Newyddion Cynllunio Diweddaraf

Mae ein cymorthfeydd cynllunio wedi’u gohirio.

Ataliwyd cymorthfeydd cynllunio am gyfnod cychwynnol o 3 mis oherwydd prinder staff a llwythi gwaith swyddogion. Rydym wedi adolygu hyn ac wedi atal hyd nes y rhoddir rhybudd pellach. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi.

Mae cyngor cynllunio ynghylch tai ar gael ar ein gwefan ar: Ceisiadau a Chanllawiau | Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae Canllawiau Cynllunio Llywodraeth Cymru ynghylch tai hefyd ar gael ar: Caniatâd Cynllunio: hawliau datblygu a ganiateir.  Gellir cael cyngor pellach hefyd gan Cymorth Cynllunio Cymru ar: Cyngor Cynllunio – Cymorth Cynllunio Cymru

Byddwn yn parhau i adolygu’r effaith y mae hyn yn ei chael ar ddarparu gwasanaeth a phrofiad ymgeiswyr.


Rhagfyr 2021, Nodyn Atgoffa: Ymateb Coronafirws (COVID19) Llywodraeth Cymru

Datblygu a Ganiateir

Mae’r hawliau dros dro ar gyfer datblygu a ganiateir, a gyflwynwyd gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2021, i fod i ddod i ben.  Daw’r 28 diwrnod ychwanegol ar gyfer defnyddiau dros dro i ben ar 3 Ionawr 2022 a defnyddiau dros dro yng nghanol trefi i ben ar 29 Ebrill 2022.

Y Diwydiant Lletygarwch

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru hawliau datblygu a ganiateir fis Ebrill i gefnogi’r diwydiant lletygarwch.  Cyngor Prif Gynllunydd Llywodraeth Cymru yw y bydd agwedd hyblyg yn cael ei gymryd pan fydd busnesau’n ceisio defnyddio eu cwrtil i ddarparu bwyd a diod, gan gynnwys codi strwythurau dros dro, tan 3 Ionawr 2022. Os bydd busnesau eisiau cadw’r strwythurau hynny’n barhaol, yna bydd yn rhaid cyflwyno cais cynllunio i ni. Neu, os ydych yn ansicr a fyddai cynnig yn dderbyniol, cofiwch ddefnyddio ein gwasanaeth cyngor cyn cais.   Mae’r ddolen yma. https://www.beacons-npa.gov.uk/planning/applications/guidance-note-01-april-2014-charging-for-pre-application-planning-advice/

Fel arall, bydd yn rhaid i’r defnydd ddod i ben a bydd yn rhaid clirio’r strwythurau erbyn 3 Ionawr 2022 neu, efallai, wynebu’r perygl o weithredu gorfodaeth ar ôl y dyddiad hwn.

Mae rhagor o fanylion a gwybodaeth ar ymateb Cynllunio Llywodraeth Cymru i’r Pandemig ar gael yma.


Mae ffioedd cynllunio yng Nghymru yn codi 20% o ddydd Llun 24 Awst.

Yn dilyn cyfarfod diweddar â Swyddogion Llywodraeth Cymru, mae APCBB wedi penderfynu gohirio rhoi gwybod i’r aelodau am y Cytundeb Cyflenwi (CC) diwygiedig yng nghyfarfod Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar 7 Awst 2020.

Byddwn yn parhau i weithio ar y CC diwygiedig ac yn diweddaru ymgynghorai maes o law pryd y bydd hyn yn cael ei adrodd nesaf i Aelodau Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

DIWEDDARIAD – Cynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog 2 (CDLl2)
Cytundeb Cyflenwi Diwygiedig

Wrth i’r amgylchiadau newid o ran coronafeirws (COVID-19), rydym ni wedi penderfynu i adolygu Cytundeb Cyflenwi (CC) Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog CDLl2

Mae paratoi Cytundeb Cyflenwi yn ofyniad allweddol wrth baratoi CDLl diwygiedig. Mae’r Cytundeb Cyflenwi Drafft yn darparu manylion y camau sy’n rhan o’r broses Llunio Cynllun, yr amser y mae pob rhan o’r broses yn debygol o’i gymryd, a’r adnoddau y bydd y awdurdodr yn ymrwymo iddynt er mwyn paratoi’r Cynllun. Bydd y Cytundeb Cyflenwi hefyd yn sefydlu dull cynnar, llawn a pharhaus yr Awdurdod Cynllunio Lleol o ymgysylltu â chymunedau a’u cynnwys yn y broses o baratoi’r CDLl diwygiedig.

