Manylion yr Aelodau

Ms Pam Bell

Rwy’n hoff iawn o gerdded, nofio, a hamddena mewn cychod, ac rwy’n mwynhau’r gweithgareddau hyn ar y cyd â’m diddordebau awyr agored, gan gynnwys hanes, byd natur, daeareg ac archeoleg.
Rwy’i wedi mwynhau byw a gweithio yn Parc Cenedlaethol Banna Brycheiniog  am fwy na deng mlynedd ar hugain, ac ar hyn o bryd rwy’n gwasanaethu fel cynghorydd cymuned. Yn sgil fy mhrofiadau a’m sgyrsiau uniongyrchol â phreswylwyr eraill, rwy’n deall y pwysigrwydd o gael mynediad i’r wlad sy’n amgylchynu’ch cartref, a’r problemau a achosir i drigolion gan weithgareddau amhriodol. Ar ôl cael fy magu yng nghanol dinas, a bod yn weithiwr ieuenctid gwirfoddol ers blynyddoedd lawer, rwy’i hefyd yn deall y pwysigrwydd o gael mynediad ehangach i gefn gwlad ar gyfer y bobl sy’n byw mewn dinasoedd.
Tra bydda i’n gwasanaethu ar y Fforwm Mynediad Lleol, un o’m prif nodau fydd cynrychioli’r rheiny sy’n ceisio mynediad i’r ucheldir neu’r iseldir, gan gynnwys mannau lle ceir dŵr a glannau, fel y gallant gael mwynhad, adloniant neu antur mewn modd tawel a chynaliadwy. Rwy’n pryderu bod yr agenda presennol sy’n ymwneud â “thwristiaeth antur” yng Nghymru yn rhoi gormod o bwyslais ar “becynnu antur a phrofiad” trwy gynnal digwyddiadau a hyrwyddiadau proffil-uchel sy’n ymbellhau fwyfwy oddi wrth dwristiaeth gynaliadwy ac ethos gwreiddiol y parciau cenedlaethol. Hoffwn weld pwyslais ar gydnabod hawliau cyhoeddus i dir a dŵr; hwyluso mynediad; sicrhau bod hawliau tramwy dros dir yn cael eu cadw ar agor; mynd ati’n rhagweithiol i ddefnyddio’r cyfleoedd a ddarperir gan ddeddfwriaeth i hwyluso mynediad i fathau amrywiol o dir a dyfroedd mewndirol, gan ddarparu gwybodaeth ffeithiol sy’n galluogi pobl leol neu dwristiaid i gymryd perchnogaeth o’r awyr agored, ac i gynllunio a mwynhau eu hunain mewn modd cynaliadwy tra byddan nhw yno.

Aelodaeth o Sefydliadau:
Aelod am oes o’r Cyngor Astudiaethau Maes (FSC) a Chymdeithas Hosteli Ieuenctid (YHA)
Aelod a gwirfoddolwr achlysurol: Grŵp Amgylchedd Treftadaeth y Byd Blaenafon (BWHEG) a Chymdeithas Hanes ac Archaeoleg Aberystwyth (AHAS)
Ar hyn o bryd, rwy’n gwasanaethu fel Cynghorydd Cymuned ar gyfer Plwyf Llanelli
Un o sylfaenwyr, ac Ymddiriedolwr o Ymddiriedolaeth Mynediad a Chadwraeth Bluespace.
Aelod o Ganŵ Cymru a Chanŵio Prydain 

