Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cefnogi Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wrth alw ar y Llywodraeth

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cefnogi Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wrth alw ar y Llywodraeth i sefydlu mesurau cliriach i amddiffyn cymunedau gwledig a’r cyhoedd yn wyneb pandemig COVID-19

Fel Parc Cenedlaethol Eryri, y penwythnos diwethaf hwn mae rhannau o Fannau Brycheiniog wedi profi un o’r penwythnosau ymwelwyr prysuraf erioed o fewn cof diweddar ac mae’n amlwg bod rhai pobl wedi teithio’n bell i fod allan yn y Parc Cenedlaethol. Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol bellach yn galw ar y llywodraeth i sefydlu canllawiau cliriach ar deithio hanfodol a phellhau’n gymdeithasol mewn mannau agored ac yng nghefn gwlad, ac i gyflwyno mesurau er mwyn sicrhau bod lledaeniad y firws yn cael ei arafu. Yn seiliedig ar brofiadau’r penwythnos hwn, rydym yn ofni nad yw’r canllawiau cyfredol yn ddigon clir i bobl amddiffyn eu hunain ac eraill.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Ratcliffe, Cadeirydd, a Julian Atkins, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:

“Nos Wener cyhoeddodd y prif weinidog gyfyngiadau newydd gyda’r nod o arafu lledaeniad y firws. Roedd hyn yn cynnwys gorchymyn bod pob tafarn, caffi a gwesty yn cau. Dros y penwythnos yn dilyn y cyhoeddiad hwn rydym wedi gweld nifer fawr iawn o ymwelwyr ymhob un o’n lleoliadau poblogaidd ledled y Parc Cenedlaethol ac mae’n amlwg bod rhai ymwelwyr wedi teithio’n bell i gyrraedd yma. Fel Eryri, mae rhai ardaloedd wedi eu gorlethu ag ymwelwyr a’r hyn sy’n achosi pryder yw nad yw pobl yn cadw at y canllawiau ar bellhau cymdeithasol.

Rydym yn cefnogi Eryri ac yn galw ar Brif Weinidog Prydain a Phrif Weinidog Cymru i ddarparu mesurau cryfach ar deithio diangen a phellhau cymdeithasol, er mwyn sicrhau nad ydym yn gweld y golygfeydd ledled Eryri a Bannau Brycheiniog y penwythnos diwethaf hwn yn cael eu hailadrodd. Mae angen arweiniad penodol ar yr hyn y mae “teithio angenrheidiol” yn ei olygu mewn gwirionedd. Rydym hefyd yn galw ar bob ymwelydd a pherchennog cartref gwyliau i wrando ar gyngor y llywodraeth ac osgoi teithio heblaw teithio hanfodol, ac i aros gartref er mwyn cadw’n ddiogel. 

Mae’r mewnlifiad mawr o ymwelwyr i Fannau Brycheiniog wedi achosi pryder sylweddol yn lleol, gyda phobl yn poeni am bwysau cynyddol ar eu cymunedau ar adeg pan mae’r GIG, gwasanaethau achub, a chyflenwadau bwyd eisoes dan bwysau oherwydd y pandemig. Rydym yn gwerthfawrogi pwysigrwydd twristiaeth i’n heconomi leol ond mae’n amlwg bod angen arweiniad pellach i arafu lledaeniad y firws a chadw ein cymunedau a’r cyhoedd yn ddiogel.

Bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn canolbwyntio ei holl ymdrech, egni ac adnoddau yn y dyddiau a’r wythnosau nesaf ar edrych ar ôl y cymunedau a’r busnesau yn y Parc Cenedlaethol a’r cyffiniau. Edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr yn ôl i’r rhan hyfryd hon o Gymru unwaith y bydd y sefyllfa wedi gwella.”

DIWEDD