Dyfarniadau Diweddaraf o’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy

Cafodd deg o brosiectau newydd, cyffrous, grantiau gan y Gronfa Datblygu Cynaliadwy pan gyfarfu’r Pwyllgor ar 26 Ionawr.  Mae’r Gronfa’n cael ei rheoli gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac yn cefnogi prosiectau sy’n helpu i wella ansawdd bywyd – amddiffyn a gwella’r amgylchedd leol, cefnogi cymunedau a helpu pobl i fyw bywydau iach a chyflawn.

Os bydd y prosiectau hyn yn gwneud i chi feddwl, y terfyn amser ar gyfer y ceisiadau nesaf yw dydd Mercher 30 Mawrth – fe fyddwn ni wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych!  Gallwch ganfod rhagor am y Gronfa ar ein gwefan – Sustainable Development Fund | Bannau Brycheiniog National Park Authority (beacons-npa.gov.uk)

Stori Aberhonddu: £5000 i gefnogi mentor gwirfoddol ar gyfer y prosiect arloesol hwn, yn gweithio gyda, ac yn hyfforddi, gwirfoddolwyr cymunedol i gofnodi storïau ar fideo a phodlediad ynghylch treftadaeth a diwylliant Aberhonddu – gan greu hanes llafar dwyieithog o’r dref.

Neuadd Bentref Cwmdu Cyfraniad o £10,000 ar gyfer ymestyn y gegin, oedd fawr ei angen, a mesurau effeithlonrwydd ynni, yn yr adnodd cymunedol poblogaidd hwn.

Hen Ysgol Gynradd Talgarth – Astudiaeth Dichonoldeb £13,000 at ymgynghori gyda’r gymuned ac ystyried dichonoldeb defnyddio’r adeilad hwn o’r 19eg ganrif ar gyfer defnydd cymunedol.

Pobl Bakery, Talgarth: £1,995 i brynu offer hanfodol i gychwyn y busnes newydd hwn ym Melin Talgarth, sy’n cael ei rhedeg gan y gymuned.

Effeithlonrwydd Ynni – Rhaglen Adeiladau Cymunedol

Asiantaeth Ynni Hafren Gwy: £3,575 i gynnal archwiliadau effeithlonrwydd ynni ar adeiladau cymunedol, argymell mesurau a fyddai’n helpu i ostwng biliau a’r ddibyniaeth ar danwydd ffosil.

Eglwys Sant Catwg, Llangatwg Cyfraniad o £1,013 at osod goleuadau LED.

Rhaglen y Dreftadaeth Adeiliedig

Gwesty’r Bull’s Head, Aberhonddu: £5,000 at waith atgyweirio angenrheidiol ar ffenestri a tho’r adeilad rhestredig Gradd 2 hwn a chyn dafarn boblogaidd yn ardal gadwraeth The Struet.

Teithiau Cerdded Hanes Llanddewi Nant Hodni £7,550 i Grŵp Hanes Cwm Llanddewi Nant Hodni a’r Cylch, ar gyfer datblygu a chyhoeddi tair taflen newydd i arwain ymwelwyr a thrigolion ar deithiau cerdded yng nghymoedd Llanddewi Nant Hodni, Olchon a Gwyre.

Crooked Window, Aberhonddu: £5,000 at waith trwsio allanol hanfodol ar yr adeiladu Gradd 2 unigryw hwn yn The Struet – mae ganddo hen ffenestri siopau o’r cyfnodau Sioraidd a Fictorianaidd.

Cymdeithas Hanes Brycheiniog: £852 at gyhoeddi ‘Mannau Sanctaidd’ – llyfr sydd wedi’i ddatblygu gan 11 o grwpiau hanes lleol, yn trafod hanes cyfoethog mannau addoli yn nhirwedd Sir Frycheiniog ac yn canolbwyntio ar hyrwyddo’r ‘mannau sanctaidd’ llai adnabyddus, gan gynnwys croesau min y ffordd a ffynhonnau.