Mrs Rachel Chapel

Cefais fy ngeni a’m magu ym Mannau Brycheiniog ac mae fy nheulu wedi ffermio Ystâd Cnewr, i’r gorllewin o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oddi ar 1855 pan ddaeth fy hynafiaid i lawr o Dumfries a Galloway. Rydyn ni’n ffermwyr mynydd traddodiadol gyda defaid cynefin a gwartheg sugno sy’n byw ar y bryn trwy gydol y flwyddyn. Dechreuodd fy nheulu frîd defaid newydd o’r enw Cheviot Hill Brecknock – ac maen nhw’n dal i’w cynhyrchu a’u ffermio heddiw. Rwy’n credu’n gryf ein bod ni’n freintiedig iawn i reoli tir mewn rhan mor hardd a gwerthfawr o’r wlad ac y dylem wneud pob dim o fewn ein gallu i warchod a gwella’r ystâd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae angen rheoli amaeth a’r amgylchedd law yn llaw i ddarparu bwyd, dŵr ac aer glân i ni yn ogystal â thirwedd amrywiol a chyfoethog, ac mae angen annog a chefnogi cymunedau gwledig er mwyn parhau i wneud hyn. Credaf fod angen inni weithio gyda phreswylwyr trefol a’u haddysgu i ddeall y ffordd wledig o fyw, a bod angen inni groesawu twristiaid cyfrifol i’r Parc Cenedlaethol. Gallant ddod â chymaint o fudd i’r gymuned leol – ond mae angen rheoli hyn yn ofalus i sicrhau bod amaethyddiaeth, busnesau lleol a thwristiaeth i gyd yn gweithio’n gytûn. Rwy’i wrth fy modd yn yr awyr agored, yn cerdded ac yn cymryd rhan mewn chwaraeon dŵr gan gynnwys nofio dŵr agored.

Aelodaeth o Sefydliadau:
Aelod o Bwyllgor Cymdeithas y Tirfeddianwyr Gwledig
Aelod o’r Gymdeithas Hwylio Frenhinol (RYA) 

Miss Phillipa Cherryson

Mae Philippa yn awdur sy’n frwd ynghylch marchogaeth a cherdded y bryniau. Yn gyn-ohebydd i bapurau newydd a theledu Cymru, mae hi bellach yn ysgrifennu i gylchgronau a phapurau newydd ar hyd a lled y DU. Mae hi wedi bod ar Bwyllgor Clwb Marchogaeth Dyffryn Wysg, yn y Fenni, am dros 10 mlynedd. Mae Philippa yn berchen ar ei cheffyl ei hun, yn “haciwr hapus” ac yn Farchog Dygnwch Prydain. Mae ei phartner yn aelod o Dîm Achub Mynydd Longtown ac mae’n helpu’r Tîm gyda chyhoeddusrwydd a’r wasg. Fel tyddynnwr, mae’n deall pryderon y tirfeddianwyr ac mae hi hefyd yn gadwraethwr eiddgar. Diddordebau allweddol Philippa yw cerdded, marchogaeth, a diogelwch yn y mynyddoedd.

Aelodaeth o Sefydliadau:
Clwb Marchogaeth Dyffryn Wysg, Dygnwch Prydain, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Mr Robert Dangerfield

Diddordebau: Sicrhau gwelliant parhaus i drefniadau mynediad er budd ymwelwyr, y gymuned leol, ffermio a busnes, yn ogystal â bio-gadwraeth a chynnal ein hamgylchedd
Cerdded yng nghefn gwlad, fflora a ffawna, hwylio, caiacio a chanŵio
Hanes lleol a dyfodol ein cymuned a’n Parc Cenedlaethol
Dwyn sylw at berlau llai adnabyddus y Parc Cenedlaethol
Cynnal a gwella hawliau tramwy cyhoeddus, pwyntiau mynediad a “dodrefn llwybrau troed”

Aelodaeth o Sefydliadau:
Clwb Hwylio Llan-gors
Cymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad (CLA) 

