth gyflawni ein dyletswyddau rheoleiddio fel awdurdod cyhoeddus
  • Y dewisiadau a rowch i ni ynghylch pa farchnata neu wybodaeth am yr Awdurdod y dymunwch i ni ei roi i chi.

 

Mae’r hysbysiad hwn yn egluro sut yr ydym yn gwneud hyn, ac yn eich hysbysu  am eich hawliau preifatrwydd a sut mae’r gyfraith yn eich amddiffyn.  Gall yr hysbysiad hwn newid o bryd i’w gilydd, felly cymerwch olwg ar ein gwefan o droi i dro er mwyn sicrhau eich bod yn hapus ag unrhyw newidiadau.

Pwy ydym ni

Cafodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ei greu yn awdurdod lleol  dibenion arbennig annibynnol o dan y Ddeddf Amgylchedd 1995 (y Ddeddf).

Gallwch ddarganfod mwy amdanom ni yma .

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech gael rhagor o fanylion am sut yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data.

DPO@beacons-npa.gov.uk

01874 624 437

Gallwch hefyd ysgrifennu atom yn y cyfeiriad isod:

Swyddog Diogelu Data
Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Plas Y Ffynnon
Ffordd Cambrian
Aberhonddu
LD3 7HP

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi’i gofrestru yn Rheolwr Data gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.  Rhif cofrestru: Z6715800.

Sut mae’r gyfraith yn eich amddiffyn chi

Mae eich preifatrwydd yn cael ei warchod yn ôl y gyfraith ac mae’r adran hon yn egluro sut mae hynny’n gweithio.

Rydym yn nodi sut yr ydym yn bodloni mesurau atebolrwydd yn y gyfraith a sut yr ydym yn cadw eich gwybodaeth yn ddiogel yn ein Polisi Diogelu Data.

Eich hawliau

O dan y rheoliadau diogelu data, mae gennych yr hawliau canlynol:

  1. Yr hawl i gael gwybod
  2. Hawl mynediad
  3. Yr hawl i gywiro
  4. Yr hawl i ddileu
  5. Yr hawl i gyfyngu prosesu
  6. Yr hawl i ddata gael ei gludo
  7. Yr hawl i wrthwynebu
  8. Hawliau mewn perthynas â gwneud penderfyniadau a phroffilio awtomataidd.

Mae sail gyfreithlon prosesu yn dylanwadu ar ba hawliau sydd ar gael i’r unigolyn.

Rhesymau priodol (sail gyfreithlon) dros ddefnyddio’ch data personol

Mae’r gyfraith Diogelu Data yn dweud ein bod yn cael defnyddio gwybodaeth bersonol dim ond os oes gennym reswm priodol (sail gyfreithlon) dros wneud hynny.  Mae hyn yn cynnwys rhannu gwybodaeth bersonol ag eraill y tu allan i’r Awdurdod.

Mae’r gyfraith yn dweud bod rhaid i ni gael un neu fwy nag un o’r rhesymau hyn:

  • Mae angen y wybodaeth i gyflawni tasg sy’n ymwneud â dyletswyddau cyhoeddus a rheoleiddiol Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
  • I gyflawni contract sydd gennym gyda chi, neu
  • Pan mae dyletswydd gyfreithiol arnom ni, neu
  • Pan mae buddiant cyfreithlon i ni, neu
  • Pan fyddwch chi’n rhoi caniatâd i ni ddefnyddio’r wybodaeth bersonol.

Buddiant cyfreithlon yw pan fydd gennym reswm busnes neu fasnachol i ddefnyddio eich gwybodaeth nad yw’n gysylltiedig â’n dyletswyddau cyhoeddus a rheoleiddiol fel Awdurdod Parc Cenedlaethol.

Mae rhesymau ychwanegol (seiliau gyfreithlon) y mae’n rhaid i’r Awdurdod eu bodloni wrth brosesu data categori arbennig.

