Rhestr Wirio Caru ein Afonydd

Saith ffordd gallwch chi helpu i ofalu am Afon Wysg ac Afon Gwy — o’r gwaith neu gartref.

Yn codi ar lethrau Pumlumon a’r Mynydd Du, yn y drefn honno, mae Afon Gwy ac Afon Wysg yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SDdGA) ac yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA). 

Ond mae’r ddwy afon mewn argyfwng. Yn wir, mae eu lefelau ffosffad ymhlith yr uchaf yng Nghymru — gan achosi llygredd dŵr o flwyddyn i flwyddyn a difrod i’r planhigion a’r anifeiliaid sy’n byw yno.

Yma ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, rydym ni’n benderfynol o helpu i achub yr afonydd. Drwy Bartneriaeth Dalgylch Afon Wysg, rydym yn dod ag amrywiaeth o randdeiliaid at ei gilydd, o ffermwyr a chwmnïau dŵr i sefydliadau fel Cyfoeth Naturiol Cymru, mewn ymdrech ar y cyd i ddod o hyd i ddatrysiadau i’n argyfwng iechyd afon.

Ond gyda chymaint o ffactorau cyfrannol ar waith, gan gynnwys effaith gwastraff cartrefi a busnesau, mae angen yr holl help y gallwn ei gael i newid tynged yr afonydd.

Darllenwch ymlaen i gael ein rhestr wirio o saith newid bob dydd gallwch chi eu gwneud, i helpu i ofalu am yr afonydd o’r gwaith neu gartref…

1. Peidiwch â rhoi gwastraff y gegin i lawr y draen.

Olew, plisgyn wy, braster, coffi, pasta a reis – mae’r eitemau hyn yn troelli’n ddamweiniol i lawr ein draeniau drwy’r amser, gan achosi rhwystrau a gollyngiadau di-rif… Ond a oeddech chi’n gwybod eu bod yn cyfrannu at lygredd afonydd hefyd?

Ein cyngor ni yw byddwch yn ystyriol pan fyddwch chi’n gwisgo’r Marigolds, ond yn graff hefyd… Os oes gennych chi ychydig bach o fraster, olew coginio neu fwyd brasterog dros ben i’w waredu, gallwch eu hailgylchu yn eich bin gwastraff bwyd. Fodd bynnag, dylid mynd â llawer o olew coginio i’ch canolfan ailgylchu gwastraff cartref leol. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael drwy Cyfoeth Naturiol Cymru.

2. Dewiswch gynnyrch ecogyfeillgar.

Boed yn hylif golchi llestri, tabledi peiriant golchi llestri, glanedyddion peiriant golchi dillad neu chwistrellau glanhau — mae miloedd o gemegau yn cael eu golchi i’n hafonydd bob wythnos.

O Smol i Method a SESI, mae digon o frandiau sy’n cynnig cynhyrchion heb bersawr, cadwolion a llifynnau synthetig niweidiol — a gallwch brynu SESI Refill am bris gwych o Ganolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol yn Libanus. Cofiwch — gan y byddwn yn gweithredu fel canolfan ail-lenwi, bydd angen i chi ddod â’ch cynhwysydd eich hun neu brynu un wrth gyrraedd.

Bydd dewis siampŵ, cyflyrydd a sebon corff heb sylffad hefyd yn gwneud gwahaniaeth, ond rydym ni’n gwybod pa mor ddryslyd y gall fod. Os ydych chi’n ansicr yn yr archfarchnad, mae’n werth edrych ar y labeli am wybodaeth eco-ardystiad, fel a ganlyn:

  • Certified B Corporation
  • Cradle to Cradle
  • Eco-cert
  • EU Eco Label.

3.Glanhewch eich cartref — neu eich busnes — yn gyfrifol.

Rydym ni eisoes wedi sôn am yr amrywiaeth o gynnyrch glanhau ecogyfeillgar sydd ar gael – ond gallwch chi fynd ymhellach na hynny, drwy eu hosgoi’n llwyr!

Mae cyflenwadau cartref sylfaenol fel soda, sudd lemwn, finegr neu sebon meddal i gyd yn ddewisiadau gwych yn lle cynhyrchion glanhau safonol.