Ms Karen Harris

Cafodd fy nghariad at gefn gwlad ei feithrin gan fy nhad o oedran cynnar iawn – byddwn ni’n mynd am dro bob amser gyda chamera wrth law i gofnodi ein darganfyddiadau. Fel myfyriwr aeddfed, astudiais am Radd mewn Gwyddor yr Amgylchedd gyda Daearyddiaeth, gyda Gradd Meistr mewn Rheoli Llygredd Amgylcheddol, a Thystysgrif Addysgu Oedolion i ddilyn. At hynny, bûm yn dilyn cyrsiau byr ar Strategaethau Addysgol, yn ysgrifennu polisïau mynediad, ac yn rheoli prosiectau. Ar hyd yr adeg, byddai gwaith maes yn aml yn mynd â fi i Barciau Cenedlaethol, ac mae gwaith gwirfoddol gydag Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt ac Adrannau Hanes Naturiol mewn Amgueddfeydd, ac yn fwy diweddar Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, wedi rhoi profiad eang i mi o weithio ac ymweld â pharciau cenedlaethol a chefn gwlad yn ehangach. Rwy’i hefyd wedi cael profiad gwaith amrywiol fel Curadur Hanes Natur yn cefnogi myfyrwyr ag Anghenion Addysgol Arbennig, a hefyd fel Ymgynghorydd Addysg Amgylcheddol Hunan-gyflogedig gydag Asiantaeth yr Amgylchedd, a Gweithiwr Datblygu Cymunedau Gwledig i gymdeithas dai – roedd y ddwy swydd olaf o fewn Parc Cenedlaethol y Twyni Deheuol. Gyda thristwch mawr, bu’n rhaid i mi ymddeol yn gynnar wrth i’m hiechyd/ anabledd waethygu. Ers symud i Gymru i fyw ym Mrynaman Uchaf ac Ystalyfera, rwy’i wedi bod yn ymwelydd cyson â Bannau Brycheiniog. Rwy’n dal i garu’r awyr agored, ond yn gynyddol rwy’n gweld y mannau gwyllt hynny’n dod yn anodd neu’n amhosibl i’w cyrraedd ar fy sgwter symudedd. Mae hi mor rhwystredig gweld bod cyn lleied yn hygyrch i mi, yn enwedig wrth fyw mor agos i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’r profiad hwn wedi fy ysgogi i ymuno â Fforwm Mynediad Lleol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gyda’r nod o wella mynediad i bawb sy’n anabl a’u galluogi i fwynhau’r cyfan sydd gan y Parc i’w gynnig.

Aelodaeth o Sefydliadau:
Ar hyn o bryd, rwy’n aelod o Anabledd Cymru ac ar ôl symud i Ystalyfera byddaf yn ymuno â Sefydliad y Merched, y Clwb Llyfrau a grwpiau eraill o ddiddordeb yn yr ardal. Rwy’i hefyd wedi cael fy nerbyn i Banel Cyfeirio Rhanddeiliaid Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog fel Cynrychiolydd y Fforwm Mynediad Lleol.

Mr Sion James

Cefais fy ngeni yn ardal y Mynyddoedd Du ac mae gen i barch mawr tuag at Hanes, Daeareg, Planhigion a Ffawna’r ucheldir yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig yn ehangach. Fel Arweinydd Mynydd a Thywysydd Beicio Mynydd, rwy’n ffodus iawn fod fy ngalwedigaeth yn caniatáu imi rannu hyn gyda thrigolion ac ymwelwyr yr ardal. Fy niddordeb arbennig wrth eistedd ar y FfMLl yw gwella’r mynediad i Feiciau Mynydd ledled y Parc Cenedlaethol.

Aelodaeth o Sefydliadau:
Cyngor Mynydda Prydain
Cymdeithas Hyfforddiant Mynydd
Cymdeithas Coetswyr Seiclo Prydain
Seiclo Prydain 

Dr Ian Jenkins

Mae Ian yn Ddaearyddwr Twristiaeth sydd wedi arbenigo ym meysydd cynaladwyedd ac antur. Rhan nodedig o’i waith oedd twristiaeth antur a mynediad i barciau cenedlaethol. Yn ogystal, mae Ian wedi rheoli nifer o gyrsiau ar dwristiaeth antur yng Nghymru, gan gynnwys cydgysylltu’n agos â chwmnïau antur ynghylch materion sy’n ymwneud â mynediad i dirweddau amgylcheddol sensitif, gan gynnwys Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae wedi gweithio yng Ngwlad yr Iâ a’r Swistir ar bynciau’n ymwneud â thwristiaeth gynaliadwy mewn parciau cenedlaethol, yn enwedig twristiaeth antur. Mae ei gyhoeddiadau’n cwmpasu nifer o lyfrau, penodau mewn llyfrau, ac erthyglau ar: dwristiaeth gynaliadwy, newid hinsawdd, twristiaeth antur a rheoli iechyd a diogelwch.

