Yr Ymrwymiad #CarwchEinHafonydd

Mae afonydd Wysg a Gwy yn wynebu argyfwng. Yn wir, mae eu lefelau ffosffad ymhlith yr uchaf yng Nghymru — gan achosi llygredd dŵr o flwyddyn i flwyddyn a niwed i’r planhigion a’r bywyd gwyllt sy’n byw yno. Yma ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, rydyn ni ar genhadaeth i’w hachub — ond mae angen eich help chi arnom.

Ochr yn ochr â gwaith dwys rydyn ni’n ei wneud i ddod o hyd i atebion lefel uchel gyda ffermwyr, cwmnïau dŵr, Llywodraeth Cymru, a sefydliadau fel Cyfoeth Naturiol Cymru — mae angen i ni hefyd leihau effaith gwastraff y cartref a busnes.

Dyna lle mae eich angen chi.

Rydyn ni’n gofyn i bobl y Bannau roi eu teyrngarwch i’r afonydd — drwy addo i’w caru a gwneud rhai newidiadau bob dydd a fydd yn ein helpu yn ein cenhadaeth ehangach i wella ansawdd dŵr. Rydyn ni wedi rhestru ein hawgrymiadau o newidiadau ar gyfer y cartref a busnes mewn Rhestr Wirio yma — ond dyw hon ddim yn rhestr lawn!

Drwy arwyddo’r ymrwymiad, byddwch yn dod yn rhan o gymuned sy’n ymroddedig i warchod iechyd ein hafonydd annwyl — ar gyfer cenedlaethau heddiw ac yfory. Cofiwch — mae gan eich llais y grym i greu effaith gryfach o newid cadarnhaol. Gadewch i ni wneud sblash, sicrhau bod ein lleisiau’n cael eu clywed, a gweithio gyda’n gilydd i wneud gwahaniaeth.

Yn y cyfamser, gallwch gofrestru i ddysgu mwy am y gwaith ehangach rydyn ni’n ei wneud i ddatrys yr argyfwng llygredd afonydd yma.

Felly, diolch ymlaen llaw am ymrwymo i #CarwchEinHafonydd. Gyda’n gilydd, gallwn eu hachub.

Yr Ymrwymiad #CarwchEinHafonydd

Rydyn ni’n gofyn i bobl y Bannau roi eu teyrngarwch i’r afonydd — drwy addo eu caru a gwneud rhai newidiadau bob dydd a fydd yn ein helpu yn ein cenhadaeth i wella ansawdd dŵr. Trwy’r lofnodi’r ymrwymiad, byddwch yn dod yn rhan o gymuned sy’n ymroddedig i warchod harddwch naturiol a iechyd ein hafonydd annwyl — ar gyfer cenedlaethau heddiw ac yfory.

Trwy Bartneriaeth Dalgylch Afon Wysg, rydyn ni’n dod ag ystod o randdeiliaid at ei gilydd — o ffermwyr a chwmnïau dŵr i drigolion lleol a sefydliadau fel Cyfoeth Naturiol Cymru — mewn ymdrech ar y cyd i ddod o hyd i atebion ar gyfer argyfwng iechyd yr afonydd.