Awgrymiadau eraill = mae cadachau y gellir eu hailddefnyddio bob amser yn well na chadachau untro, ac mae hen frwsh dannedd yn wych ar gyfer sgrwbio o gwmpas tapiau neu fannau eraill sy’n anodd eu cyrraedd.

4. Meddyliwch cyn fflysio.

Mae’n bosibl bod cadachau untro y gellir eu fflysio yn ymddangos yn ddefnyddiol, nes i chi sylweddoli bod llawer ohonynt yn cynnwys plastig a ddim dadelfennu.

Mae cynhyrchion eraill y dylech eu hosgoi yn cynnwys: cynhyrchion mislif a gwlân cotwm. Ond yn fyr, os nad yw’n un o’r tri P (pi-pi, pŵ-pŵ, papur) – yna ni ddylai fynd i lawr y toiled!

5. Gwagiwch eich tanc carthion yn rheolaidd.

Wrth sôn am y tri P, mae llawer o bobl mewn ardaloedd gwledig fel Bannau Brycheiniog yn defnyddio tanciau septig i waredu dŵr gwastraff yn ddiogel — ond nid yw hyn heb risgiau amgylcheddol (ac ariannol!). Os nad yw tanc septig yn cael ei lanhau’n ddigon rheolaidd, gall tocsinau peryglus gronni – gan rwystro gwastraff ac achosi gorlifiadau yn y pen draw, a gall y llygredd sy’n treiddio i mewn i’r pridd gymysgu â dŵr afonydd lleol.

Mae llawer o lanhawyr cartrefi safonol yn cronni ac yn creu gwastraff solet mewn tanciau carthion hefyd — rheswm arall i gyfyngu ar eu defnydd!

6. Byddwch yn ystyriol wrth olchi eich car.

Mae llawer o ddraeniau dŵr wyneb yn llifo’n syth i’n nentydd a’n hafonydd — gan wneud golchi car ar fore Sul yn fwy niweidiol na buddiol!

Wrth olchi eich cerbyd, mae’n well mynd ag ef oddi ar y ffordd neu ar eich dreif concrid/asffalt yn llwyr — a’i olchi ar laswellt neu raean yn lle hynny. Bydd hyn yn hidlo halogyddion o’r dŵr ac yn eu hatal rhag mynd i mewn i’n hafonydd.

Os nad yw hynny’n bosibl, beth am edrych ar opsiynau ar gyfer golchi’n ddi-ddŵr neu ymweld â chwmni golchi ceir cyfrifol yn lle hynny?

7. Defnyddio afonydd yn rheolaidd.

P’un ai a ydych chi’n ymweld â nhw wrth fynd am dro, i nofio, i ganŵio neu i gael picnic – mae’r amser rydych chi’n ei dreulio yn Afon Gwy ac Afon Wysg yn bwydo’n uniongyrchol i’w gofal.

Er enghraifft, trwy gasglu sbwriel yn ystod eich taith gerdded ar y penwythnos, ymrwymo i godi baw eich ci bob amser, a mynd â’ch sbwriel adref gyda chi, byddwch yn ein helpu i wneud gwahaniaeth i ansawdd yr afonydd.

Ond yn ail, bydd ymweliadau rheolaidd yn eich arfogi i weld pan nad yw pethau’n iawn – er enghraifft, os yw’r dŵr yn edrych yn llaethog neu’n olewog, neu os ydych chi’n gweld digwyddiad tipio anghyfreithlon. Dylid rhoi gwybod yn uniongyrchol i Cyfoeth Naturiol Cymru am y digwyddiadau hyn – mae rhagor o wybodaeth am sut mae gwneud hyn yma.

Diolch am ein helpu ni i Garu ein Afonydd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Ydych chi’n cefnogi ein cenhadaeth? Cofiwch lofnodi’r addewid ‘Caru ein Hafonydd’, yma.

Bydd camau fel hyn yn ein helpu i ehangu ein hymgyrch a chael pawb ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i helpu i achub ein hafonydd. Unwaith eto, diolch o galon am eich cefnogaeth.