Aelodaeth o Sefydliadau:
Athro Cyswllt Gwadd Prifysgol Gwlad yr Iâ
Yn flaenorol: Athro Cyswllt Prifysgol Gwlad yr Iâ
Cymrawd Ymchwil Prifysgol Nicosia
Cyfarwyddwr Ymchwil LRG/Glion IHE, y Swistir
Cyfarwyddwr Celt@s a SaiL PCYDDS, Abertawe

Mr Nicholas Lancaster

Mae gennyf ddiddordeb mewn hyrwyddo mynediad i’r Parc Cenedlaethol a’i gyfleusterau ar gyfer pobl anabl. Rydw i, fel person anabl fy hun, yn ogystal â’r sefydliadau rwy’n rhan ohonyn nhw, yn gweld yn glir y cyfyngiadau neu’r amhosibiliadau y mae pobl yn eu hwynebu i gael mynediad i unrhyw le, yn aml i lefydd y mae eraill yn eu cymryd yn ganiataol. Rwy’n hoffi manteisio ar yr hyn sydd gan yr ardal i’w gynnig i mi, a gyda’r arweinwyr a’r aelodau ifanc yng Nghymdeithas y Sgowtiaid, rydyn ni’n hyrwyddo antur a llesiant y genhedlaeth i ddyfod.

Aelodaeth o Sefydliadau:
Cadeirydd – Nam ar y Golwg Sir Frycheiniog
Aelod – Grŵp Mynediad Aberhonddu
Ymgyrchydd – Cŵn Tywys
Ymgyrchydd – yr RNIB
Ysgrifennydd – Cyngor Sgowtiaid Ardal Brycheiniog 

Mr Ian Mabberley – Cadeirydd y Fforwm Mynediad Lleol

Fel defnyddiwr rheolaidd o rwydwaith hawliau tramwy’r Parc a thyddynnwr yn un o’i  ddyffrynnoedd prysuraf, gallaf werthfawrogi’r pwysau sydd ar y rhwydwaith ac ar y trigolion a’r tirfeddianwyr.
Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn gwneud mynediad ar draws y Parc yn weithgaredd sy’n bleserus ac yn ddiogel i ddefnyddwyr cyfreithlon. Rwy’n gweithio’n agos yn fy ardal gyda’r Heddlu a chyda Chyfoeth Naturiol Cymru i gyfyngu ar weithgareddau anghyfreithlon ar y rhwydwaith hawliau tramwy a’r tir mynediad.
Rwy’i hefyd yn awyddus i weld bod gweithgareddau grŵp mawr yn cael eu rheoli’n dda a’u bod, lle bo modd, o fudd i’r Cymunedau Lleol sy’n cael eu heffeithio ganddynt.

Aelodaeth o Sefydliadau:
Cyfarwyddwr: Cwmni Buddiannau Cymunedol Grwyne Fawr (CIC)
Ymddiriedolwr/Cyfarwyddwr: Canolfan Adnoddau a Gwybodaeth Crucywel (CRIC)
Aelod: Seiclo Prydain

Mr Hywel Morgan

Rwy’n ffermwr cig eidion a defaid ym Myddfai sef cartref chwedlonol Arglwyddes y Llyn a’i meibion Meddygon Myddfai.
Mae gen i hawliau pori ac rwy’n borwr gweithredol ar Gomin y Mynydd Du.
Rwy’n angerddol am y Mynydd, Llyn y Fan Fach a Bannau Brycheiniog.
Rwy’n credu’n gryf y gall porwyr, pobl y trefi a’r dinasoedd, a’r twristiaid gydweithio yn y Parc Cenedlaethol.
Fel ffermwyr, mae angen i ni gysylltu mwy â phobl y ddinas.
Rwy’n dad i ddau o blant ac yn siarad Cymraeg yn rhugl.