Y data a gasglwn

Efallai y byddwn yn casglu gwybodaeth bersonol amdanoch chi neu eich busnes o’r ffynonellau hyn:

Y data a roddwch i ni:

  • Pan fyddwch yn llenwi ffurflen gais, megis cais am swydd, cais am wirfoddoli, cais am ganiatâd cynllunio.
  • Pan fyddwch yn gwneud cais am ein gwasanaethau, megis llogi lle i fynychu digwyddiad neu siarad mewn cyfarfod cyhoeddus.
  • Pan fyddwch yn siarad â ni ar y ffôn, yn anfon e-bost neu yn anfon llythyr atom.
  • Pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan
  • Mewn negeseuon e-bost a llythyron
  • Pan fyddwch yn prynu nwyddau neu yn ymrwymo i gontract gyda ni
  • Pan fyddwch yn cofrestru i ddod yn rhan o rwydwaith neu grŵp yr ydym yn ei hwyluso
  • Mewn hawliadau yswiriant neu ddogfennau eraill

Y data a gasglwn pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau:

  • Data talu a thrafodion.
  • Data proffil ar-lein a defnydd ar-lein. Mae hyn yn cynnwys defnyddio cwcis a logio cyfeiriadau IP pan fyddwch yn cael mynediad i’n gwefan.
  • Data defnyddio ac ymgysylltu ar gyfer gwasanaethau
  • Data Cais Cynllunio
  • Nodiadau ffeiliau achos o gyfarfodydd

Data gan drydydd partïon yr ydym yn gweithio gyda hwy:

  • Sefydliadau sy’n eich cyfeirio chi atom ni
  • Partneriaid prosiect
  • Yswirwyr
  • Cyngor Caerdydd – Gwasanaethau Cyflogres
  • Pensiynau Powys
  • Rhwydweithiau cymdeithasol
  • Asiantaethau atal twyll
  • Asiantau tir
  • Ffynonellau gwybodaeth gyhoeddus megis Tŷ’r Cwmnïau
  • Asiantau sy’n gweithio ar ein rhan
  • Ymarferwyr Meddygol & Iechyd Galwedigaethol
  • Asiantaethau gorfodaeth y Llywodraeth a’r gyfraith.

Y wybodaeth a gasglwn oddi wrthych a’r defnydd a wneir ohonno

Gweithwyr ac Ymgeiswyr am Swydd

Y defnydd a wneir o’ch gwybodaeth bersonol Ein Rhesymau Ein tasgau cyhoeddus neu ein buddiannau cyfreithlon
Prosesu Cais am Swydd Cyflawni Contractau
Ein Rhwymedigaethau Cyfreithiol
Prosesu ceisiadau am brofiad gwaith/ lleoliad myfyrwyr Buddiant Cyfreithlon Gall pobl fynd ar brofiad gwaith a lleoliadau myfyrwyr gyda’r Awdurdod
Cyflawni’ch Contract Cyflogaeth Cyflawni Contractau
Ein Rhwymedigaethau Cyfreithiol
Buddiant Cyfreithlon
Gweinyddu Adnoddau Dynol a’r Gyflogres yn Effeithiol yn yr Awdurdod
Cadw mewn Cysylltiad â chi neu’ch Cyswllt mewn Argyfwng Cyflawni Contractau
Ein Rhwymedigaethau Cyfreithiol
Buddiant Cyfreithlon
Caniatâd – Cyswllt mewn Argyfwng
Rhoi gwybod i staff ac i gysylltiadau mewn argyfwng
Iechyd a Diogelwch Ein Rhwymedigaethau Cyfreithiol
Gwneud Addasiadau Rhesymol Ein Tasg Gyhoeddus
Ein Rhwymedigaethau Cyfreithiol
Cyflawni gofynion o dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010d
Data Monitro Cydraddoldeb Ein Tasg Gyhoeddus
Ein Rhwymedigaethau Cyfreithiol
Cyflawni gofynion o dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010

 

Aelodau

Y defnydd a wneir o’ch gwybodaeth bersonol Ein Rhesymau Ein tasgau cyhoeddus neu ein buddiannau cyfreithlon
Cadw mewn cysulltiad gyda chi a darparu gwybodaeth er mwyn cyflawni eich rôl Ein Tasg Gyhoeddus
Ein Rhwymedigaethau Cyfreithiol
Buddiant Cyfreithlon
Rheolaeth effeithlon yr Awdurdod
Prosesu taliadau treuliau Ein Tasg GyhoeddusEin Rhwymedigaethau Cyfreithiol
Buddiant Cyfreithlon
 Cydnabyddiaeth Ariannol Aelodau

 

