Castell Carreg Cennen

Adeiladwyd y castell cerrig a welwch heddiw gan John Giffard a’i fab tua 1277, ac roedd yn nwylo’r Saeson am lawer o’i hanes.  Difrodwyd y castell gan wrthryfel Owain Glyndŵr ac yn ddiweddarach yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau ym 1461, gan greu’r adfeilion a welwch heddiw.  Fodd bynnag, mae gan Gastell Carreg Cennen sawl haen o hanes, ac roedd castell pren cynharach a adeiladwyd gan Dywysog Cymru, Rhys ap Gruffydd, yn y 12fed ganrif yn sefyll yma ar un adeg.

 

Er ei fod yn gysgod o’i gyn ysblander erbyn hyn, dychmygwch y sgiliau a’r cywreinrwydd yr oedd eu hangen i adeiladu castell yma, a’r holl ddynion a lafuriodd am gannoedd o flynyddoedd i’w adeiladu a’i gynnal.  Ar ôl y daith gerdded serth i fyny i’r castell, wrth i chi fwynhau’r golygfeydd anhygoel, meddyliwch am y castell hwn fel amddiffynfa a’r dasg anodd a oedd yn wynebu unrhyw fyddin ganoloesol a oedd yn gobeithio ei gipio.  Roedd y gardiau a oedd ar ddyletswydd yn y porthdy yn barod i amddiffyn y castell a gollwng bwcedi o ddŵr a cherrig ar ben unrhyw ymosodwyr a lwyddodd i oresgyn amddiffynfeydd eraill y castell; y clogwyn 300 troedfedd yr adeiladwyd y castell arno a chyfres o byllau mawr a phontydd codi.  Os oes gennych dortsh, yna nid oes unrhyw ymweliad â’r castell yn gyflawn heb daith i lawr y twnnel tanddaearol i weld yr ogof naturiol yn y graig dan y castell.  Defnyddiwyd yr ogof hon fel storfa, ond hwn oedd dwnsiwn y castell hefyd; dychmygwch sut deimlad fyddai cael eich dal yn gaeth yn y carchar creigiog hwn.

 

Er bod y castell yn lle tawel a heddychlon heddiw, yn ystod yr Oesoedd Canol, roedd yn llawn gweithgarwch.  Byddai llawer o stablau, gweithdai a cheginau i gynnal y castell o ddydd i ddydd.  Byddai arogleuon bara’n pobi a gwleddoedd yn cael eu paratoi yng ngheginau’r castell yn cymysgu â’r mwg o danau’r gweithdai.  Byddai atsain y gof, clecian y ceffylau, cerddoriaeth yn cario o’r Neuadd Fawr i’r cwrt islaw, a sŵn y bobl a oedd yn byw ac yn gweithio yma yn gweiddi ac yn sgwrsio wedi gwneud Castell Carreg Cennen yn lle swnllyd a bywiog.

 

Mae’r castell dan berchenogaeth breifat ac ar agor i ymwelwyr.  Codir tâl mynediad.  Mae toiledau, caffi a lleoedd parcio ar gael ar y safle.