Aelodaeth o Sefydliadau:
Cynghorydd Cymuned Myddfai
Is-Gadeirydd ac Aelod o Gymdeithas Porwyr y Mynydd Du
Ysgrifennydd ac Aelod o Gymdeithas Porwyr Myddfai 

Yr Athro Denis Murphy

Rwy’n byw ym Mharc Cenedlaethol y Bannau. Rwy’n naturiaethwr sy’n frwd dros fywyd gwyllt ac yn hoff o fod yn yr awyr agored. Rwy’i hefyd yn rhedeg busnes ymgynghori sydd wedi’i leoli yn y Parc. Fel Athro Emeritws Bioleg a darlithydd achlysurol ar bynciau megis bioamrywiaeth, biodaearyddiaeth, cadwraeth amgylcheddol a rhywogaethau ymledol, mae gen i ddiddordeb proffesiynol mewn agweddau naturiol o’n hamgylchedd lleol. Rwy’i hefyd yn gweithio ym maes cyhoeddi gwyddonol gyda Gwasg Prifysgol Caergrawnt a Gwasg Prifysgol Rhydychen ac wedi ysgrifennu nifer o lyfrau ar fioleg planhigion ac amaethyddiaeth. Fy mhrif ddiddordeb fyddai sicrhau bod y Parc ar gael i’r ystod ehangaf bosibl o ddefnyddwyr. Fodd bynnag, mae gennyf ddiddordeb hefyd mewn sicrhau bod mynediad o’r fath yn cael ei reoli er mwyn gwneud y mwyaf o gynaliadwyedd hirdymor pob math o ddefnydd, a lleihau eu hôl troed amgylcheddol er mwyn sicrhau na chaiff y Parc mo’i ddifetha ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Aelodaeth o Sefydliadau:
Cymrawd y Gymdeithas Fioleg Frenhinol (FRSB)

Mr Christopher Payne

Diddordebau sy’n berthnasol i Fforwm Mynediad Lleol PCBB:
Fy hobïau a’m diddordebau yw cartograffeg, ac ymchwilio i lwybrau hynafol a Hawliau Tramwy.

Aelodaeth o Sefydliadau:
TRF

Mrs Catrin Price

Mr Steve Rayner

Rwy’n canŵio, yn caiacio ac yn cerdded y bryniau – felly, mae gennyf ddiddordeb mawr mewn cynnal a gwella’r mynediad i hamddena ar dir a dŵr o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Rwy’n ymgymryd â nifer o weithgareddau hamdden yn yr awyr agored: rwy’n cystadlu mewn slalom canŵio a pholo; rwy’n goets ac yn arweinydd gwirfoddol i Glwb Canŵio Aberhonddu a Chymdeithas y Sgowtiaid; ac rwy’n hyfforddwr llawrydd rhan-amser (yn gweithio’n annibynnol ac i ganolfannau lleol); felly, mae gen i ddiddordeb mewn cyrchu tir a dŵr ar gyfer ystod eang o ddibenion.
Rwy’n berchen ar fferm laswellt ar osod ac mae gen i hawliau cominwr ger Libanus – felly, mae gen i ddiddordeb hefyd mewn diogelu buddiannau tirfeddianwyr ochr yn ochr ag annog mwy o fynediad at weithgareddau hamdden.
Fi yw Swyddog Rhan-amser y Dyfrffyrdd a’r Amgylchedd ar gyfer Canŵ Cymru (y Corff Llywodraethu Cenedlaethol ar gyfer chwaraeon padlo) a fi hefyd yw Cydlynydd Rhan-amser Grŵp Darparwyr Gweithgareddau Awyr Agored De Cymru (sy’n cynrychioli busnesau gweithgareddau awyr agored yn y De). Felly, mae gen i ddiddordeb arbennig mewn cynrychioli barn a buddiannau’r ddau sefydliad hyn.

