Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a chanllawiau ar gyfryngau cymdeithasol

Ar hyn o bryd, mae gennym dudalen Facebook Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Hefyd, ar Twitter, mae gennym ffrwd newyddion a digwyddiadau’r Awdurdod yn ogystal â chyfrifon Wardeiniaid.

Rydym yn annog pobl i’n dilyn ni a byddwn wastad yn ceisio cyhoeddi gwybodaeth sy’n gysylltiedig â gwaith yr Awdurdod a gredwn sy’n berthnasol i’n dilynwyr.

Byddwn hefyd yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i ymateb i gwestiynau a sylwadau sy’n gofyn am adborth, ac ar brydiau byddwn yn ymgynghori â phreswylwyr.

Bydd ein cyfryngau cymdeithasol yn cynnwys:

  • Cynnwys a gwybodaeth newydd sy’n ymwneud â gwasanaethau, mentrau, cyfarfodydd, digwyddiadau ac ymgyrchoedd.
  • O bryd i’w gilydd byddwn yn ailbostio neu’n ‘aildrydar’ cynnwys gan Barciau Cenedlaethol eraill/Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol/grwpiau amgylcheddol/sefydliadau cymunedol/ffotograffwyr/unigolion sy’n berthnasol i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Ond peidiwch â digalonni os nad ydym yn ailbostio eich cynnwys chi!

Hoffi, dilyn a blocio

Os ydych yn ein ‘dilyn’ ni ar Twitter neu’n ein ‘hoffi’ ar Facebook, ni fyddwn yn eich ‘dilyn’ neu’n eich ‘hoffi’ yn ôl yn awtomatig. Os felly, peidiwch â digalonni ond mae’r niferoedd yn rhy fawr i ni eu rheoli.

  • Byddwn weithiau’n ‘dilyn’ neu’n ‘hoffi’ pobl sy’n darparu gwybodaeth sy’n berthnasol i’n gwaith fel Awdurdod lleol (er enghraifft cyfryngau lleol neu ein partneriaid) neu bobl y gallwn anfon eu gwybodaeth ymlaen er budd nifer o bobl leol ac ymwelwyr.
  • O bryd i’w gilydd byddwn yn ceisio cefnogi ymgyrchoedd lleol a chenedlaethol sy’n gysylltiedig â’n gwasanaethau.
  • Bydd hefyd adegau lle bydd yn rhaid inni ‘hoffi’ neu ‘ddilyn’ cyfrif er mwyn bod yn rhan o ddeialog.
  • Os ydym yn ‘hoffi’, yn ‘dilyn’ cyfrif neu’n ‘aildrydar’ eu gwybodaeth, nid yw hynny’n golygu ein bod yn cymeradwyo’r cyfrif na’u safbwyntiau.
  • Os ydym yn blocio eich cyfrif, mae’n debyg bod hyn yn golygu eich bod wedi torri rheolau gofod cyfryngau cymdeithasol penodol (gweler Cymedroli isod). Cadwn yr hawl i flocio neu wahardd cyfrif, heb rybudd, am fynd yn groes i’n canllawiau.

Argaeledd

Mae’n debygol na fydd y safleoedd ar gael o bryd i’w gilydd ac nid ydym yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am ddiffyg gwasanaeth yn sgil eu segurdod.

Monitro cyfrifon, ymateb ac ateb

Caiff ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol eu monitor fel arfer ar ddyddiau’r wythnos yn ystod oriau gwaith a thu allan i oriau gwaith o bryd i’w gilydd.

Os ydych yn gofyn cwestiwn inni ynghylch cyfryngau cymdeithasol, byddwn yn ceisio ymateb cyn gynted â phosib, ond byddwch yn ymwybodol o’r canlynol:

  • Gallwn roi ateb manylach os ydych yn anfon e-bost atom i’r Tîm Cyfathrebu (oherwydd cyfyngiadau ar nifer y nodau mewn ‘trydaron’ ayb).
  • Caiff ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol eu rhedeg gan y Tîm Cyfathrebu, a fydd yn anfon eich cwestiynau at wahanol feysydd gwasanaeth yn yr Awdurdod i geisio ateb eich ymholiad. Golyga hyn efallai na fyddwn yn ymateb yn syth.

Cymedroli

Cadwn yr hawl i gael gwared ar unrhyw gyfraniadau sy’n mynd yn groes i’r canllawiau canlynol:

  • Byddwch yn sifil, yn chwaethus ac yn berthnasol.
  • Peidiwch â phostio negeseuon sy’n anghyfreithlon, yn enllibus, sy’n erlid rhywun, sy’n ddifenwol, yn ddifrïol, yn fygythiol, yn niweidiol, yn anweddus, yn gableddus, neu sy’n sarhaus ar sail rhyw neu hil.
  • Peidiwch â rhegi.
  • Peidiwch â phostio cynnwys sydd wedi’i gopïo o rywle arall, os nad ydych chi’n berchen ar yr hawlfraint.
  • Peidiwch â phostio’r un neges, neu negeseuon tebyg, fwy nag unwaith (gelwir hyn yn ‘sbamio’).
  • Peidiwch â chyhoeddi gwybodaeth bersonol pobl eraill, megis manylion cyswllt.
  • Peidiwch â dynwared rhywun arall.
  • Gallai hysbysebu gwasanaethau yn agored ac yn aml olygu bod eich postiadau yn cael eu dileu.

Eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y cyfyngiadau preifatrwydd priodol wedi’u gosod ar eich proffil/tudalen/ffrwd cyfryngau cymdeithasol i gyfyngu ar yr hyn rydych am i eraill, yn cynnwys yr Awdurdod, ei weld.  

Gan y bydd natur cyfryngau cymdeithasol yn parhau i esblygu, rydym yn cadw’r hawl i newid y canllawiau cyfryngau cymdeithasol hyn o bryd i’w gilydd. Pan fydd newid, byddwn yn postio’r polisi wedi’i ddiweddaru yma, ac yn newid y dyddiad y daw i rym, a nodir uchod.  Fe’ch annogir i edrych ar y dudalen hon bob hyn a hyn fel eich bod yn ymwybodol o unrhyw newidiadau.  Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn yr Awdurdod, cysylltwch â’r Tîm Cyfathrebu drwy anfon e-bost.