Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cael ei warchod am ei gefn gwlad hardd, ei fywyd gwyllt a’i dreftadaeth ddiwylliannol. Bwriad y ddogfen ganllaw hon yw cynorthwyo Awdurdod y Parc Cenedlaethol i reoli’r tirwedd hanesyddol a darparu cyngor i bobl sy’n gofyn am ganiatâd i ddefnyddio datgelyddion metel yn y Parc Cenedlaethol.
Mae’n annhebyg y bydd caniatâd i ddefnyddio datgelyddion metel yn cael ei roi ar dir ym mherchnogaeth yr Awdurdod, oni bai fod hynny’n rhan o raglen ymchwil archeolegol achrededig ac o dan oruchwyliaeth.
- Amcanion Cadwraeth Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
1.1 Diben Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yw cadw a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol y tirwedd arbennig hwn a hyrwyddo cyfleoedd i’r cyhoedd ddeall a mwynhau ei nodweddion arbennig.
1.2 Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi llofnodi’r ‘Ddatganiad ar y Cyd ar Gynllun Gweithredu’r Amgylchedd Hanesyddol’, sy’n anelu at ddiffinio egwyddorion cyffredin ar gyfer rheoli’r amgylchedd hanesyddol yn gynaliadwy ym mhob un o Barciau Cenedlaethol y DU a sicrhau fod rheoli’r amgylchedd hanesyddol yn gynaliadwy yn cael ei gyfuno’n llawn i holl agweddau o reoli tirweddau Parciau Cenedlaethol. Mae hynny’n cynnwys Amcan III, Gweithred II: Gweithio mewn partneriaeth gydag awdurdodau, asiantaethau a sefydliadau perthnasol i fonitro, cofnodi ac ymchwilio i achosion o droseddu ac ymddygiad gwrth gymdeithasol – ‘Trosedd Treftadaeth’.
- Datgelyddion Metel ac Archeoleg
2.1 Mae llawer o bobl yn defnyddio datgelyddion metel i chwilio am wrthrychau archeolegol sydd wedi’u claddu. O’u defnyddio’n gyfrifol, mewn rhaglenni ymchwil archeolegol a gwaith maes strwythuredig, gallai datgelyddion metel hwyluso darganfyddiadau a bod yn ychwanegiad gwerthfawr at becyn gwaith archeolegol. Fodd bynnag, gallai eu defnyddio’n anghyfrifol aflonyddu ar gyd-destun darganfyddiadau archeolegol a gallai peidio ag adnabod, cofnodi ac adrodd ar ddarganfyddiadau arwain at golli gwybodaeth archeolegol am byth.
2.2. Mae yna gyfyngiadau ar ddefnyddio datgelyddion metel ar dir preifat a chyhoeddus. Mae’n anghyfreithlon, bob tro, defnyddio datgelyddion metel ar unrhyw dir heb ganiatâd y tirfeddiannwr,
2.3 Mae yna gyfyngiadau eraill ar eu defnyddio yn yr amgylchedd hanesyddol, gan gynnwys:
- Gwaharddiad ar ddefnyddio datgelyddion metel ar Henebion yng Nghymru, heb ganiatâd Cadw. Bydd unrhyw un sy’n defnyddio datgelyddion metel ac yn symud gwrthrychau o Henebion heb ganiatâd yn troseddu o dan Ddeddf Ardaloedd Archeolegol a Henebion 1979, fel y’i diwygiwyd a’i diweddaru gan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016. Gallai hynny hefyd fod yn ddifrod troseddol a lladrad1.
- Gwaharddiad ar ddefnyddio datgelyddion metel ar dir mynediad.
- Mae defnyddio datgelyddion metel yn groes i Is-ddeddfau’r Comisiwn Coedwigaeth.
- Mae angen trwydded i ddarganfod metel ar dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae’n rhaid i geisiadau am drwydded gynnwys dyluniad y prosiect sydd wedi’i gytuno gydag Arecheolegydd perthnasol yr Ymddiriedolaeth.