Aelodaeth o Sefydliadau:
Clwb Canŵio Aberhonddu (Cadeirydd a Swyddog Hyfforddi)
Canŵ Cymru (Cadeirydd Gwirfoddol Pwyllgor Slalom Canŵ Cymru a Swyddog Rhan-amser y Dyfrffyrdd a’r Amgylchedd, gan roi aelodaeth i mi o Fforwm Mynediad Cenedlaethol Cymru)
Cyngor Mynydda Prydain (Aelod Unigol)
Sgowtiaid Ardal Brycheiniog (Cynorthwyydd Gweithgareddau)
Grŵp Darparwyr Gweithgareddau Awyr Agored De Cymru (Cydlynydd Rhan-amser)Cymdeithas Cominwyr Mynydd Illtud

Dr Paul Sinnadurai

Mae Paul wedi gweithio i Awdurdod y Parc Cenedlaethol oddi ar 2000, gan wasanaethu fel Ecolegydd, Uwch Ecolegydd a Chynghorydd Polisi, Rheolwr Cadwraeth, Rheolwr Tîm Adnoddau Naturiol a bellach, mae’n  Uwch Ecolegydd ar gyfer Addasu i’r Hinsawdd. Mae’n aelod o Dîm Llywodraethu Corfforaethol yr Awdurdod ac yn flaenorol, bu’n Rheolwr Llinell ar y Swyddog Hawliau Tramwy (Eifion Jones), y Swyddog Prosiectau Cefn Gwlad a Mynediad (Richard Ball), y Rheolwr Warden (Judith Harvey), a’r Uwch Ecolegydd ac Ymgynghorydd Addasu i’r Hinsawdd (yn wag ar hyn o bryd).

Ms Roz Smart

Mae gan fy mhartner a minnau dyddyn organig ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Rydyn ni’n cadw diadell fechan o ddefaid Mynydd Du Cymreig ac ychydig o wartheg Henffordd bach croes. Fe symudon ni yma 12 mlynedd yn ôl, ar ôl i mi weithio am 30 mlynedd fel athrawes ysgol gynradd a phennaeth ar ysgolion yng nghanol y ddinas. Rwy’n angerddol am fy nghartref mabwysiedig yn ardal y Mynyddoedd Du ac wedi ymrwymo i chwarae rhan weithredol yn eu dyfodol.
Rwy’n cerdded o gwmpas fy nghartref ac ymhellach i ffwrdd yn y Parc bob dydd ac rwy’n mwynhau nofio yn yr afonydd a’r llynnoedd yno. Rwy’i hefyd yn rhoi cynnig ar weithgareddau hamdden eraill er mwyn ein gwesteion gwyliau.
Fy niddordeb allweddol ar y Fforwm Mynediad Lleol yw helpu i wella mynediad i’r Parc ar gyfer ei holl ddefnyddwyr, mewn modd sy’n rhoi ystyriaeth briodol i freuder amgylcheddol y dirwedd a’r angen i feithrin ac adfer bioamrywiaeth gyfoethog y rhanbarth, ac sydd hefyd yn sicrhau bod pryderon a bywoliaeth y tirfeddianwyr yn cael eu parchu wrth ymdrin â mynediad.
Mae angen i ni rannu’r gofod hwn ac arddangos ei harddwch, ond gyda pharch bob amser.

Aelodaeth o Sefydliadau:
UAC
Cymdeithas Cominwyr Pen-y-fâl
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent
Grŵp Dolydd Sir Fynwy
Twristiaeth Bannau Brycheiniog
Rhwydwaith Merched y Fenni 

Mrs Kathryn Whitrow

Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU) – Aelod Sirol
Porwr y Fforest Fawr
Ffermwr Cig Eidion a Defaid
Perchennog tir ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Aelodaeth o Sefydliadau:
NFU Cymru