Prosiect Mawndiroedd a’r Ucheldir

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi derbyn £450,000 o arian trwy gronfa ‘Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy’, Llywodraeth Cymru, cronfa i adfer cynefin mawndir i a llwybrau’r ucheldir ar draws y Parc yn 2021 – 22. Wrth wneud y gwaith hwn byddwn yn creu ucheldir mwy gwydn ac yn helpu ymladd newid hinsawdd.

Bydd y gwaith yn dechrau yn Haf 2021 ac wedi’i orffen erbyn y Gwanwyn 2022.

Cyswllt y prosiect: Richard Ball, Swyddog Prosiectau Cefn Gwlad a Mynediad (richard.ball@beacons-npa.gov.uk).

Mawndiroedd Gwydn

Mae dros 16,000 hectar o fawndir yn ymestyn dros y mynyddoedd ym Mannau Brycheiniog. Mae mawn yn storfa garbon a dŵr bwysig ond mae’n hawdd ei niweidio.

Gyda’r arian Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy bydd yr Awdurdod yn darged ac yn adfer mawndiroedd ar draws ardaloedd yr ucheldir i leihau erydiad mawn ac i ail ddyfrio mawn er mwyn iddo dal carbon yn hytrach na’i ollwng i’r atmosffer.

Mae’r gwaith adfer yn cael ei wneud ar, gan gynnwys:

  • Craig y Fan Ddu
  • Blaen Wen
  • Pen Trumau
  • Llyn y Fan Fawr
  • Y Graith Erydu Ddeheuol, Cefnen Hatterall, yn y Mynyddoedd Duon

Llwybrau Gwydn yr Ucheldir

Datblygodd y rhan fwyaf o lwybrau’r ucheldir ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog o ganlyniad i ddefnydd hamdden. Mae llawer o’r llwybrau hyn wedi’u herydu’n ddrwg yn enwedig y rhai ar lethrau serth neu sy’n croesi’r mawndiroedd neu briddoedd eraill sy’n dal dŵr. Mae erydu’r llwybrau sy’n croesi’n hucheldiroedd yn gallu difrodi cynefinoedd a’r mawndir maen nhw’n eu croesi. Yn ystod y prosiect hwn, bydd gwaith adfer mawn yn cael ei wneud yr un pryd â thrwsio llwybrau’r ucheldir er mwyn lleihau erydu. Bydd hynny’n iachau’r mawndiroedd, yn rhwystro rhagor o allyriadau carbon o’r mawn sydd wedi’i erydu ac sy’n gollwng dŵr, yn gwarchod arteffactau amgylcheddol hanesyddol ac yn gwneud ein tir yn fwy ecolegol wydn yn wyneb newid hinsawdd.

Mae llwybrau’n cael eu trwsio mewn mannau, gan gynnwys:

  • Pen Cerrig Calch
  • Craig y Fan Ddu
  • Rhos Dirion

Mae llwybrau eisoes wedi’u trwsio mewn sawl man yn y Parc Cenedlaethol. Daw canlyniadau positif darparu llwybrau cynaliadwy mewn ardaloedd o fawn neu ar lethrau serth yn amlwg yn gymharol gyflym, er enghraifft yn Waun Fach yn y Mynyddoedd Duon.

Contractwyr profiadol, medrus sy’n gwneud y gwaith ar y llwybrau gan gadw at fanylebion gwaith sy’n sicrhau fod y gwaith gwella ar lwybrau yn cydweddu cymaint â phosibl.

Cerrig lleol, ble bynnag y mae’ bosibl, sy’n cael eu defnyddio ac eir i gryn drafferth i wneud yn siŵr fod aliniad y llwybr yn cyd-fynd â’r tirwedd, ac yn aflonyddu cyn lleied â phosibl ar y fflora a’r ffawna,  Mae’r gwaith hefyd yn cael ei wneud y tu allan i’r tymor nythu a deunyddiau’n cael eu cludo trwy’r awyr rhag difrodi’r ddaear os bydd angen.

Mawndiroedd yw storfa garbon fwyaf y DU

Mae mawndiroedd iach yn storio mwy o garbon nag y maen nhw’n ei ryddhau, yn eu gwneud yn storfeydd carbon pwysig. Oherwydd bod gorgorsydd yn asidig ac yn llawn dŵr, mae planhigion yn pydru’n araf iawn. O ganlyniad mae mawn yn ffurfio’n araf ond yn gyson, sy’n cloi’r carbon. Ar fawndiroedd iach, heb eu haflonyddu, mae dyfnder y mawn yn cynyddu ar raddfa o 1mm y flwyddyn.

