Eglwys Sant Martin, Cwm-iou

Mae ffurf anarferol yr eglwys, sy’n swatio o dan un o grimogau Mynydd y Gader gerllaw, o ganlyniad i dirlithriad a achoswyd gan ddaeargryn ofnadwy wrth groeshoelio Crist, pan ddisgynnodd y tywyllwch, yn ôl traddodiad lleol.  Roedd y tirlithriad yn ddigon gwir, ond nid gwaith Duw ydoedd, ond oherwydd etifeddiaeth Oes yr Iâ diwethaf.  Deg mil o flynyddoedd yn ôl, wrth i’r hinsawdd gynhesu a’r iâ gilio, datgelwyd dyffryn rhewlifol siâp U clasurol, a oedd â llethrau serth ac ansad.  Ochrau symudol y dyffryn a arweiniodd at dirlithriad mawr.  Ar y gorwel uwchben yr eglwys, gallwch weld hollt mawr yn ochr y mynydd lle cwympodd y tirlithriad.  Y nodwedd hon sy’n rhoi enw’r eglwys a’r pentref ei hun, gan fod Cwm-iou yn golygu Cwm yr Iau.

 

Adeiladwyd yr eglwys a welwch heddiw o garreg a ddatgelwyd gan y tirlithriad ac mae wedi’i hadeiladu ar ben drifft y tirlithriad.  Mae hwn yn arwyneb ansad i adeiladu arno ac mae symudiad a setliad y ddaear ar ôl i’r eglwys gael ei hadeiladu wedi gwneud i’r adeilad grychu a throi. Edrychwch yn ofalus ac fe welwch fod corff yr eglwys yn crymu’n llorweddol, mae’r waliau’n gam ac mae pen y tŵr yn goleddu 6 troedfedd dros y sylfeini!  Er mwyn atal unrhyw symudiad pellach ac atal yr adeilad rhyfeddol hwn rhag cwympo yn y pen draw, erbyn hyn caiff y tŵr ei gynnal gan fwtres cerrig a’r waliau eu cynnal gan rodiau metel mewnol.

 

Mae portread o Grist ar y Groes o’r 13eg ganrif a gerfiwyd o garreg yn ychwanegu at bwysigrwydd eglwys Cwm-iou.  Credir bod y goroesiad canoloesol prin hwn yn un o’r croesau o Lwybr y Pererinion i Dyddewi.  Cafodd y groes ei darganfod ar fferm gyfagos ym 1871 ac aethpwyd â hi i ardd y Ficerdy i ddechrau ac yna i’r eglwys.  Mae ganddi hanes brith gan iddi gael ei dwyn o’r eglwys ym 1967 a’i dychwelyd dim ond ar ôl iddi gael ei hadnabod gan aelod staff o’r Amgueddfa Brydeinig a’i gwelodd ar werth mewn siop hen bethau.  Heddiw, mae’r groes wedi’i chysylltu â llawr yr eglwys, lle y bwriedir iddi aros, a chan fod yr eglwys wedi’i lleoli ar hyd llwybr cyfoes y Ffordd Sistersaidd, gall cenhedlaeth gyfoes o deithwyr ymweld â’r groes.