Mynegwch Eich Barn Ynghylch Dyfodol Crughywel

Nôl ym mis Mehefin eleni, cychwynnodd Cyngor Tref Crughywel, mewn partneriaeth â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, y broses o ddatblygu Cynllun Lle ac erbyn hyn mae’n galw ar drigolion yr ardal, busnesau lleol a grwpiau cymunedol i fynegi eu barn ynghylch eu profiadau hwythau o’r dref. Bydd yr ymgynghoriad yn caniatáu trigolion i gyfrannu syniadau a fydd yn rhoddi’r gallu i atebion ystyrlon gael eu datblygu i rai o’r heriau y bydd tref fach fel Crughywel yn eu hwynebu wrth i ni symud tuag at ganol yr unfed ganrif ar hugain.

Meddai Cadeirydd Cyngor Tref Crughywel, y Cynghorydd Paul Evans, wrth iddo lansio cyfres o ddigwyddiadau ymgynghorol,

“Uchelgais Cyngor y Dref yw bod y Cynllun Lle’n adlewyrchu dyheadau byrdymor Crughywel wrth edrych hefyd 15 mlynedd i mewn i’n dyfodol, gan ddarparu canllaw manwl a chynhwysfawr a fydd yn ein galluogi ni, gyda’n gilydd, i gynyddu ffyniant a llesiant ein tref. Unwaith y byddwn wedi derbyn sylwadau pawb byddwn yn symud ymlaen at y cam nesaf ac yn dechrau cydosod ein blaenoriaethau a’r hyn fyddwn yn canolbwyntio arnynt ac yn datblygu syniadau. Byddwn yn trefnu digwyddiad ymgynghorol arall ym mis Ionawr 2024 lle byddwn yn cyflwyno’r cynigion hyn a awgrymwyd a bydd cyfle i chi eu hystyried ac ychwanegu atynt. Rwy’n croesawi holl drigolion yr ardal, busnesau a grwpiau lleol i gymryd rhan.”

Dros yr wythnosau nesaf, mae sawl ffordd y gall drigolion lleol, busnesau a sefydliadau fynegi eu barn:

  • Galwch draw i Neuadd Clarenece rhwng 10am a 5pm ar ddydd Gwener y 29ain neu ddydd Sadwrn y 30ain o Fedi lle gallwch siarad ymhellach am yr heriau a’r cyfleodd o fewn y dref gyda thîm y Cynllun Lle.
  • Ewch i weld arddangosfa’r Cynllun Lle rhwng yr 2il a’r 14eg o Hydref yng Nghanolfan Wybodaeth ac Adnoddau Crughywel.
  • Ewch at ein gwefan am ragor o wybodaeth www.crickhowellplaceplan.org
  • E-bostiwch eich sylwadau at chris@chrisjones.studio.

Bydd y rhan hon o’r ymgynghoriad yn cau ar ddydd Sul y 15fed o Hydref.

Wrth wneud sylwadau ar y bartneriaeth gyda Chyngor Tref Crughywel ar ddatblygu Cynllun Lle, dywedodd Helen Lucocq, Rheolwr Strategaeth a Pholisi yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, “Rydym yn angerddol am ein perwyl i gyd-greu a chyflwyno Cynlluniau Lle cyfannol gyda chymunedau’r Parc Cenedlaethol. Mae Cynllun Lle yn ffordd wirioneddol gydweithredol o ddod â chymunedau lleol a sefydliadau statudol at ei gilydd ac rydym wir eisiau i bobl fyengi eu barn ar ddyfodol Crughywel.”

Mae Cynllun Lle yn fenter gyffrous i Grughywel. Serch hynny, er mwyn iddo allu bod yn llwyddiant, fel y rhagwelwn y gall fod, mae angen i’r gymuned leol, busnesau a sefydliadau’r dref gymryd rhan. Os ydych yn diddori ac os hoffech wybod y diweddaraf parthed y prosiect, o ran dyddiadau allweddol a’r newyddion diweddaraf, ymunwch â’n rhestr bost drwy gysylltu â chris@chrisjones.studio 

DIWEDD