Fforwm Mynediad Lleol

Swyddogaeth y Fforwm yw cynghori Awdurdod y Parc Cenedlaethol ac eraill, ynghylch gwella mynediad cyhoeddus i dir yn yr ardal, at ddibenion hamdden awyr agored a mwynhau’r ardal.

Bydd y Fforwm yn cyfarfod o leiaf ddwywaith y flwyddyn ac mae’n debyg y bydd yn cyfarfod yn fwy aml. Mae’n bwysig fod aelodau yn gallu mynychu pob cyfarfod, gan na fydd dirprwyon yn cael eu caniatáu. Mae’r rhain yn swyddi di-dâl ond bydd aelodau’r Fforwm yn medru hawlio costau rhesymol.

Mae gwybodaeth pellach ar gael oddi wrth: Lisa Lloyd, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Plas y Ffynnon, Ffordd Cambrian, Aberhonddu, Powys LD3 7HP.  Ffôn: 01874 620453.  Ebost: access@beacons-npa.gov.uk