Tirweddau Hanesyddol

Clodforir Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog am ei dirwedd hardd, ond mae tirwedd y Parc Cenedlaethol hefyd yn bwysig oherwydd ei dreftadaeth. Nid yw hyn wedi ei gyfyngu i safleoedd archeolegol unigol neu Adeiladau Rhestredig, mae’r dirwedd fel cyfanwaith yn rhoi cyfres o gliwiau ynghylch sut mae wedi newid a sut y cafodd ei ddefnyddio dros amser.

Mae tirwedd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gysylltiad uniongyrchol â’n cyndadau a helpodd i ffurfio’r dirwedd gyfoes.  Ni fyddai’n lle mor hardd, amrywiol a syfrdanol ag ydyw heddiw heb gael ei ffurfio gan fodau dynol am filoedd o flynyddoedd.  Mae angen rheoli’r dirwedd yn ofalus er mwyn cynnal y cysylltiadau pwysig hyn â’r gorffennol.

Er mwyn cydnabod pwysigrwydd diwylliannol a hanesyddol tirweddau a’r angen i’w rheoli’n ofalus, mae Cadw wedi llunio Cofrestr Tirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol ac Arbennig yng Nghymru, sy’n nodi 58 o Dirweddau Hanesyddol ledled Cymru sydd o bwysigrwydd cenedlaethol.  Mae wyth o’r Tirweddau Hanesyddol o bwysigrwydd cenedlaethol hyn yn sefyll, o leiaf yn rhannol, ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gan gynnwys y Mynydd Du a Mynydd Myddfai, Canol Dyffryn Gwy, Dwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-glog a Chanol Dyffryn Wysg.

Rhagor o ddeunyddiau darllen:

Cadw (1998) Register of Historic Landscape of Outstanding Historic Interest in Wales Caerdydd: Cadw

Cadw (2001) Register of Historic Landscape of Special Historic Interest in Wales Caerdydd: Cadw

Cadw (2003) Caring for Historic Landscapes Caerdydd: Cadw