Adeiladau Fferm traddodiadol a’r Dirwedd ym mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae ffermydd yn gwneud cyfraniad sylfaenol i dirwedd ddiwylliannol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae Nodweddiad Ffermydd Bannau Brycheniog yn rhoi trosolwg o brif nodweddion adeiladau fferm traddodiadol yn y Parc Cenedlaethol, i helpu i lywio ac ysgogi ymchwil, cefnogi mentrau cymunedol, cynorthwyo gwneud penderfyniadau yn y broses gynllunio a chynlluniau grant amaeth-amgylcheddol. Mae’n gosod ffermydd yng nghyd-destun eu tirweddau, gan ddangos sut mae pobl wedi addasu, byw, defnyddio a rhannu adnoddau’r Parc Cenedlaethol, ac yna mae’n nodi’r gwahanol fathau o ffermydd ac adeiladau rydych chi’n debygol o ddod o hyd iddyn nhw cyn ystyried sut maen nhw cyfrannu at gymeriad y dirwedd leol.