- Gallai fod yna gyfyngiadau hefyd ar ddarganfod metel ar rai safleoedd. Gallai hynny gynnwys tir o dan Stiwardiaeth Cefn Gwlad neu gynlluniau amaeth-amgylcheddol eraill. Gellir cael manylion y cyfyngiadau o sawl ffynhonnell, gan gynnwys y tirfeddiannwr / deilydd, eich Swyddog Cyswllt Darganfyddiadau neu Gofnodion Amgylcheddol Hanesyddol neu http://cadw.gov.wales.
- Mae paradmedrau cyfreithiol eraill yn cynnwys Deddf Gwarchod Olion Milwrol 1986, Deddf Trysor 1996 (ymestynnwyd yn 2003) a Deddf Gladdu 1857.
- Mae rhai safleoedd wedi’u dynodi’n Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig am eu diddordeb biolegol neu ddaearegol. Mae’n rhaid cael caniatâd Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer gweithgareddau a allai niweidio diddordeb7 arbennig y safle.
- Canllawiau ar gyfer defnyddio Datgelyddion Metel yn gyfrifol:
3.1 Mae’r Cynllun Hynafiaethau Cludadwy yn gôd ymarfer ar gyfer datguddio metel yn gyfrifol yng Nghymru a Lloegr (2017). Mae’r côd hwn wedi’i gymeradwyo gan Amgueddfa Cymru / Cynllun Henebion Cludadwy Cymru, Cymdeithas Swyddogion Archeolegol Llywodraeth Leol, Sefydliad Siartredig yr Archeolegwyr, Cyngor Archeoleg Prydain a’r Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, ymysg eraill. Mae ar gael ar: https://finds.org.uk/getinvolved/guides/codeofpractice [ymwelwyd 05/06/18].
3.2 Efallai fod gan glybiau datgelu metel annibynnol eu côd ymarfer eu hunain. Mae gan Gyngor Cenedlaethol Datgelu Metel (www.ncmd.co.uk) a Ffederasiwn Datgelyddion Annibynnol (www.fid.newbury.net) hefyd Gôd Ymddygiad y mae’n rhaid i’w haelodau ei ddilyn fel amod o aelodaeth.
3.3. Mae dogfen ganllaw ar gyfer tirfeddianwyr wedi’i datblygu gan y Grŵp Ymgynghorol Henebion Cludadwy ac mae ar gael yma: https://finds.org.uk/documents/file/Landowner%20leaflet%20FINAL.pdf
- Argymhellion:
4.1 Mae’n annhebyg y bydd caniatâd i ddefnyddio datgelyddion metel yn cael ei roi ar dir ym mherchnogaeth Awdurdod y Parc Cenedlaethol, oni bai ei fod yn rhan o raglen ymchwil archeolegol achrededig ac o dan oruchwyliaeth.
4.2 Dylai Awdurdod y Parc Cenedlaethol annog tirfeddianwyr ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gymryd agwedd debyg.
- Cyngor i Ddatgelwyr Metel yn gofyn am ganiatâd
5.1 Mae’n annhebyg y bydd caniatâd i ddefnyddio datgelyddion metel yn cael ei roi ar dir ym mherchnogaeth Awdurdod y Parc Cenedlaethol, oni bai ei fod yn rhan o raglen ymchwil archeolegol achrededig ac o dan oruchwyliaeth.
5.2 Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n dymuno datgelu metel ar dir preifat ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ofyn am, a chael caniatâd gan, y tirfeddiannwr cyn dechrau. Argymhellir yn gryf bod unigolion yn gofyn am ganiatâd yn dod yn gyfarwydd â:
- Y Cynllun Henebion Cludadwy https://funds.org.uk/
- Côd Ymarfer Cynllun Henebion Cludadwy ar gyfer Darganfod Metel yn Gyfrifol yng Nghymru a Lloegr, 2017: https://finds.org.uk/getinvolved/guides/codeofpractice
- Manylion cyswllt eich Swyddfa Cydlynu Darganfyddiadau Lleol, gellir eu cael oddi wrth y Cynllun Henebion Cludadwy: Ar lein https://finds.org.uk/contacts, ebost info@finds.org.uk, ffôn 020 7323 8611.
- Ac i ganfod rhagor ynghylch darganfod metel a chlybiau lleol, trwy’r Cyngor Cenedlaethol Darganfod Metel neu (ncmd.co.uk) Ffederasiwn Datgelwyr Annibynnol (www.fid.org.uk).