Fenter Ieuenctid

Rydym wrth ein bodd eich gwahodd i gymryd rhan mewn dwy fenter ieuenctid. Ein cynllun wardeiniaid ifanc a phwyllgor ieuenctid sydd wedi eu hanelu at bobl ifanc 15-18 oed.

Wardeiniaid Ifanc

Mae Cynllun Wardeiniaid Ifanc Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn rhaglen newydd, gyffrous ac anturus ar gyfer pobl ifanc 15-18 oed. Bydd y cynllun yn cychwyn ym mis Medi ac yn rhedeg trwy’r flwyddyn addysgol i fis Gorffennaf. Bydd dyddiau Wardeiniaid Ifanc yn digwydd unwaith y mis ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol mewn lleoliadau amrywiol ar draws Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Fel Warden Ifanc gallwch fod yn:

  • Cynnal arolwg bywyd gwyllt
  • Plannu coed
  • Atgyweirio llwybrau
  • Cymryd rhan mewn gweithgareddau hwylParticipating in fun events
  • Bod yn rhan o raglen gyfnewid Warden Ifanc parciau cenedlaethol eraill
  • A llawer mwy

Trwy ymuno  a’r Cynllun Wardeniaid Ifanc, byddwch yn:

  • Gwneud ffrindiau newydd
  • Datblygu a dysgu sgiliau newydd
  • Darganfod llawer o fywyd gwyllt
  • Dysgu am Wasanaeth Wardeniaid y Parc Cenedlaethol a gwaith y Warden
  • Adeiladu hyder
  • Ychwanegu rhywbeth at eich CV
  • Gweithio tuag at ennill Gwobr John Muir 
  • Cael llawer o hwyl yn yr awyr agored
  • Byddwn yn darparu lluniaeth blasus fel teisennau…!

Pwyllgor Ieuenctid

Rydym yn chwilio am bobl ifanc 15-18 oed ymroddedig ac angerddol er mwyn mwyn dweud wrthym  sut dylai’r Parc Cenedlaethol gael ei rhedeg nawr ac yn y dyfodol.

Byddwch yn ffurfio rhan o’n Pwyllgor Ieuenctid newydd a fydd yn trafod ac yn dylanwadu ar sut fydd dyfodol y Parc Cenedlaethol yn edrych. Fel rhan o’r Pwyllgor, byddwch yn cwrdd unwaith y mis i drafod amrywiaeth o faterion fel newid hinsawdd, cyfleoedd i bobl ifanc, cyflogaeth leol a llawer mwy. Bydd yn cael ei arwain gennych chi ar eich cyfer chi.

Os ydych yn ymuno gyda Phwyllgor Ieuenctid Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gallech…

• Fod yn rhan o weithgareddau’r Parc Cenedlaethol

• Ddatblygu a dysgu sgiliau newydd

• Adeiladu hyder

• Herio eich hun

• Cyfarfod llawer o bobl debyg i chi

• Dysgu mwy am fywyd gwyllt anhygoel Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ei chymunedau a’r tirlun

• Cyd gynllunio cyfleoedd gyda phobl ifanc ar gyfer pobl ifanc yn y parc Cenedlaethol

• Ennill profiad gwerthfawr i’w roi ar CV

I wybod mwy am y ddau gynllun, cysylltwch gyda educationemail@beacons-npa.gov.uk