Cynllun Gweithredu’r Amgylchedd Hanesyddol

Gorffennol, Presennol a Dyfodol y Bannau

Cynllun Gweithredu’r Amgylchedd Hanesyddol 2023 – 2028 

“Mae’r amgylchedd hanesyddol yn ymddangosiad corfforol o dreftadaeth ddiwylliannol Cymru; etifeddiaeth werthfawr y mae’n rhaid i ni ofalu amdano a’i phasio ymlaen i’n plant i’w caru, coleddu a mwynhau.”

Arglwydd Elis Thomas (2018)

Mae’r Cynllun Gweithredu’r Amgylchedd Hanesyddol yn anelu at hyrwyddo cadwraeth, gwella, dathlu a rhannu dealltwriaeth o amgylchedd hanesyddol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog er budd y cenedlaethau presennol a rhai’r dyfodol. 

Wedi’i ddynodi’n Barc Cenedlaethol ym 1957, mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cynnwys rhai o dirweddau gorau Cymru sy’n cael eu trysori’n enfawr. Er yn ymddangos yn wyllt, mae’r tirweddau rydym yn eu gweld heddiw’n dirweddau diwylliannol, wedi’u ffurfio gan filoedd o flynyddoedd o weithredu dynol ar y tir.

Mae tirweddau’r Parc Cenedlaethol yn fannau byw lle mae pobl yn gweithio, gyda’n hamgylcheddau a chymunedau’n destun ystod eang o bwysau, gan gynnwys o ddatblygu, newid amaethyddol, newid demograffeg, cynnydd yn y nifer o ymwelwyr a heriau mawr fyd eang gan gynnwys yr hinsawdd a’r argyfwng natur, anghydraddoldeb cymdeithasol ac economaidd, y pandemig a’r dirwasgiad.

Mae gan yr amgylchedd hanesyddol rôl hanfodol i’w chwarae mewn sicrhau dyfodol cynaliadwy ein tirwedd gwarchodedig a bydd rheolaeth ofalus yn hanfodol wrth warchod rhinweddau arbennig y Parc. Mae pawb sy’n berchen, rheoli ac yn ymweld â’n safleoedd hynafol a lleoedd hanesyddol yn gyfrifol am helpu i ddiogelu’r adnodd gwerthfawr. Fodd bynnag, bydd y tan adnoddau a phroblemau capasiti ar hyn o bryd yn y sector amgylchedd hanesyddol yn cael eu dwysau gan yr heriau cynyddol sy’n ein hwynebu yn y blynyddoedd sydd o’n blaen.

Mae gweithio mewn partneriaeth gyda chydweithwyr, cymunedau ac ymwelwyr yn hanfodol wrth hyrwyddo dathlu a rheolaeth fuddiol o’n treftadaeth.  Mae’r cynllun hwn wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth, i warchod ein Hamgylchedd Hanesyddol ac i hyrwyddo cydlyniad ac aliniad y gwahanol grwpiau a sefydliadau sy’n gweithio yn y Parc Cenedlaethol.

Nid yw’n honni cwmpasu holl agweddau’r gwaith, ond y bwriad yw darparu peirianwaith ar gyfer helpu i flaenoriaethu, darparu a monitro cadwraeth a dathliad ein treftadaeth. Mae’n ddogfen waith, ar agor i bawb sy’n dymuno cyfrannu a bydd yn cael ei diweddaru’n rheolaidd. 

Mae wedi’i datblygu i eistedd ar y cyd â’r Cynllun Gweithredu Adfer Natur fel tystiolaeth gefndir ar gyfer Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol Bannau’r Dyfodol a bydd o gymorth i Awdurdod y Parc Cenedlaethol gynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae wedi’i pharatoi i’n helpu edrych ar ôl yr amgylchedd hanesyddol sydd o’n cwmpas.

 

Cynllun Gweithredu’r Amgylchedd Hanesyddol 2023 – 2028