Mae mawndiroedd yn ffynonellau hanfodol o ddŵr yfed

Yng ngorgorsydd a chyforgorsydd yr ucheldir y mae nentydd ac afonydd yn tarddu ac mae hynny’n wir hefyd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.  Dyma ble mae Dŵr Cymru’n cael o leiaf hanner ei gyflenwad o ddŵr yfed bob dydd.  Mae corsydd mewn cyflwr gwael yn rhyddhau carbon a chyfansoddion eraill a llaid mawn yn y dŵr, sy’n effeithio ar ansawdd y dŵr yng nghronfeydd ddŵr yfed y Parc.  Mae adfer corsydd yn raddol yn cyfrannu at ansawdd y dŵr ac yn lleihau costau ei drin.  Mae gallu storio dŵr mewn corsydd yn yr ucheldir hefyd yn hanfodol i allu cynhyrchu dŵr trydan ar raddfa fechan.

Mae gorgorsydd mewn cyflwr gwael yn rhyddhau mwy o garbon nag y maen nhw’n ei gadw

Heb orchudd o blanhigion, nid yw corsydd yn gallu dal na storio cymaint o garbon. Mae mawn yn cael ei ddinoethi i’r aer a’r elfennau, sy’n ei erydu ac yn ei bydru ac mae’n diflannu o’r rhostiroedd. Mae hynny’n gallu digwydd ar raddfa o hyd at fetr o ddyfnder mawn y flwyddyn mewn rhai rhannau o’r DU. Mae symiau enfawr o garbon a oedd, o’r blaen, yn cael eu storio yn y mawn, yn cael eu rhyddhau i’r atmosffer a’r afonydd. Dyna pam mae mawndiroedd wedi’u difrodi’n cyfrannu cymaint at allyriadau nwyon tŷ gwydr a dyma un o’r rhesymau pam ei bod mor bwysig eu gwarchod a’u hadfer.  Maen nhw hefyd yn gartref i rywogaethau bywyd gwyllt prin a bregus.

Wrth warchod ac ail dyfu gorchudd o blanhigion ar orgorsydd wedi’u difrodi, rydym yn anelu at:

  • atal mawn rhag erydu o’r rhostiroedd
  • colli llai o garbon
  • amsugno mwy o garbon
  • troi’r ffynonellau carbon sydd wedi’u difrodi’n ôl fod yn storfeydd carbon
  • gwella ansawdd dŵr
  • cadw a gwella bywyd gwyllt arbennig corsydd mawn
  • Iachau’r tirwedd a gwella profiadau ymwelwyr.

Mae ein gwaith yn gallu arwain at gadw mwy o garbon, gan helpu i ymladd newid hinsawdd ac adfer natur

Mae ail dyfu gorchudd o blanhigion ar fawndiroedd yn ein galluogi i leihau erydu, gwella ansawdd y tirwedd a thrawsnewid ffynhonnell o garbon yn storfa.

Trwy gyfrifo faint o garbon sy’n cael ei gadw a faint sy’n cael ei golli, rydym yn gallu asesu effaith ymarferion rheoli tir yn nhermau rheoli carbon.

Yn ogystal, mae rhostir yn y cyflwr ecolegol gorau’n ardaloedd gwell ar gyfer bywyd gwyllt ac yn gallu gwrthsefyll yn well y sioc a straen o newid hinsawdd, sy’n arwain at fanteision pellach i’r cymunedau a’r aneddleoedd i lawr yr allt ac i lawr yr afon a’r gwynt.

Sut ydym ni’n atal erydu

Cafodd y gorgorsydd yn yr ardal hon eu difrodi’n ddrwg gan 200 mlynedd o lygredd yn yr atmosffer, yn ogystal â chan lu o ffactorau eraill gan gynnwys llosgi heb ei reoli a llosgi bwriadol, pwysau pori trwm hanesyddol a phwysau sathru gan ymwelwyr. Mae hynny wedi arwain at golled ddifrifol o rai mathau pwysig o lystyfiant ar y bryniau ac o ganlyniad mae wedi gadael y mawn yn noeth ac yn agored i’r elfennau ac yn erydu.

