Bro’r Sgydau

Mae’r ardal hon, yng nghornel dde-orllewin y Parc Cenedlaethol, yn wir yn un o ryfeddodau Cymru wyllt. Gellir dadlau mai hon yw ardal fwyaf poblogaidd ac ysblennydd y Parc Cenedlaethol. Yma, mae afonydd Mellte, Hepste, Pyrddin a Nedd-fechan yn ymdroelli eu ffordd i lawr ceunentydd dwfn, o dan garped o goed, dros gyfres o raeadrau dramatig, cyn ymuno i ffurfio Afon Nedd.

Mae Bro’r Sgydau yn lle arbennig iawn i ymweld ag ef gyda chymaint i weld a gwneud yno. Mae hon yn ardal o bwysigrwydd rhyngwladol o ran bywyd gwyllt ac mae wedi’i dynodi’n Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGa).

Mae tua 160,000 o bobl yn ymweld â’r ardal bob blwyddyn, yn cynnwys cerddwyr, grwpiau awyr agored, ffotograffwyr, dringwyr, ogofwyr a chanŵyr. Mae’r safle bregus hwn wedi dioddef o ganlyniad i’r pwysau anhygoel arno. Mae llawer o’r llwybrau a’r ardaloedd o amgylch y rhaeadrau wedi erydu’n drwm. Dros y ddwy flynedd diwethaf, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru wedi bod yn cydweithio’n agos i geisio adfer y difrod.

Bywyd Gwyllt Bro’r Sgydau

Mae’r dŵr yn creu awyrgylch llaith a gwlyb ac mae’r ochrau serth yn cysgodi’r ardal rhag yr haul a’r glaw. Mae’r amgylchedd cynnes a gwlyb yn frith o blanhigion sy’n gorchuddio pob wyneb sydd ar gael. Mae’n goedwig law Gymreig ac mae’n llawer mwy prin na’r coedwigoedd glaw trofannol mwy cyfarwydd. Dim ond dyrnaid o leoedd tebyg sydd yn y byd i gyd.

Mae Bro’r Sgydau yn lle hudol ond bregus. Mae’r mwsoglau, y rhedyn a’r planhigion eraill yn glynu at y coed a’r dail a gallent gael eu symud yn rhwydd gan gerddwyr. Gofynnir i bob ymwelydd gadw at lwybrau penodedig ac i geisio peidio â difrodi coed neu greigiau sydd wedi’u gorchuddio gan fwsoglau. Gyda’ch cymorth chi, gallwn gadw’r lle hwn yn arbennig ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Gall ymwelwyr hefyd gyfrannu at ofalu am yr ardal fendigedig hon. Y cyfraniad mwyaf y gall y rhan fwyaf ohonom ei wneud yw:

– cadw at y llwybrau

– mynd â sbwriel adref gyda ni

– peidio ag amharu ar blanhigion a bywyd gwyllt

– peidio â chyffwrdd â choed sydd wedi syrthio

– peidio â thorri coed i gynnau tân

Hanes a Daeareg

Bro’r Sgydau yn ardal o arwyddocâd hanesyddol a hefyd yn dod o fewn Geoparc y Fforest Fawr.

Mae oddeutu 130 o safleoedd hanesyddol y gwyddom amdanynt ym Mro’r Sgydau. Mae’r rhain yn amrywio o’r gaer ar ben y bryn yng Nghraig y Ddinas, adeiladau diwydiannol Gweithfeydd Powdr Gwn Glyn-nedd, a Sarn Helen – ffordd Rufeinig hynafol rhwng caerau Coelbren ac Aberhonddu – sydd ar ymylon gogledd-orllewinol Bro’r Sgydau.

Mae olion diwydiannol yr ardal yn gymharol gyfoethog

Roedd y safleoedd diwydiannol wedi’u lleoli wrth ymyl eu ffynhonnell o ddeunydd neu bŵer.

Cliciwch ar y dolenni isod i ddysgu mwy:

Mae cyfleusterau parcio car ar gael ym:
Maes Parcio Craig Dinas, Pontneddfechan. Yng Nglyn-nedd dilynwch yr arwyddion ar y B4242 am Bontneddfechan. Unwaith rydych chi yn y pentref, mae’r ffordd yn fforchio’n ddwy nesaf i dafarn Craig-y-Dinas – dilynwch y ffordd sydd o’ch blaen chi ac nid y ffordd sy’n mynd i fyny’r bryn.