Miloedd o ddisgyblion yn ymrwymo i weithredu hinsawdd

Gweithdy Awdurdod y Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn arwain at addewidion hinsawdd

Roedd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn hynod falch o groesawu mwy na 100 o ysgolion ledled Cymru i’w gwers rithiol fyw, Gweithredu Hinsawdd, ar 11 Chwefror.

Bu Swyddogion Addysg Eleri Thomas, Hayley Sharp a’r Llysgennad Ieuenctid Dylan Matthews yn dangos sut mae Awdurdod , gwirfoddolwyr a phartneriaid y Parc Cenedlaethol yn gweithio tuag at ddod yn sero carbon erbyn 2030.  Eglurodd y tîm y cydsyniad o newid hinsawdd, gwerth adfer mawn, plannu coed a sut mae ynni adnewyddol yn gallu helpu i leihau ein heffaith ar ein planed. Er bod ysgolion eisoes yn gweithio i gyflawni’r rhaglenni Eco Ysgolion ac Ysgolion Iach, roedd y tîm yn gallu rhannu enghreifftiau a cherddi ysbrydoledig o fywyd go iawn .

Yn ystod y sesiwn, awgrymodd y tîm addewidion weithredu hinsawdd y gallai’r disgyblion eu mabwysiadu neu baratoi rhai eu hunain. Mae’r addewidion yn cynnwys gweithrediadau megis adeiladu cartrefi bywyd gwyllt, defnyddio llai o ddŵr, ciniawau di-wastraff ac annog trafnidiaeth gynaliadwy.

Mae’r gweithdy eisoes wedi arwain at weithredu. Meddai un athro, “Mae fy nosbarth eisoes wedi gweithio allan bod 8,000 o boteli llaeth plastig bychain yn cael eu danfon i’r ysgol pob blwyddyn. Rydym wrthi! Ysgrifennu llythyrau wythnos nesaf!”

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi’i ymrwymo’n angerddol at weithredu llythrennedd carbon mewn addysg. Meddai Eleri Thomas, Swyddog Addysg, “Cymerodd dros 3,000 o ddisgyblion ran yn y sesiwn. Rydym yn gobeithio eu bod nhw’n sylweddoli eu bod yn rhan o rywbeth eithaf eithriadol. Gyda’i gilydd bydd eu newidiadau bychain yn gwneud gwahaniaeth mawr”

Mae’r adnoddau dwyieithog a’r wers rithiol ar gael ar wefan Awdurdod y Parc Cenedlaethol https://www.beacons-npa.gov.uk/learning/climate-action-2022/

DIWEDD