Ein Partneriaid

Ein Partneriaid Cenedlaethol

Mae’r 15 Parc Cenedlaethol sydd yn y DU yn gweithio gyda phartneriaid cenedlaethol drwy Bartneriaethau Parciau Cenedlaethol (yn agor mewn ffenestr newydd). Mae ein partneriaid yn darparu cefnogaeth hanfodol i deulu’r Parciau Cenedlaethol ac yn ein helpu i gynyddu dealltwriaeth, mwynhad a gwerth ein tirweddau arbennig.

BMW UK

Mae Parciau Cenedlaethol y DU yn cydweithio â BMW UK ar y prosiect ‘Recharge In Nature. Nod y bartneriaeth yw gwella’r rhwydwaith gwefru cerbydau trydan ar draws y 15 Parc Cenedlaethol ynghyd â chyllido prosiectau dylanwadol sy’n cael eu harwain yn lleol mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys bioamrywiaeth; adfer byd natur; cynaliadwyedd a lles.

Rhagor o wybodaeth am ein partneriaeth â BMW UK (yn agor mewn ffenestr newydd)

SANTANDER UK

Mae Santander UK yn un o Bartneriaid Sefydlu’r strategaeth ‘Net Zero With Nature’, sy’n diffinio’r rôl y gall Parciau Cenedlaethol y DU ei chwarae yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd a’r argyfwng bioamrywiaeth.

Rhagor o wybodaeth am ein partneriaeth â Santander UK (yn agor mewn ffenestr newydd)

THE ESTÉE LAUDER COMPANIES UK & IRELAND

Mae Estée Lauder Companies UK & Ireland (ELC) yn Bartner Sefydlu’r bartneriaeth ‘Revere’, sy’n cefnogi arloesedd o ran datrysiadau sy’n seiliedig ar fyd natur ar draws Parciau Cenedlaethol y DU.

Rhagor o wybodaeth am ein partneriaeth â The Estée Lauder Companies UK & Ireland (yn agor mewn ffenestr newydd)

FOREST HOLIDAYS

Mae Forest Holidays a Pharciau Cenedlaethol y DU yn cydweithio ar y rhaglen ‘National Park Futures’, sy’n ceisio cysylltu dros 20,000 o bobl ifanc â byd natur.

Rhagor o wybodaeth am ein partneriaeth â Forest Holidays (yn agor mewn ffenestr newydd)

SYKES HOLIDAY COTTAGES

Mae Sykes Holiday Cottages yn cefnogi ein rhaglen Amddiffynwyr Parciau Cenedlaethol, sy’n darparu amrywiaeth o brosiectau cadwraeth ar draws y Parciau.

Rhagor o wybodaeth am ein partneriaeth â Sykes Holiday Cottages (yn agor mewn ffenestr newydd) a sut gall archebu gwyliau helpu i gefnogi ein gwaith hanfodol.

SPOTTY OTTER

Mae Spotty Otter yn cyfrannu 15% o holl elw eu hesgidiau a’u dillad Forest Ranger a Forest Leader i’r Gronfa Teithio ar gyfer Addysg sydd gan Barciau Cenedlaethol y DU.  Felly, bob tro rydych chi’n prynu eu cynnyrch, rydych chi’n galluogi person ifanc i ymweld â’n Parciau Cenedlaethol!

Rhagor o wybodaeth am ein partneriaeth â Spotty Otter (yn agor mewn ffenestr newydd)