Mae’r Cytundeb Cyflenwi wedi’i rannu’n ddwy ran allweddol:

  • Yr amserlen ar gyfer cynhyrchu’r CDLl diwygiedig

Mae hyn yn rhoi syniad o bryd y bydd gwahanol gamau o baratoi’r cynllun yn digwydd. Darperir dyddiadau pendant hyd at y cam adneuo a dyddiadau bras ar gyfer camau diweddarach.

  • Y Cynllun Cynnwys Cymunedau

Mae hyn yn nodi egwyddorion, strategaeth a mecanweithiau’r awdurdodr ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd a rhanddeiliaid yn gynnar, yn llawn ac yn barhaus drwy gydol y broses adolygu. Mae hon yn elfen sylfaenol o system y cynllun datblygu. Ar ôl ei gymeradwyo, bydd angen i’r awdurdodr gydymffurfio â’r gofynion ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned a nodir yn y Cynllun Cynnwys Cymunedau.

Bydd y Cytundeb Cyflenwi diwygiedig yn cael ei adrodd i’r Aelodau yng nghyfarfod Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar 7 Awst 2020 i’w gymeradwyo ac yn dilyn hyn, bydd y DA diwygiedig yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i ofyn am gytundeb ffurfiol.

Ar ôl cytuno ar hyn, bydd y Cytundeb Cyflenwi diwygiedig yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan a byddwn yn anfon diweddariad pellach i ymgynghorwyr.

Cylchlythyr Cynllun Datblygu Lleol Tachwedd 2018


Corff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy (SAB)

O 7 Ionawr 2019 ymlaen, bydd angen i unrhyw waith newydd gyda mwy nag un 1 tŷ neu unrhyw waith adeiladu dros 100m2 sy’n effeithio ar systemau draenio gael systemau draenio cynaliadwy i reoli dŵr wyneb ar y safle. Mae’n rhaid cynllunio ac adeiladu systemau draenio dŵr wyneb yn unol â safonau gorfodol ar gyfer draenio cynaliadwy a gyhoeddwyd gan Weinidogion Llywodraeth Cymru.

Mae’n rhaid i’r systemau hyn gael eu cymeradwyo gan yr awdurdod lleol yn eich ardal (h.y. Cyngor Sir Powys, Cyngor Sir Fynwy ac ati) wrth iddo weithredu fel Corff Cymeradwy SuDS (SAB) cyn i unrhyw ran o’r gwaith ddechrau.  Bydd dyletswydd ar y SAB i gymeradwyo a mabwysiadu systemau cyn belled â bod y system wedi’i hadeiladu ac yn gweithredu yn unol â’r cynigion a gymeradwywyd, gan gynnwys unrhyw amodau cymeradwyo a nodwyd gan y SAB. Am ragor o wybodaeth, dylech gyfeirio at eich Awdurdod Lleol perthnasol.

Cyhoeddwyd y safonau statudol gan Lywodraeth Cymru, ac mae copi ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru,  Systemau draenio cynaliadwy ar ddatblygiadau newydd


Datganiadau Effaith ar Dreftadaeth  

O 1 Medi 2017 bydd Datganiad Effaith ar Dreftadaeth yn ofynnol i gefnogi unrhyw gais am ganiatâd adeilad rhestredig neu ardal gadwraeth. Bydd y Datganiad Effaith ar Dreftadaeth yn disodli’r Datganiad Dylunio a Mynediad yn y broses o ymgeisio am ganiatâd adeilad rhestredig. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma

Eglurir y gofyniad hwn yn Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2017 (SI 2017/638).

Mae’r is-ddeddfwriaeth a ganlyn wedi’i gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a daw i rym ar 16 Mawrth 2016.

  • Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016 (“y Gorchymyn”).
  • Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Apelau Dilysu) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2016
  • Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gwasanaethau Cyn-Ymgeisio) (Cymru) 2016

Mae’r rhain yn rhoi’r amrywiol ddarpariaethau sydd yn Neddf Cynllunio (Cymru) 2016 (“Deddf 2016″) ar waith ac yn rhoi manylion

yn eu cylch Yn ogystal â hyn, mae nifer o welliannau wedi’u gwneud hefyd i’r gweithdrefnau rheoli datblygu sydd yng Ngorchymyn

Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 (DMPWO) gan ddefnyddio’r pwerau sydd eisoes ar gael yn Neddf

Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“Deddf 1990”) fel rhan o roi rhaglen gynllunio gadarnhaol ehangach Llywodraeth Cymru ar waith.

