Cwestiynau Cyffredin

 

Dyma rai o’r cwestiynau a ofynnwyd yn y gorffennol am y Fforwm. Os na allwch ddod o hyd i ateb i’ch cwestiwn, mae croeso i chi gysylltu â’r Ysgrifennydd, Richard Ball, ar 01874 620464 neu anfon e-bost ato.

Pa mor aml mae’r Fforwm yn cyfarfod? Mae’r Rheoliadau’n mynnu bod Fforymau Mynediad Lleol yn cyfarfod o leiaf ddwywaith y flwyddyn. Serch hynny, mae Fforwm Mynediad Lleol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cyfarfod tua phedair gwaith y flwyddyn. At hynny, mae’n bosib y bydd aelodau hefyd yn mynychu cyfarfodydd is-grwpiau neu gynadleddau yn ystod y flwyddyn.

A yw aelodau o’r Fforwm yn cael eu talu? Na. Mae aelodau’r Fforwm yn rhoi eu hamser yn wirfoddol er y gallant hawlio treuliau.

Pwy sy’n penodi aelodau i’r Fforwm? Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy’n penodi aelodau’r Fforwm. Fodd bynnag, mae’r Ddeddf CROW yn mynnu bod unrhyw un sy’n cael ei benodi yn cynrychioli: – defnyddwyr hawliau tramwy cyhoeddus neu dir mynediad; – perchnogion/deiliaid tir mynediad neu dir lle mae hawliau tramwy lleol, ac – unrhyw ddiddordebau eraill sy’n arbennig o berthnasol i’r maes hwn. Hefyd, rhaid cael cydbwysedd rhesymol rhwng diddordebau defnyddwyr a pherchnogion/deiliaid tir mynediad.

Alla i fynychu cyfarfod o’r Fforwm? Gallwch. Mae croeso i aelodau o’r cyhoedd fynychu pob cyfarfod o’r Fforwm. Gall y Cadeirydd hefyd ddefnyddio’i ddisgresiwn a’ch gwahodd i siarad yn y cyfarfod. Nodir dyddiadau’r cyfarfodydd ar y wefan hon.

Beth mae sefydlu’r Fforymau Mynediad Lleol yn ei olygu i fi? Mae’r Fforymau’n awyddus iawn i wasanaethu pobl leol ac ymwelwyr. Os oes gennych chi syniadau o ran gwella neu reoli mynediad yn y Parc Cenedlaethol, yna cysylltwch ag unrhyw aelod o’r Fforwm drwy’r Ysgrifennydd Richard Ball ar 01874 620464 neu anfonwch e-bost ato.  Gan fod gan y Fforwm aelodaeth gytbwys, gallwch fod yn sicr y bydd eich syniadau neu awgrymiadau yn cael eu hystyried yn deg.

Alla i gysylltu ag aelodau’r Fforwm? Os hoffech chi gysylltu ag aelod, a fyddech cystal â gwneud hynny drwy’r Ysgrifennydd, Richard Ball ar 01874 620464 neu anfonwch e-bost ato.