Mae’r cynllun newydd hwn yn rhoi cyfle i ffermwyr a thirfeddianwyr eraill i dderbyn cefnogaeth ariannol i sefydlu ac adfer ffiniau caeau traddodiadol wrth wella storio carbon mewn gwrychoedd.
Mae Partneriaeth Natur Leol (PNL) Bannau Brycheiniog yn gwahodd ffermwyr a thirfeddianwyr sy’n byw ac yn gweithio ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i helpu i adfer perthi drwy eu plygu yn yr arddull ‘draddodiadol’ gyda choesynnau wedi’u torri, pyst a rhwymynnau.
Drwy gynnal y sgiliau traddodiadol hyn a rheoli perthi’n dda, bydd y dirwedd, pobl a bioamrywiaeth y parc i gyd yn elwa.
Grant ‘Plygu Perthi Traddodiadol’ 2024/2025
Nodiadau Canllaw
Dylai ffermwyr neu dir feddianwyr gyda diddordeb lenwi’r ffurflen gais y gellir ei lawr lwytho yma.
Dyddiad cau’r rownd gyntaf o geisiadau yw 30 Medi 2024.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau cyn cyflwyno cais neu os oes angen cymorth arnoch gyda’r ffurflen, cysylltwch â ni yn hedgerowgrant@beacons-npa.gov.uk
Mae gwrychoedd yn nodwedd bwysig o dirlun Bannau Brycheiniog, ffinio caeau, dal anifeiliaid a chysgodi rhag tywydd garw.
Mae’r ffiniau traddodiadol hyn yn gynefin i fywyd gwyllt a chreu coridorau sy’n gwella’r cysylltiad yn y dirwedd. Maent yn ffynhonnell bwyd i fywyd gwyllt, storio carbon, gwella safon yr aer a helpu lleihau effaith glaw sylweddol, gan arafu llif y dŵr i’r tir.
Mae’r cynllun wedi ei ddylunio i elwa’r amgylchedd a’r rhai yn rheoli’r amgylchedd, yn ogystal â’r economi wledig estynedig trwy greu swyddi i gontractwyr lleol. Bydd y flaenoriaeth yn cael ei roi i ffermwyr yn y Parc a gwrychoedd sy’n cyfrannu at gysylltiad yn y dirwedd. Bydd ymgeiswyr grant llwyddiannus yn ymrwymo i gynnal a chadw hir dymor.