Rydym yn adfer mawn noeth mewn tri cham:

Ein cam cyntaf yw sefydlogi’r mawn noeth rhag colli rhagor ohono

Mewn tywydd oer mae’r rhostiroedd uwch yn dioddef cylchoedd dyddiol parhaus o rewi a dadmer. Mewn tywydd poeth, sych mae’r mawn yn sychu. Felly, mae’r tywydd oer a phoeth fel ei gilydd yn rhyddhau’r haenau wyneb y mawn a’r mawn yn cael ei chwythu gan y gwynt a’i olchi i ffwrdd gan y glaw.

Ein hail gam yw sefydlogi’r mawn noeth er mwyn i blanhigion dyfu

Unwaith y bydd planhigion wedi sefydlu, mae’u gwreiddiau’n dal y mawn at ei gilydd, gan atal colli rhagor o fawn.

Ar ardaloedd gwastad a llethrau ysgafn, byddwn yn gorchuddio’r mawn gyda ‘thocion’ grug

Mae hynny’n amddiffyn y mawn rhag erydu ac yn creu nid yn unig amodau sefydlog i hadau egino ond hefyd ficrohinsawdd sy’n helpu i warchod planhigion ifanc mewn tywydd garw. Mae’r tocion yn cynnwys hadau grug yn ogystal â darnau mân o fwsogl a sborau. Wrth i’r planhigion newydd dyfu, mae rhwydweithiau o wreiddiau’n cael eu ffurfio sy’n helpu i gadw’r mawn yn ei le.

Weithiau byddwn yn ail ffurfio’r tir ar dirwedd sydd wedi’i erydu ac â rhigolau dwfn

Ar rai ffurfiau o dir, mae erydu wedi creu rhigolau sydd ag ochrau rhy serth i’r tocion grug aros yn eu lle. Un ffordd o daclo hyn yw creu proffilio newydd i’r proffil.<0} Ble mae’n bosibl mynd at y rhigol gyda pheiriant, bydd ochr y llethrau serth yn cael eu gwastadu i onglau llai o 30 neu 45°.

Mae’r llystyfiant sy’n cael ei godi wrth ail broffilio, ac oedd mewn perygl o gael ei golli i erydiad, yn cael ei ail blannu ar y llethrau newydd er mwyn helpu eu sefydlogi. Mewn lleoedd eraill rydym yn defnyddio defnydd (geo-decsiliau) tirlunio y mae dŵr yn gallu treiddio trwyddo, mae hadau a phlanhigion yn gallu tyfu trwyddo ac mae’n gwbl bioddiraddadwy. Mae’n aros yn ei le am tua thair blynedd; mae hynny’n ddigon hir i’r hadau sefydlu a chymryd dros y rôl o sefydlogi’r mawn.

Gweithio gyda dŵr

Ail wlychu – adfer cynefin i gael cors fawn wlypach, fwy corsiog

Y broblem

Mae gorgors mewn cyflwr da yn wirioneddol wlyb gyda’r tabl dŵr (tir wedi’i lenwi â dŵr yn barhaus) o fewn 10cm o’r wyneb. Canlyniad mawn yn erydu yw fod llawer o ardaloedd o fawndir ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi draenio sy’n eu gwneud yn llawer sychach. Mae’n gwaith cadwraeth yn anelu at atal sychu’r rhostiroedd ac ail wlychu’r corsydd, a fydd o fantais i’r cyflenwad dŵr ac i fioamrywiaeth.

Ar draws y Parc Cenedlaethol mae yna lawer o orgorsydd mewn cyflwr gwael ac sy’n erydu’n gyflym. Mae hynny’n gadael y mawn yn noeth ac yn agored i erydiad. Dros amser, mae rhigolau erydu wedi ffurfio, rhai mor ddwfn erbyn hyn nes cyrraedd y creigwely. Maen nhw’n gallu bod cymaint â 4 metr o ddyfnder, yn draenio’r mawn ac yn ei sychu.  Mewn mannau eraill, mae gorgorsydd wedi’u draenio a’u sychu oherwydd y polisi hanesyddol o dorri ‘ffosydd bychan bas’ ynddynt h.y. grid o ddraeniau dwfn, syth.

