Tretŵr

Castell Tretŵr

 

Saif Castell Tretŵr mewn safle strategol ar lan ogleddol afon Wysg, lle mae’r ffordd trwy ddyffryn Wysg yn fforchio tuag at Dalgarth a dyffryn Gwy; safle cryf ac awdurdodol lle y gallai unrhyw Arglwydd canoloesol arfer rheolaeth dros ei dir.  Mae olion y castell yn dyddio o’r 13eg ganrif, er mai hen gastell Mwnt a Beili Normanaidd oedd y castell gwreiddiol (sef twmpath mawr o bridd ag amddiffynfeydd pren ar ei ben), a adeiladwyd yn ystod concwest y Normaniaid o deyrnas hynafol Brycheiniog, pan setlodd boneddigion grymus Normanaidd ym Mrycheiniog a’r ardal gyfagos i sefydlu eu rheolaeth. Addaswyd y castell hwn sawl gwaith yn ystod ei hanes, gan gael ei ailadeiladu o gerrig yng nghanol y 12fed ganrif, ac yna ei ailfodelu’n helaeth yn y 13eg ganrif, pan adeiladwyd y tŵr mawr sy’n taflu ei gysgon helaeth dros y safle hyd heddiw.

 

Nid amddiffynfa yn unig oedd Castell Tretŵr.  Mae ansawdd y gwaith carreg addurnol yn rhagori ar yr hyn sydd ei angen at ddibenion amddiffynnol yn unig, gan ei osod ymhlith y cestyll gorau yng Nghymru; am beth o’i hanes o leiaf, roedd y castell hwn yn breswylfa werthfawr ac yn arwydd statws.  Er ei fod yn adfail erbyn hyn, mae olion y castell yn atgoffâd grymus o gyfoeth, statws a dylanwad Arglwyddi Tretŵr yn ystod y Canol Oesoedd.  Erbyn 1400, roedd y breswylfa wedi symud i Lys Tretŵr, ond goroesodd y Castell a pharhaodd i gael ei ddefnyddio fel caer filwrol yn ystod rhyfeloedd, fel gwrthryfel Owain Glyndŵr.

 

Llys Tretŵr

 

Cymerodd Llys Tretŵr drosodd o’r Castell fel preswylfa yn ystod y 14eg ganrif.  Roedd yn perthyn i deulu Vaughan hyd y 18fed ganrif, sef un o’r teuluoedd mwyaf cyfoethog yng Nghymru, ac fe wnaethant ymestyn ac addasu’r adeiladau i fodloni eu chwaeth a’u hanghenion am dros 300 o flynyddoedd.  Ar ddiwedd y 18fed ganrif, daeth Llys Tretŵr yn fferm – defnyddiwyd rhan o’r adeilad fel twlc moch hyd yn oed – a dirywiodd yr adeiladau nodedig hyn nes iddynt gael eu harbed rhag diofalwch a’u hadfer yn yr 20fed ganrif.  Heddiw, gall y rhai sy’n ymweld â Llys Tretŵr gamu’n ôl i’r gorffennol a chael profiad o’r tŷ fel y byddai ar ei anterth yn y 15fed ganrif, trwy archwilio’r neuadd fawr, yr ardd ganoloesol a ail-grewyd a’r gegin weithiol hyd yn oed, ynghyd ag archwilio hanes cynharach y safle ac olion y castell.

 

Mae pentref Tretŵr wedi’i leoli ger yr A479 i’r gogledd-orllewin o Grughywel.  Mae parcio ar gael yn y pentref.  Mae safleoedd Castell a Llys Tretŵr dan warcheidwaeth Cadw, maent ar agor i ymwelwyr a chodir tâl mynediad.