Gwirfoddolwyr

Y defnydd a wneir o’ch gwybodaeth bersonol Ein Rhesymau Ein tasgau cyhoeddus neu ein buddiannau cyfreithlon
Prosesu eich cais i wirfoddoli Ein Tasg Gyhoeddus
Ein Rhwymedigaethau Cyfreithiol
Buddiant Cyfreithlon
Gweithio gyda gwirfoddolwyr i gyflawni dibenion y Parc Cenedlaethol
Cadw mewn cysylltiad â chi Buddiant Cyfreithlon Gwirfoddolwyr yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd
Teilwrio profiadau gwirfoddoli a gwneud addasiadau rhesymol Ein Tasg Gyhoeddus
Ein Rhwymedigaethau Cyfreithiol
Buddiant Cyfreithlon
Caniatâd – mewn perthynas â data iechyd
Cynyddu mynediad i gyfleoedd gwirfoddoli.  Cyflawni gofynion o dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Iechyd a Diogelwch Ein Rhwymedigaethau Cyfreithiol
Monitro Cydraddoldeb Ein Tasg Gyhoeddus
Ein Rhwymedigaethau Cyfreithiol
Cyflawni gofynion o dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010

 

Defnyddwyr Gwasanaethau, Cwsmeriaid a Phartneriaid – Cynllunio

Yr hyn y defnyddiwn eich gwybodaeth bersonol ar ei gyfer Ein Rhesymau Ein tasgau cyhoeddus neu ein buddiannau cyfreithlon
Prosesu ceisiadau cynllunio Ein Tasg Gyhoeddus
Ein Rhwymedigaethau Cyfreithiol
Buddiant Cyfreithlon
Cyflawni dyletswyddau’r Awdurdod cynllunio.
Cadw mewn cysylltiad a cheisio adborth am y gwasanaethau a ddarparwn Ein Tasg Gyhoeddus
Ein Rhwymedigaethau Cyfreithiol
Buddiant Cyfreithlon
Rheoli perthynas a gwella gwasanaethau yn barhaus
Gofyn am sylwadau am resymau Polisi Cynllunio, megis y Cynllun Datblygu Lleol Ein Tasg Gyhoeddus
Ein Rhwymedigaethau Cyfreithiol
Buddiant Cyfreithlon
Y cyhoedd yn cael cyfle i ddylanwadu ar bolisi cynllunio lleol.  Cyflawni rhwymedigaethau cytundeb
Ymchwilio toriadau honedig o reloaeth cynllunio Ein Tasg Gyhoeddus

Ein Rhwymedigaethau Cyfreithiol

Buddiant Cyfreithlon

Cyflawni dyletswyddau’r Awdurdod cynllunio

 

 Aelodau Rhwydweithiau neu Grwpiau a hwylusir gennym

Y defnydd a wneir o’ch  gwybodaeth bersonol Ein Rhesymau Ein tasgau cyhoeddus neu ein buddiannau cyfreithlon
Ar gyfer trefnu cyfarfodydd ac anfon gwybodaeth sy’n ymwneud â gwaith y grŵp Ein Tasg Gyhoeddus
Ein Rhwymedigaethau Cyfreithiol
Buddiant Cyfreithlon
Gweithio gydag eraill i gyflawni Dibenion y Parc Cenedlaethol

 

Defnyddwyr y Gwasanaeth a Phartneriaid – Ar draws Gwasanaethau

Y defnydd a wneir o’ch  gwybodaeth bersonol Ein Rhesymau Ein tasgau cyhoeddus neu ein buddiannau cyfreithlon
Cysylltu â chysylltiadau perthnasol ar gyfer rheoli hawliau tramwy a  chadwraeth Ein Tasg Gyhoeddus
Ein Rhwymedigaethau Cyfreithiol
Buddiant Cyfreithlon
Cyflawni dibenion y Parc Cenedlaethol.  Darparu gwasanaethau yn effeithiol.

