Bydd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sydd yn enwog am ei awyr dywyll gyda’r hwyr ac sydd yn Warchodfa Awyr Dywyll ddynodedig yn cyfareddu seryddwyr a naturiaethwyr unwaith yn rhagor yn yr Ŵyl Awyr Dywyll a fydd yn cael ei chynnal Ddydd Sadwrn, 23 Medi.
Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog mewn tirwedd ogoneddus ac ers blynyddoedd bellach, mae’r Parc wedi dathlu ei ymroddiad i ddiogelu rhyfeddodau awyr y nos drwy liniaru llygredd golau. Mae’r ŵyl yn dyst i’r ymroddiad hwn ac yn cynnig anturiaethau yn ystod y dydd a’r hwyr.
Mae uchafbwyntiau’r ŵyl yn cynnwys:
Rhodd o’r nef – Tirwedd Oes yr Iâ (taith gerdded)
10.30-13:00 (£3.00)
Ewch yn ôl mewn amser a cherdded ar hyd comin Mynydd Illtud i gaer Twyn y Gaer er mwyn profi’r Oes Haearn ac Efydd gydag Alan Bowring, Swyddog Geoparc.
Sioeau’r Sêr yn y planetarium dan do
11am, 12pm, 1pm, 2pm, 3pm, 4pm, 5pm (£7.00)
Drwy ddefnyddio planetarium modern bydd rhyfeddodau awyr y nos yn cael eu dangos mewn manylder anhygoel.
Cyflwyniad – Sut mae ystlumod wedi meistroli awyr y nos a sut y gall dynoliaeth eu peryglu
11:00-11:45 (£3.00)
Cyflwyniad – Dewis a defnyddio binocwlars
12:00-12:45 (£3.00)Mae Binocwlars yn offer defnyddiol ac effeithiol ar gyfer seryddwyr ifanc ac astronomegwyr profiadol.
Cyflwyniad – Meteorites a stori’r system solar
14:00-14:45 (£3.00)
Cewch gyfle i weld a thrafod enghreifftiau o greigiau sydd dros 4.7 biliwn mlwydd oed.
Rhodd o’r nef – Tirwedd Oes yr Iâ (taith gerdded)
14:00-16:30 (£3.00)
Ewch yn ôl mewn amser a cherdded ar hyd comin Mynydd Illtud i gaer Twyn y Gaer er mwyn profi’r Oes Haearn ac Efydd gydag Alan Bowring, Swyddog Geoparc.
Cyflwyniad – Y Blaned Mercher
15:00-15:45 (£3.00)
Oeddech chi’n gwybod os oeddech yn byw ar y blaned Mercher y byddech yn dathlu’ch pen-blwydd bob tri mis. Dewch i wybod rhagor am y blaned hon.
Taith Gerdded yr Awyr Dywyll o Ganolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol
19:30-22:30
Cyfle i weld Bannau Brycheiniog gyda’r hwyt yng nghwmni Tywysydd Mynydd a Llysgennad Awyr Dywyll cymwys fel rhan o’r Ŵyl Awyr Dywyll. Yn ystod y noson, byddwn yn canfod rhagor am Fynydd Illtud a Thwyn y Gaer.
Cyflwyniad – Gwyddoniaeth Dr. Who
19:00-19:45 (£7.50)
Mae ffuglen wyddonol yn hwyl. . . .ond oes unrhyw ran ohono’n bosibl. Am 8pm, bydd sesiwn yn yr awyr agored yn defnyddio telesgopau a binocwlars Cymdeithasau Astronomegol Brynbuga a Chaerdydd.
Chwedlau Clasurol
19:00-20:00 £12.00
Bydd y storiwr a’r awdur, DANIEL MORDEN yn adrodd straeon traddodiadol a rhyfeddol y clystyrau.
Cyflwyniad – Taith yr Artemis i’r lleuad
20:00-20:45 (£7.50)
Cyn y sgwrs (19:00-19:45,) bydd fodd i chi wylio’r sêr gan ddefnyddio telesgopau a binocwlars Cymdeithasau Astronomegol Brynbuga a Chaerdydd.
Digwyddiad am ddim: Edrych ar y System Solar, Cymdeithas Astronomegol Caerdydd
10:00-16:00
Dewch i weld ein seren agosaf (yr Haul) YN DDIOGEL drwy delesgopau arbenigol. Mae bywyd ar y ddaear yn ddibynnol arno!
Padl Fyrddio gyda Martin Williams
22nd & 23rd 19:00-20:00
Dewch i weld Bannau Brycheiniog a’r Warchodfa Awyr Dywyll gyda’r hwyr o Gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu. Padl gyda’r nos, Outdoor Explore Wales.
Taith Gerdded Ystlumod
22 a 23 19:00 (£10.00)
Dewch i ddysgu am ystlumod Bannau Brycheiniog yng nghwmni ecolegydd ystlumod lleol!
“Rydym yn falch i gynnal Gŵyl Awyr Dywyll flynyddol Bannau Brycheiniog,” medd Carol Williams, Swyddog Awyr Dywyll. “Mae’r digwyddiad nid yn unig yn dathlu’n ymroddiad i ddiogelu prydferthwch awyr y nos ond hefyd yn gyfle addysgiadol ac yn brofiad ysbrydoledig i bawb o bob oed.”
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yw un o’r ychydig Warchodfeydd Awyr Dywyll yn y Deyrnas Unedig ac mae’n cynnig cyfle heb ei ail i gydgysylltu â’r cosmos a phrofi rhyfeddod y bydysawd heb lygredd golau, dinesig.
Mae ymwelwyr yn cael eu hannog i ddod â dillad cynnes a synnwyr rhyfeddod gyda hwy wrth iddynt syllu ar wybren yr hwyr. Bydd yr Ŵyl Awyr Dywyll yn ddathliad o sioe olau rhyfeddol byd natur.
Mae Gŵyl Awyr Dywyll Bannau Brycheiniog yn cael ei chynnal Ddydd Sadwrn, 23 Medi ac mae’n agored i bawb. Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth am ddigwyddiadau a thocynnau, ewch i breconbeacons.org/stargazing.
Y DIWEDD