Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gwahodd y cyhoedd i ymuno â’i Ddiwrnod Treftadaeth, ddydd Sadwrn Hydref 14. Bydd y Diwrnod Treftadaeth yn dathlu’r gwaith a wnaed gan Awdurdod y Parc a’i bartneriaid i hyrwyddo rheolaeth a gwarchodaeth yr Amgylchedd Hanesyddol er budd y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol. Mae’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn yn dechrau gyda chipolwg ar weledigaeth Bannau Brycheiniog ar gyfer y dyfodol, lansiad y Cynllun Gweithredu Amgylchedd Hanesyddol, ac archwilio Cynllun Ymaddasu’r Sector Newid yn yr Hinsawdd. Cyflwynir hanes naturiol yr Afon Wysg, gan gynnig persbectif unigryw ar y gorffennol a’r presennol.
Mae sesiynau’r prynhawn yn cynnwys cipolwg ar bori cadwraethol a rheoli treftadaeth yng Ngarn Goch, gyda chyflwyniad i ddilyn ar Brosiect Penpont. Bydd sesiynau briffio cyflym yn rhoi darlun cryno i brosiectau amrywiol, gan gynnwys y Prosiect Tramffyrdd, Troseddau Treftadaeth, Nodweddu Ffermydd, a’r Prosiect Mawndiroedd. Ar ddiwedd y digwyddiad, gwahoddir cyfranogwyr i ymuno â Thaith Gerdded Stori Aberhonddu, cyfle perffaith i flasu treftadaeth gyfoethog y dref.
Dywedodd Alice Thorne, Swyddog Treftadaeth y Parc, “Mae’r Diwrnod Treftadaeth hwn yn gyfle unigryw i’n cymuned ddod at ei gilydd ac archwilio tapestri cyfoethog amgylchedd hanesyddol Bannau Brycheiniog, a’r gwaith a wneir i warchod, rheoli a dathlu ein mannau arbennig.”
Mae Diwrnod Treftadaeth Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn argoeli i fod yn brofiad cyfoethog, gan feithrin cysylltiad dyfnach â thrysorau diwylliannol a naturiol y parc. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Neuadd y Dref Aberhonddu ac yn dechrau am 9:30. I sicrhau lle yn y digwyddiad na ddylid ei golli, cofrestrwch nawr ar
www.bannau.wales/historic-environment-action-plan/
DIWEDD