Cwsmeriaid, Cyflenwyr a Chontractwyr

Y defnydd a wneir o’ch gwybodaeth bersonol Ein Rhesymau Ein tasgau cyhoeddus neu ein buddiannau cyfreithlon
Prosesu Taliadau – gan gynnwys cysylltu â chi am hyn os oes angen Cyflawni Contractau
Ein Rhwymedigaethau Cyfreithiol
Buddiant Cyfreithlon
Prosesu Taliadau yn Effeithiol
Prosesu archebion digwyddiadau – gan gynnwys cysylltu â chi amhyn os oes angen Buddiant Cyfreithlon Prosesu archebion  mewn digwyddiadau sy’n hyrwyddo dibenion y Parc Cenedlaethol yn effeithiol
Rheoli ein perthynas â chi neu â’ch busnes Buddiant Cyfreithlon
Ein Rhwymedigaethau Cyfreithiol
Buddiant Cyfreithlon
Perthynas effeithiol â chyflenwyr, cwsmeriaid a chontractwyr
Asesu Tendrau Ein Rhwymedigaethau Cyfreithiol
Cyflawni ein rhwymedigaethau sy’n deillio o unrhyw gontractau a wneir rhyngoch chi a ni Cyflawni Contractau
Gwybodaeth sydd ei hangen ar gyfer gofynion archwilio ariannol Ein Rhwymedigaethau Cyfreithiol

Ymgysylltu (gan gynnwys ar-lein) a Marchnata

Y defnydd a wneir o’ch gwybodaeth bersonol Ein Rhesymau Ein tasgau cyhoeddus neu ein buddiannau cyfreithlon
Cadw mewn cysylltiad drwy roi gwybodaeth am ddigwyddiadau yn ein canolfannau Ein Tasg Gyhoeddus
Caniatâd – pan fyddwch chi’n cofrestru ar restr bostio
Hyrwyddo Rhinweddau Arbennig y Parc
Rheoli cyfleoedd yn y Canolfannau,  digwyddiadau, neu trwy gynlluniau Llysgennad ar gyfer busnesau a deiliaid stondinau Buddiant Cyfreithlon – Perthynas Barhaus
Caniatâd – Cyswllt Newydd
Rheoli cydberthnasau cyfredol  yn effeithiol fel bod pobl yn ymwybodol o’r cyfleoedd sydd ar gael
Delio â cheisiadau i gystadlaethau. Buddiant Cyfreithlon Galluogi cynnal cystadlaethau yn effeithiol
Dadansoddi ymweliadau â’n gwefan Buddiant Cyfreithlon
Caniatâd – Polisi Cwcis
Ein galluogi i ddadansoddi a gwella’r profiad o ymweld â’n gwefan
Lluniau Buddiant Cyfreithlon

Caniatâd

Ein galluogi i roi cyhoeddusrwydd a chynnwys pobl yn y gwaith a wneir gan yr Awdurdod

Cefnogwyr

Y defydd a wneir o’ch gwybodaeth bersonol Ein Rhesymau Ein tasgau cyhoeddus neu ein buddiannau cyfreithlon
Prosesu eich rhodd Ein Rhwymedigaethau Cyfreithiol
Buddiant Cyfreithlon
Cyflawni dibenion statudol a dyletswydd yr Awdurdod .  Darparu gwasanaethau yn effeithiol.
Cadw mewn cysylltiad â chi am gyfleoedd i gefnogi’r Awdurdod Caniatâd

 

Llywodraethu ac Atebolrwydd

Y defnydd a wneir o’ch gwybodaeth bersonol Ein Rhesymau Ein tasgau cyhoeddus neu ein buddiannau cyfreithlon
Prosesu ymholiadau, sylwadau, adborth a chwynion a gyflwynir gennych Tasg Gyhoeddus
Rhwymedigaethau Cyfreithiol
Buddiant Cyfreithlon
Cyflawni dibenion y Parc Cenedlaethol, safonau gwasanaeth a gofynion Rhyddid Gwybodaeth, Rheoleiddio Amgylcheddol a Chais Gwrthrych am Wybodaeth.

Am ba hyd y byddwn yn cadw gwybodaeth amdanoch

Rydym yn adolygu ein cyfnodau o gadw gwybodaeth bersonol yn gyson.  Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i ni gadw rhai mathau o wybodaeth am gyfnod penodol o amser i gyflawni ein rhwymedigaethau statudol, megis cofnodion cynllunio, ariannol neu adnoddau dynol.  Byddwn ond yn cadw eich gwybodaeth bersonol ar ein systemau neu ar ffeil am gyhyd ag y bo’n angenrheidiol ar gyfer y gweithgaredd perthnasol, neu am gyhyd ag y nodir mewn unrhyw gontract perthnasol sydd gennych gyda ni.