Rhoddir esboniad o’r prif newidiadau i’r broses rheoli datblygu isod:-

http://gov.wales/topics/planning/policy/dear-cpo-letters/new-development-management-procedures/?skip=1&lang=cy

Yn dilyn newidiadau deddfwriaethol ynghylch yr angen am Ddatganiadau Dylunio a Mynediad (DAS) ym mis Ebrill 2016, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dogfen ganllawiau newydd, “Datganiadau Dylunio a Mynediad yng Nghymru: Pam, Beth a Sut” a gynhyrchwyd gan Gomisiwn Dylunio Cymru (DCFW).

Mae’r ddogfen yn amlinellu manteision ymgymryd â DAS, gan gynnwys cynlluniau nad oes eu hangen yn ôl deddfwriaeth. Mae’n rhoi cyngor ar beth ddylai a beth na ddylai gael ei gynnwys yn y DAS, canllawiau ar strwythur awgrymedig ar gyfer y ddogfen a materion y dylid cyfeirio atynt a’u cynnwys yn y DAS.

Mae’r canllawiau hyn yn disodli pob Canllaw blaenorol gan Lywodraeth Cymru ar DAS a gellir eu gweld drwy ddilyn y ddolen ganlynol:-

http://gov.wales/topics/planning/policy/guidanceandleaflets/design-and-access-statements-in-wales/?skip=1&lang=cy


Dweud eich dweud – Arolwg i gwsmeriaid am wasanaeth Cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Efallai y byddwch yn cael e-bost gennym ni yn y man, gyda dolen sy’n arwain at holiadur. Rydym yn anfon yr e-bost ar ran Cymdeithas Swyddogion Cynllunio Cymru sy’n casglu adborth cwsmeriaid ar y broses o wneud cais cynllunio yng Nghymru. Mae’r Gymdeithas wedi comisiynu Uned Ddata Llywodraeth Leol ~ Cymru i wneud yr arolwg ar ei rhan. Os ydych chi’n cael yr e-bost a bod gennych chi ymholiad ynghylch yr holiadur cysylltwch â Keely.Jones@dataunitwales.gov.uk neu ffonio 029 2090 9500.

Mae’r is-ddeddfwriaeth a ganlyn wedi’i gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a daw i rym ar 16 Mawrth 2016.

  • Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016 (“y Gorchymyn”).
  • Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Apelau Dilysu) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2016
  • Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gwasanaethau Cyn-Ymgeisio) (Cymru) 2016

Mae’r rhain yn rhoi’r amrywiol ddarpariaethau sydd yn Neddf Cynllunio (Cymru) 2016 (“Deddf 2016″) ar waith ac yn rhoi manylion

yn eu cylch Yn ogystal â hyn, mae nifer o welliannau wedi’u gwneud hefyd i’r gweithdrefnau rheoli datblygu sydd yng Ngorchymyn

Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 (DMPWO) gan ddefnyddio’r pwerau sydd eisoes ar gael yn Neddf

Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“Deddf 1990”) fel rhan o roi rhaglen gynllunio gadarnhaol ehangach Llywodraeth Cymru ar waith.

Rhoddir esboniad o’r prif newidiadau i’r broses rheoli datblygu isod:-

http://gov.wales/topics/planning/policy/dear-cpo-letters/new-development-management-procedures/?skip=1&lang=cy


Diwygiadau ansylweddol i Ganiatâd Cynllunio sy’n bodoli eisoes

Ar 1af o Fedi 2014, fel rhan o raglen mesurau Llywodraeth Cymru i wella’r broses gynllunio yng Nghymru, crëwyd gweithdrefn statudol ar gyfer ‘diwygiadau ansylweddol’ sydd wedi’u cymeradwyo i ganiatâd cynllunio sy’n bodoli eisoes.

Ceir dolen isod sy’n arwain at Ganllawiau Cynllunio Llywodraeth Cymru ynglŷn â chymeradwyo Diwygiadau Ansylweddol i Ganiatâd Cynllunio sy’n bodoli eisoes. Mae yna ganllaw i’r broses ar ffurf cwestiwn ac ateb:

Llywodraeth Cymru – Canllawiau Cynllunio: Cymeradwyo Diwygiadau Ansylweddol i Ganiatâd Cynllunio sy’n bodoli eisoes (Gorffennaf 2014)

Os ydych chi am gyflwyno cais ar gyfer diwygiad ansylweddol i ganiatâd cynllunio sy’n bodoli eisoes, mae’r ffurflen gais a chanllawiau’r ffurflen isod.