Beth rydym ni’n ei wneud i helpu

Mae cau’r rhigolau a’r ffosydd bychan bas trwy osod argaeau yn gwrthdroi’n effeithiau hyn trwy gadw’r dŵr a’r gwaddodion, sy’n arafu llif y dŵr ac yn cadw mwy ohono yn y mawn.  Mae hyn yn codi’r tabl dŵr gan arwain at yr amodau sydd eu hangen i gorsydd ddatblygu eto.

Mae yna ddau brif gategori o argae:

  • Treiddadwy – defnyddiau megis tocion grug, coed neu garreg. Mae’r rhain yn arafu llif y dŵr ac yn dal y gwaddod a fydd yn casglu gyda phlanhigion yn tyfu ynddo.
  • Anhreiddiadwy – defnyddio mawn neu blastig. Mae’r rhain wedi’u dylunio i ddal y dŵr, creu pyllau a chodi’r tabl dŵr.

Mae’r math o argae y byddwn yn ei ddefnyddio’n dibynnu ar y lleoliad, beth sydd ar gael, beth sy’n ymarferol a beth ydym ni eisiau ei gyflawni.

Mwsoglau Sphagnum

Mae gorgors weithgar yn cynnwys cymuned arbennig o blanhigion

Y mwyaf hanfodol o’r planhigion hyn yw’r mwsoglau Sphagnum – planhigion sylfaenol i sefydlu mawn. Heb y mwsoglau hyn, ni fyddai gorgors yn gallu ei chynnal ei hunan, felly mae’n hanfodol fod mwsoglau Sphagnum yn cael eu hannog ble maen nhw’n dal i fodoli yn ac yn cael eu hail gyflwyno ble maen nhw wedi diflannu.

Mewn rhai rhannau o’r Parc Cenedlaethol mae’r rhywogaethau Sphangnum wedi’u colli oherwydd llygredd diwydiannol hanesyddol, llosgi, pwysau pori trwm, sathru dan draed neu gyfuniad o bob un o’r rhain. Mewn llawer o leoedd, mae Sphagnum o unrhyw fath yn absennol neu’n brin ac mae safleoedd sydd newydd eu adfer a’u sefydlu yn aml yn rhy bell o gorgorsydd iach i Sphagnum allai eu hadfer yn naturiol.

I adfer y cydbwysedd, mae’n rhaid i ni ganfod ffynonellau o rywogaethau Sphagnum addas i’w cyflwyno ar y safleoedd sydd wedi’u hadfer. I wneud hynny, rydym yn defnyddio mwsogl Sphagnum ar ffurf planhigion plwg sydd naill ai wedi’u tyfu neu’u cynaeafu o safleoedd coedwigoedd masnachol lleol, ac yn eu plannu â llaw.

Mae gan orgors iach amrywiaeth eang o blanhigion. Os nad oes ffynonellau lleol o hadau, yn ogystal â Sphagnum a grug, ger safle sydd i’w hadfer, gallwn blannu planhigion rhostir brodorol gyda gwreiddiau sy’n lledaenu er mwyn helpu i sefydlogi’r mawn, cynyddu bioamrywiaeth y rhostiroedd a darparu cynefin pwysig a bwyd ar gyfer amrywiaeth eang o fywyd gwyllt.

Ymgynghori

Cyn dechrau ar adfer unrhyw un o’n mawndiroedd ac ar waith ar lwybrau’r ucheldir, byddwn yn ymgynghori â Chyfoeth Naturiol Cymru, os bydd y gwaith ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, gyda’r tirfeddiannwr perthnasol a’r cymdeithasau tir comin perthnasol oherwydd mae pob un o orgorsydd a chyforgorsydd y Parc ar dir comin wedi’i gofrestru. Rydym yn cynghori’r Fforwm Mynediad Lleol oherwydd mae pob un o’r safleoedd hyn hefyd ar dir mynediad.

Gwyddoniaeth a dealltwriaeth

Rydym yn adeiladu corff o ddealltwriaeth wyddonol sy’n tyfu wrth i fwy o brifysgolion ac ymchwilwyr gynnal ymchwil pwysig ynghylch effeithiau mawndiroedd mewn cyflwr gwael a’r manteision o adfer cynefinoedd.

Trwy arolygon, rydym hefyd yn dod i ddeall yn well  ystod a chyflwr ecolegol mawndiroedd y Parc.

Cydnabyddiaeth:
Daeth llawer o’r wybodaeth o ‘Moors for the Future’.