Gyda phwy yr ydym yn rhannu eich gwybodaeth bersonol

Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol yn fewnol gydag adrannau perthnasol o fewn yr Awdurdod ond dim ond at ddibenion penodol.

Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol yn allanol gyda’r sefydliadau hyn ac am y rhesymau canlynol:

Sefydliadau Ein Rheswm
Cyllid a Thollau EM, Rheoleiddwyr ac Awdurdodau eraill Dibenion archwilio, canfod twyll a throseddu
Pensiynau Powys Maent yn  gweinyddu Cynllun Pensiwn yr Awdurdod
Cyngor Sir Caerfyrddin Maent yn darparu system gyllid yr Awdurdod
Pobl yr ydych chi’n cytuno i ni rannu eich data gyda hwy Rydych chi wedi cydsynio i rannu’r data

Sut ydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i wneud penderfyniadau awtomataidd

Ar hyn o bryd nid ydym yn defnyddio’ch gwybodaeth i wneud penderfyniadau awtomataidd.  Petai hyn  yn newid yn y dyfodol byddwn yn diweddaru’r adran hon o’r hysbysiad.

Os dewiswch beidio â rhoi gwybodaeth bersonol

Efallai y bydd angen i ni gasglu gwybodaeth bersonol yn ôl y gyfraith, neu o dan delerau contract sydd gennym gyda chi.

Os byddwch yn dewis peidio â rhoi’r wybodaeth bersonol hon i ni, gallai hynny achosi oedi neu ein rhwystro rhag cyflawni ein rhwymedigaethau.  Gallai hefyd olygu na allwn gyflawni tasgau sy’n gysylltiedig â gwasanaeth yr ydych yn gobeithio ei gael.

Bydd  casglu unrhyw data sy’n ddewisol yn cael ei wneud yn glir adeg casglu’r wybodaeth.

Rhoi caniatâd a thynnu caniatâd yn ôl

Lle bod angen caniatâd unigolyn i brosesu gwybodaeth bersonol, byddwn yn rhoi gwybod i chi.  Fel rheol, ni fydd derbyd caniatâd yn amod cyn derbyn gwasanaeth.

Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl unrhyw adeg.  Cysylltwch â ni os dymunwch wneud hynny ar enquiries@beacons-npa.gov.uk  neu’r tîm perthnasol o fewn yr Awdurdod y rhoddoch ganiatâd iddo.

Os byddwch yn tynnu’ch caniatâd yn ôl, efallai na fyddwn yn gallu darparu gwybodaeth benodol neu rai gwasanaethau i chi.  Os yw hyn yn wir, byddwn yn dweud wrthych.

Sut i gael copi o’ch gwybodaeth bersonol

Gallwch gael golwg ar eich gwybodaeth bersonol sydd gennym drwy ysgrifennu atom neu drwy lenwi’r ffurflen hon a’i hanfon i’r cyfeiriad hwn:

Swyddog Gwasanaethau Corfforaethol
Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Plas Y Ffynnon
Ffordd Cambrian
Aberhonddu
LD3 7HP

Neu e-bostio’r ffurflen at: enquiries@beacons-npa.gov.uk

Os oes angen cymorth arnoch i lenwi’r ffurflen, cysylltwch â enquiries@beacons-npa.gov.uk  01874 624 437

Rhoi gwybod i ni os yw eich gwybodaeth bersonol yn anghywir

Os yr ydym yn cadw gwybodaeth amdanoch, gallwch ofyn i ni gywiro unrhyw gamgymeriadau drwy gysylltu â ni ar enquiries@beacons-npa.gov.uk, ein ffonio ar 01874 624 437, ysgrifennu atom neu gysylltu â’r tîm perthnasol o fewn yr Awdurdod y rhoddoch y wybodaeth iddo.  Byddwn yn cymryd camau rhesymol i wirio cywirdeb y data a gedwir gennym a’i gywiro.

Beth os ydych am i ni roi’r gorau i ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol?

Mae gennych hawl i wrthwynebu i’n defnydd o’ch gwybodaeth bersonol, neu ofyn i ni ddileu, gwaredu, neu roi’r gorau i ddefnyddio’ch gwybodaeth bersonol os nad oes angen i ni gadw’r wybodaeth.

