Fe wnaeth disgyblion o Ysgol Iau Mount Street yn Aberhonddu nodi Diwrnod Afonydd y Byd yr wythnos ddiwethaf (24 Medi) gydag addewid i garu a gofalu am afonydd Wysg a Gwy — sy’n wynebu argyfwng ansawdd dŵr.
Mae’r addewid dan arweiniad Clwb Eco yr ysgol, sydd wedi ymuno â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog — mewn cenhadaeth i ysbrydoli pobl leol i garu’r afonydd, a helpu i ofalu amdanyn nhw o’r gwaith neu gartref.
Ond, gyda 67% o afon Gwy a 88% o afon Wysg yn methu â chyrraedd targedau ffosffad yn 2022, dim ond un cam bach yw lleihau effaith gwastraff y cartref a busnes tuag at fynd i’r afael â’r argyfwng afonydd.
Yn wir, mae’r Parc Cenedlaethol hefyd yn cynnal gwaith dwys i fynd i’r afael â ffactorau eraill, mwy o faint, sy’n cyfrannu at y broblem — gan weithio’n agos â ffermwyr, cwmnïau dŵr, Llywodraeth Cymru, a sefydliadau fel Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae’r gwaith lefel uchel hwn yn cael ei gyflawni ar draws gwahanol weithgorau rhanbarthol fel Partneriaeth Dalgylch Afon Wysg — y gall y cyhoedd gymryd rhan ynddi a chofrestru i dderbyn diweddariadau yma.
Dywedodd Paul Sinnadurai, ecolegydd gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Yma yn y Parc Cenedlaethol, rydyn ni’n cydnabod pwysigrwydd gweithredu ar y cyd wrth warchod harddwch naturiol a iechyd afonydd Wysg a Gwy. Dyna pam ei bod mor bwysig i ni lunio atebion lefel uchel gyda chwmnïau dŵr a ffermwyr, gan annog y gymuned leol ar yr un pryd i ymuno â’r achos ar lawr gwlad.
“Gwyddom gymaint mae pobl y Bannau yn gofalu am yr afonydd, felly mae’n wych ymhelaethu ar hyn — a rhannu’r pethau bychain y gellir eu gwneud i gefnogi ein cenhadaeth, o’r gwaith neu gartref. Er enghraifft, fel defnyddio cynhyrchion glanhau ecogyfeillgar a pheidio â golchi gwastraff cegin i lawr y draen.”
Mae’r gwaith hwn ar lawr gwlad yn cael ei gyflawni fel rhan o ymgyrch ‘Carwch Ein Hafonydd’ — sydd wedi’i gynllunio i roi arweiniad ar ffyrdd y gall pawb ddangos eu cariad a’u cefnogaeth i’r afonydd.
Fel rhan o’r ymgyrch, mae’r cyhoedd yn cael eu hannog i ddangos eu cariad tuag at yr afonydd trwy ymrwymiad ar-lein, sydd ar gael yma. Drwy arwyddo’r ymrwymiad, bydd trigolion yn gwneud ymrwymiad personol i helpu i wella iechyd yr afonydd hyn o’r gwaith neu gartref — gan ddangos cefnogaeth i’r gweithgaredd lefel uwch sydd ei angen i leihau llygredd, er lles cenedlaethau heddiw ac yfory.
Dechreuodd disgyblion o Gwb Eco Ysgol Iau Mount Street yr ymgyrch llawr gwlad trwy ddylunio amrywiaeth o bosteri a thaflenni — a fydd yn cael eu harddangos yn yr ysgol, eu dosbarthu i rieni, a’u hyrwyddo drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol y Parc dros y mis nesaf.
Dywedodd Nicola Mattews, Cydlynydd Eco Mount Street: “Rydyn ni wrth ein bodd o fod yn rhan o’r ymgyrch hon gyda Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog — yn anad dim oherwydd yma yn Mount Street, mae ein disgyblion yn angerddol am ofalu am yr amgylchedd. Dyna pam mae ganddon ni Glwb Eco pwrpasol! Mae’r Clwb yn trafod pob math o bynciau amgylcheddol yn rheolaidd — ond mae wedi bod yn ddiddorol iawn iddyn nhw ddysgu am y ffyrdd y mae’r Parc yn mynd i’r afael â’r argyfwng afonydd.
“Bydd meithrin cariad a chyfrifoldeb dwfn am y llefydd arbennig a chyfarwydd hyn o fudd i afonydd ac ecosystemau Cymru am genedlaethau i ddod. Rydyn ni’n edrych ymlaen at helpu i godi ymwybyddiaeth.”
Am fwy o wybodaeth am ein hymgyrch #CarwchEinHafonydd ac i lofnodi’r ymrwymiad ar-lein, ewch i wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.