Trysorau Treftadaeth

Y Garn Goch

Mae muriau’r bryngeyrydd yn y Garn Goch wedi sefyll ers dros 2,000 o flynyddoedd ac maent yn olygfa drawiadol. Y Garn Goch yw un o’r caerau mwyaf o’r Oes Haearn yng Nghymru gyfan, ac mae’n safle bythgofiadwy sy’n dod â phŵer a chywreinrwydd yr Oes Haearn yn fyw.

Priordy Llanddewi Nant Hodni

Dewch o hyd i olion prydferth ac atgofus Priordy Llanddewi Nant Hodni yn Nyffryn Ewias darluniaidd, yng nghysgod y Mynydd Du. Yr olion hiraethlon hyn yw’r cyfan sy’n weddill o un o’r adeiladau gorau yng Nghymru yn y Canol Oesoedd.

Tretŵr

Mae pentref Tretŵr yn berl cudd mewn lleoliad hyfryd yn nyffryn Wysg, yn swatio yng nghysgod y Mynydd Du a lle mae haenau hanes yno i bawb eu gweld. Er mai dim ond pentref bychan ydyw, mae ganddo gyfoeth o hen dai coeth, eglwys o’r 19eg ganrif, olion castell trawiadol…

Gweithfeydd Powdwr Gwn Pontneddfechan

Yn nyffryn afon Mellte, sy’n enwog am ei raeadrau hardd, fe ddarganfyddwch olion safle pwysig iawn. Mae’r dyffryn coediog hwn yn bennaf, â’i lethrau serth, yn cynnwys ysbryd yr hyn a oedd yn ddiwydiant ffyniannus ar un adeg, sef olion Gweithfeydd Powdwr Du Glyn-nedd. Mae gweithfeydd powdwr du yn fath…

Castell Carreg Cennen

Mae Castell Carreg Cennen yn ymddangos fel petai’n tyfu o glogwyn serth ac rwy’n rhyfeddu ato o hyd. Mae’r castell hwn, sy’n sefyll ar glogwyn calchfaen ac sydd â golygfeydd o’r Mynydd Du, sy’n adnabyddus am ei harddwch anghysbell, yn brolio un o’r safleoedd mwyaf ysblennydd o unrhyw gastell yng…

Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon

Mae tirwedd Blaenafon wedi’i gweddnewid yn gyfan gwbl gan law dyn a gweithgarwch diwydiannol, gan ei gadael yn ardal o harddwch diffrwyth a phur wedi’i britho â thystiolaeth ffisegol o’r gweithgareddau diwydiannol a oedd yn ffynnu yma ar un adeg. Mae’n ardal lle mae olion y gorffennol yn gyffyrddadwy ac…

Pen-y-crug

Tua 2 gilomedr i’r gogledd-orllewin o Aberhonddu, yn codi i uchder o 331m uwchben Dyffryn Wysg, mae olion bryngaer Pen-y-crug ar gopa bryn amlwg. Dyma un o’r bryngeyrydd mwyaf trawiadol ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac mae ganddi hyd at 5 o ragfuriau sy’n parhau, wedi’u gwneud o bridd a…

Parc Gwledig Craig-y-nos

Saif Parc Gwledig Craig-y-nos, sef tir hanesyddol 40 erw Castell Craig-y-nos, a oedd yn gartref i’r gantores opera byd-enwog Adelina Patti ar un adeg, mewn lleoliad dramatig a rhamantus ym mhen uchaf diarffordd Cwm Tawe, ar lannau afon Tawe. Mae’r parc gwledig yn fan lle mae nodweddion naturiol a nodweddion…

Eglwys Sant Martin, Cwm-iou

Ar yr olwg gyntaf, mae Eglwys Sant Martin yng Nghwm-iou, yn Nyffryn Ewias ger y Fenni, yn edrych fel eglwys fach hardd o’r 13eg ganrif, yn debyg i lawer o rai eraill a welwch yn y pentrefi ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Fodd bynnag, wrth edrych eilwaith fe welwch fod…

Chwareli’r Mynydd Du

Mewn lleoliad syfrdanol ar y Mynydd Du â golygfeydd aruthrol dros Sir Gaerfyrddin a gorllewin Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog mae Chwareli’r Mynydd Du. Mae’r ardal fawr hon o chwareli calchfaen segur, sydd hefyd yn cael ei galw’n Chwarel Herbert, ar agor i’r cyhoedd. Mae’r gweithfeydd ond tro bach o’r maes…