Fe all fod rhesymau cyfreithiol neu swyddogol arall pam y mae angen i ni gadw neu ddefnyddio’ch data.  Ond dywedwch wrthym os ydych o’r farn na ddylem fod yn ei ddefnyddio.

Efallai y byddwn weithiau yn gallu cyfyngu ar y defnydd a wneir o’ch data.  Mae hyn yn golygu y gellir ei ddefnyddio dim ond ar gyfer rhai pethau, megis hawliadau cyfreithiol neu i arfer hawliau cyfreithiol.  Yn y sefyllfa hon, ni fyddwm yn defnyddio nac yn rhannu eich gwybodaeth mewn ffyrdd eraill tra bod y wybodaeth wedi’i chyfyngu.

Gallwch ofyn i ni gyfyngu ar y defnydd a wneir o’ch gwybodaeth bersonol:

  • os nad yw’n gywir.
  • os yw wedi’i ddefnyddio yn anghyfreithlon ond nad ydych am i ni ei ddileu.
  • os nad yw’n berthnasol mwyach, ond eich bod am i ni ei gadw i’w ddefnyddio mewn hawliadau cyfreithiol.
  • os ydych eisoes wedi gofyn i ni roi’r gorau i ddefnyddio’ch data ond eich bod yn disgwyl i ni ddweud wrthych a ydym yn gallu cadw ati i’w ddefnyddio.

Os ydych am wrthwynebu i’r modd yr ydym yn defnyddio’ch data, neu ofyn i ni ei ddileu neu gyfyngu’r modd yr ydym yn ei ddefnyddio, cysylltwch â ni yn DPO@beacons-npa.gov.uk 01874 624 437

Cwcis

I ddarganfod mwy am sut ydym yn defnyddio cwcis, gweler ein hysbysiad cwcis.

Anfon data y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd

Byddwn ond yn anfon eich data y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (‘AEE’) i:

  • Gydymffurfio â dyletswydd gyfreithiol.
  • Pan fydd prosesyddion data a ddefnyddiwn yn anfon data y tu allan i’r AEE ond bod ganddynt fesurau diogelu perthnasol ar waith.

Os yr ydym ni neu brosesydd a ddefnyddiwn yn trosglwyddo gwybodaeth y tu allan i’r AEE, byddwn yn sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei diogelu yn yr un modd ag y byddai’n cael ei defnyddio yn yr AEE.  Byddwn yn defnyddio un o’r mesurau diogelu hyn:

  • Trosglwyddo’r wybodaeth i wlad nad yw yn yr AEE sydd â chyfreithiau preifatrwydd sy’n rhoi’r un amddiffyniad â’r AEE.
  • Gwneud contract gyda’r derbynnydd sy’n golygu bod rhaid iddo ddiogelu’r wybodaeth i’r un safonau â’r AEE.
  • Trosglwyddo’r wybodaeth i sefydliadau sy’n rhan o Tarian Preifatrwydd. Fframwaith yw hyn sy’n pennu safonau preifatrwydd ar gyfer data a anfonir rhwng gwledydd yr Unol Daleithiau a’r Undeb Ewropeaidd.  Mae’n sicrhau bod y safonau hynny yn debyg i’r hyn a ddefnyddir yn yr AEE.  Gallwch ddarganfod mwy am ddiogelu data ar wefan Comisiwn Cyfiawnder Ewrop.

16 oed neu iau

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd plant 16 oed neu iau.  Os ydych yn 16 oed neu’n iau, gwnewch yn siŵr eich bod yn cael caniatâd eich rhiant/gwarcheidwad ymlaen llaw pryd bynnag y byddwch yn rhoi gwybodaeth bersonol i ni.

Sut i wneud cwyn

Cofiwch roi gwybod i ni os ydych yn anfodlon â’r modd yr ydym wedi defnyddio eich gwybodaeth bersonol.  Cysylltwch â’n swyddog diogelu data yn DPO@beacons-npa.gov.uk 01874 624 437

Mae gennych hefyd yr hawl i gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.  Mae gwybodaeth ar eu gwefan am sut i roi gwybod am fater sy’n peri pryder.  Rhif y llinell gymorth yw 0303 123 1113.