Parc Gwledig Craig-y-nos

Mae gan y safle hwn hanes hir; mae olion o’r Oes Efydd, yr Oes Haearn a chyfnod y Rhufeiniaid yn y bryniau cyfagos, a chredir bod y castell presennol yn sefyll ar yr un safle â chastell y Tywysog Cymreig lleol ar ddechrau’r cyfnod canoloesol.  Mae’r castell a’r parc gwledig sydd ar y safle heddiw yn dyddio’n ôl i’r cyfnodau Fictoraidd ac ôl-Fictoraidd.

 

Yn ei ddydd, roedd gan Barc Gwledig Craig-y-nos bob un o’r nodweddion yr oedd eu hangen ar unrhyw barcdir Fictoraidd ffasiynol – gardd lysiau furiog, tai gwydr, creigerddi, lawnt croce, gardd rosynnau, coed addurnol ac egsotig, gan gynnwys cyll Ffrengig, acasiâu, merwydd a choed ewcalyptws, yn ogystal â derw a ffawydd.  Heddiw, mae’r parc yn Barc a Gerddi Cofrestredig sy’n cael ei reoli gan Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a chaiff ei wasanaethu gan nifer o lwybrau ysgafn, Canolfan Ymwelwyr ac Ystafelloedd Te, ynghyd â meinciau ac ardaloedd picnic. Mae hyn i gyd yn gwneud Craig-y-nos yn lle perffaith i dreulio’r prynhawn.   Wrth i chi grwydro’r parc gwledig, dychmygwch eich bod yn cerdded yn ôl troed Adelina Patti wrth iddi grwydro o amgylch ei gardd dirluniedig foethus.  Gallai tro bach o gwmpas y pwll pysgod arwain at daith gerdded i goteir o binwydd yr Alban. Yn ôl hanesion lleol, roedd Patti yn arfer crwydro trwy’r coed hyn i anadlu eu harogl er mwyn helpu i glirio ei llais cyn iddi berfformio.

 

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy’n rhedeg ac yn berchen ar Barc Gwledig Craig-y-nos.  Mae ar agor bob dydd ac eithrio Dydd Nadolig ac mae’r ystafelloedd te ar agor bob dydd o 10am.  Mae’r toiledau a’r cyfleusterau newid cewynnau ar agor trwy’r dydd.  Mae croeso i gŵn ym Mharc Gwledig Craig-y-nos, ond rhaid eu cadw ar dennyn.  Darperir biniau gwastraff cŵn yn y maes parcio.  Codir tâl am barcio.